Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Prosiect Fideo | 60% |
Asesiad Semester | Aseiniad Ysgrifenedig a Dogfennau Ategol | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Portffolio creadigol yn cynnwys rholyn arddangos | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Asesiad Ysgrifenedig a Dogfennau Ategol | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Dangos gwybodaeth o amrywiaeth eang o ffilmiau Dogfen, a'r gallu i'w creu.
2. Adnabod a diffinio'r canlyniadau arfaethedig ar gyfer cynhyrchu ffilm ddogfen. Bydd y canlyniadau yn canolbwyntio ar : adrodd straeon, arddulliau gweledol/golygu a thechnegau cynhyrchu priodol.
3. Dangos cymhwystra technegol a logistaidd ar draws cynhyrchu camera sengl.
4. Gwerthuso ac asesu gwaith cynhyrchu, dangos gallu i gynnig a derbyn beirniadaeth adeiladol.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl ymarferol hwn yn annog myfyrwyr i ddatblygu sgiliau cynhyrchu ffilmiau dogfen creadigol ac yn gyflwyniad hanfodol wrth baratoi tuag at Ymarfer Creadigol Annibynnol yn y Drydedd. O’r herwydd, bydd yn rhoi syniad o’r amrywiaeth eang iawn o arddulliau ffilmiau dogfen - ail-greu dramatig, deunydd archif, animeiddio, troslais, effeithiau sain, cerddoriaeth, cyfweliadau, sinema arsylwi. Canlyniad terfynnol y modiwl hwn fydd Dogfen Greadigol 5 munud o hyd.
Nod
Nod y modiwl yw datblygu sgiliau crefft gwaith camera ac arferion golygu yn ogystal â datblygu swyddogaethau a chyfrifoldebau er mwyn gweithio'n effeithiol a chydweithio fel tîm cynhyrchu.
Mae'r modiwl hefyd yn anelu at godi safonau proffesiynoldeb yng ngwaith cynhyrchu, cyflwyniadau a chynigion.
Cynnwys
10 x 4 awr Gweithdy
5 x 4 awr Gweithdy Golygu
Wythnos 1 - Cyflwyniad i'r modiwl, gan gynnwys sesiwn diweddaru am y camera/sain ac ymarfer arsylwi.
Wythnos 2 - Ymarfer cyfweld
Wythnos 3 - Ymarfer dweud stori a sut i gynnig syniad gogyfer a'r prosiect terfynol.
Wythnos 4 - Ymarfer gweithgaredd, ffurfio grwpiau a cynnig syniad ffilm derfynol.
Wythnos 5 - Datblygu sgiliau cyn gynhyrchu.
Wythnos 6- Tiwtorialau Grŵp ac adborth ar ddatblygiad ffilm derfynol
Wythnos 7 - Tiwtorialau Grŵp - Ffilmio ffilm derfynol
Wythnos 8 - Tiwtorialau Grŵp - Golygu ffilm derfynol
Wythnos 9 - Tiwtorialau Grŵp - trosleisio/teitlau ffilm derfynol
Wythnos 10 - Dangos y Prosiectau
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd y myfyriwr yn datblygu sgiliau ysgrifennu wrth greu'r sgriptiau. Gan eu bod yn seiliedig ar waith tîm, bydd y gweithdai yn cynnwys sgiliau cyfathrebu uchel. Trafodir hefyd waith sy'n cael ei ddangos a phynciau perthnasol, ynghyd â beirniadu sgriptiau personol y myfyrwyr. Anogir myfyrwyr i drafod yn fwyfwy manwl a soffistiedig. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y myfyrwyr yn gweithio mewn rolau wedi'u diffinio'n broffesiynol mewn gweithdai ac ymarferion a asesir, ac fe fyddant felly yn cael syniad o gynhyrchu proffesiynol yn y cyfryngau. |
Datrys Problemau | Rhoddir cyfle i fyfyrwyr fynd i'r afael ag amrywiaeth o broblemau cyfarwyddo a sinematograffig yn ystod y gweithdai wythnosol. Yn fwy penodol, bydd myfyrwyr yn ystyried technegau adrodd straeon, cyfarwyddo a golygu priodol. At hyn, wrth gynhyrchu'r gwaith, bydd myfyrwyr yn cael profiad o ddatrys y problemau logistaidd, cyllidebol a thechnegol sydd ynghlwm â chynhyrchu. |
Gwaith Tim | Bydd y gweithdy yn cynnwys gwaith grŵp wrth gynllunio a gweithredu'r gwaith cynhyrchu. Bydd cynhyrchu'r fideos yn golygu cydweithredu'n agos iawn. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd y cwrs yn gofyn am feirniadu pob agwedd ar y gwaith cynhyrchu, o'r cyfarwyddo i’r golygu. Ar ben hynny, bydd y cwrs yn mynnu bod y myfyrwyr yn trafod y gwaith a gynhyrchir wrth lunio’r sgript. Anogir y myfyrwyr i addasu eu gwaith wrth ymateb i'r asesiad hwn. Bydd yr aseiniad ysgrifenedig/traethawd beirniadol yn gwerthuso'r darn fideo. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygu sgiliau cyn-gynhyrchu drwy'r cysyniad o gynyrchiadau lluosog, a'u cynllunio. Datblygir sgiliau cynhyrchu camera sengl i lefel uwch. Datblygir sgiliau golygu drwy ôl-gynhyrchu gwaith fideo. |
Sgiliau ymchwil | Bydd cynhyrchu'r gwaith fideo yn gofyn am ymchwilio i amrywiaeth eang o weithiau cynhyrchu ffilmiau dogfen, yn ogystal â deunyddiau hanesyddol, cymdeithasol a diwylliannol. Bydd saethu a golygu’r fideos yn golygu ymchwilio i'r systemau technegol a ddefnyddir wrth eu creu. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd dyddiaduron, sgriptiau a chynigion yn cael eu geirbrosesu. Bydd y ffilm Fideo Digidol yn cael ei golygu ar gyfrifiadur gan ddefnyddio Avid Media Composer. Mae'n bosibl y defnyddir cymwysiadau a thechnolegau cyfrifiadurol eraill, gan ddibynnu ar brosiect cynhyrchu penodol y myfyriwr. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5