Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Portffolio Critigol (2000 o eiriau) | 40% |
Asesiad Semester | Traethawd (3000 o eiriau) | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Portffolio Critigol (2000 o eiriau) | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd (3000 o eiriau) | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Dangos dealltwriaeth datblygiedig o'r disgwrs yn ymwneud a film ddogfen a mudiadau dogfen
2. Gwerthuso'n feirniadol a chritigol modelau theori dogfen
3. Cymhwyso'r theoriau i'r ffilmiau yn feirniadol
4. Dangos dealltwriaeth dadansoddol datblygiedig o wahanol testunau ffilmig
Disgrifiad cryno
Fe fydd y modiwl hwn yn edrych ar ddatblygiad y ffilm dogfennol gan gynnwys ffilm, teledu a'r rhyngrwyd. Archwilir yr hinsawdd cyfryngol hanesyddol a chyfoes, gan ystyried hanes, polisiau a strwythurau darlledu, prif fudiadau a sefydliadau, yn ogystal a thestunau neilltuol. Dehonglir damcaniaethau sy'n rhoi modd o ddeall y sialensiau sy'n gwneuthurwyr ffilmiau a rhaglenni dogfennau.
Cynnwys
10 x 3 awr Darlith/Sesiwn Gwylio
Dechreuadau 1: Flaherty
Dechreuadau 2: Vertov
Dechreuadau 3: Grierson
Propaganda: Humphrey Jennings a Leni Riefenstahl
Sinema Uniongyrchol a Cinema Verite
Torri'r Ffiniau: Drama-dogfen
Materion cyfoes: Verite Prydeinig
Sebogfen
Teledu Realiti
Dogfennau Rhyngweithiol
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Cyfrannu at drafodaethau seminar, ysgrifennu ar gyfer gwaith a asesir, darllen |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol ac ychwanegu at sgiliau sylfaenol |
Datrys Problemau | Adnabod problemau wrth drafod pynciau, bod yn ymwybodol o gymhlethdodau wrth geisio ffurfio atebion |
Gwaith Tim | Fe fydd disgwyl i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bychan yn y seminarau ac i ddeall deinamig trafodaeth. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Er na asesir y medr yma yn ffurfiol, fe fydd cyfle i fyfyrwyr drafod eu prosesau dysgu gyda'u cyd fyfyrwyr a'r tiwtor. Rhoddir adborth manwl i draethodau ar y ffurflenni asesu |
Rhifedd | Ddim yn berthnasol i'r modiwl |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen ac ymchwilio i ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, y we) ar gyfer seminarau ac asesiadau |
Technoleg Gwybodaeth | Er nad yw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r We i ymchwilio, medru defnyddio pecynnau gair brosesu ac i fod yn gyfarwydd a system e-bost y Brifysgol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6