Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
TC26220
Module Title
Theatr Gyfoes yng Nghymru
Academic Year
2019/2020
Co-ordinator
Semester
Semester 1
Mutually Exclusive
Mutually Exclusive
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Exam 2 Hours   50%
Semester Assessment Traethawd  (2,500 gair)  50%
Supplementary Exam 2 Hours   50%
Supplementary Assessment Traethawd  (2,500 gair)  50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

​​1. Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o nifer o wahanol agweddau ar y theatr gyfoes yng Nghymru, yn enwedig mewn perthynas â’r dramâu a’r dramodwyr neilltuol a astudir ar y modiwl

2. Arddangos gallu i ymateb yn feirniadol i'r deunydd astudiaeth drwy gymhwyso gwaith ysgolheigaidd yn y maes mewn traethawd ysgrifenedig 2500 o eiriau

3 Arddangos ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r math o waith beirniadol sy’n gyd-destun allweddol i’r theatr gyfoes trwy gymhwyso deunydd a syniadau o restr ddarllen y modiwl a thu hwnt

4. Arddangos gallu i feddwl a pharatoi ymatebion deallusol cynhwysfawr i faes astudiaeth y modiwl, trwy gyflwyno atebion i bapur arholiad 2 awr

5. Arddangos gallu i adfyfyrio’n ddeallus a beirniadol ar y gwaith a gyflwynwyd yn yr aseiniad cyntaf a’r adborth a gafwyd iddo wrth fanylu ar destunau neiltuol yn yr arholiad

Content


Darlithoedd:
1.Y Cymro Dwyieithog: Gary Owen, Amgen: Broken

2.Gwleidyddiaeth Gyfansoddiadol .v. Llais y Bobl: Patrick Jones, Everything Must Go/ Sion Eirian, Yfory

3.Hunaniaeth Gyfoes a Rhyfela: David Ian Rabey, Land of My Fathers/ Meic Povey, Hogia Ni: Yma o Hyd

4.Chwedloniaeth a’r Gymdeithas Gyfoes: Kaite O’Reilly, The Woman Made of Flowers

5.Cred ac Unigolyddiaeth: Aled Jones Williams, Iesu!

6. Dinasyddiaeth Amgen: Dafydd James, Llwyth/ Roger Wiliams, Saturday Night Forever/ Nos Sadwrn o Hyd

7.Hanes a Hanesyddiaeth: Eddie Ladd, Cof y Corff

8.Cyfieithu ac Chyfaddasu: Wiliam Owen Roberts, Cymru Fach

9.Gair am Air: Bethan Marlow, Sgint

10.Yn sgil y Gymru Newydd: Ed Thomas, On Bear Ridge


Seminarau


Fe fydd y seminarau yn dilyn y testunau a’r themâu a drafodwyd yn y darlithoedd.

Brief description

Yn y modiwl hwn, fe gaiff y myfyrwyr eu cyflwyno i nifer o ddramâu cyfoes ac i wahanol agweddau ar weithgarwch theatraidd yn y Gymru gyfoes trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Gofynna’r modiwl i fyfyrwyr i adfyfyrio ar wahanol fathau o heart gyfoes, ac i leoli’r enghreifftiau hyn o fewn cyd-destun cymdeithasol priodol: fe fydd hefyd yn annog myfyrwyr i gymryd agwedd feirniadol a phersbectif eang ar theatr gyfoes yng Nghymru, gan ystyried sut y mae’n cymharu â theatr o wahanol gyfnodau a/neu o genhedloedd a chymdeithasau eraill. Lle y bo hynny’n bosibl, fe fydd y modiwl yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fynychu cynyrchiadau a gweithdai theatr a gyflwynir gan ymarferwyr a chwmnïau cyfoes, ac i holi gwneithurwyr theatr ynglŷn â chefndir eu gwaith, ei gyd-destun a’r technegau neilltuol sydd eu hangen er mwyn ei greu.


Un o brif nodweddion y modiwl hwn fydd y ffaith ei fod qedi’i gynllunio fel amgylchfyd dysgu dwyieithog a all gynnig cyfle i fyfyrwyr a chanddynt amrywiol lefelau o allu wrth siarad a deall Cymraeg i astudio a chael eu hasesu yn y Gymraeg yn ôl eu gallu. Fe fydd y deunydd darlithio yn cael ei gyflwyno yn y ddwy iaith, ac fe fydd y testunau hynny sydd wedi’u cyhoeddi yn y Gymraeg yn unig yn cael eu cyfieithu i’r Saesneg ar gyefry rheini nad ydynt yn rhugl yn y Gymraeg neu sydd angen rhywfaint o gymorth er wmyn medru’u deal yn ebrwydd. Fe geisiwn sichrau bod seminarau ar gyfer y odiwl yn cael eu cyflwyno ym mhriod iaith astudio y myfyrwyr yn ôl eu dewis.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Ni ddatblygir y sgiliau hyn yn y modiwl.
Communication Fe ddatblygir y sgiliau hyn wrth i’r myfyrwyr ymgymryd ag ysgrifennu traethawd ac arholiad ysgrifenedig, ac wrth i sgiliau ateb ac ysgrifennu effeithiol gael eu trafod yn y seminarau. Fe fydd y seminarau hwythau’n rhoi cyfle i’r myfyrwyr ddatblygu sgiliau cyfathrebu deallusol llafar.
Improving own Learning and Performance Fe fydd y myfyrwyr yn gorfod adfyfyrio ar y materion a drafodwyd ymateb ac adeiladu ar y profiad o gyflwyno syniadau a dadl ddeallusol wrth baratoi ar gyfer yr arholiad ysgrifenedig. At hynny, fe ddatblygir sgiliau gwaith a defnydd y myfyrwyr o amser wrth baratoi ar gyfer eu cyfraniad i seminarau a darlithoedd, ac mewn perthynas â’r aseiniadau ysgrifenedig. Nid asesir y broses o ddatblygu’r sgiliau hyn yn ffurfiol.
Information Technology Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl, er bod yr Adran yn mynnu bod gwaith ysgrifenedig yn cael ei gyflwyno mewn ffurf sydd wedi ei argraffu gan ddefnyddio meddalwedd prosesu geiriau.
Personal Development and Career planning Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl ond bydd llawer o'r sgiliau generig a ddatblygwyd ar y modiwl hwn yn drosglwyddadwy i sawl cyd-destun gyrfaol.
Problem solving Datblygir y medrau hyn (yn ysgrifenedig ac ar lafar) wrth i'r myfyrwyr gymhwyso esboniadau a diffiniadadau'r moddau perfformio sydd yn gysylltiedig â'r testunau a gyflwynir ar y modiwl.
Research skills Datblygir y medrau hyn wrth i'r darlithoedd, seminarau a'r asesiadau hybu a hyrwyddo myfyrdod a sylwadaeth ar gysyniadau allweddol a datblygiadau arwyddocaol mewn damcaniaeth ac ymarfer theatraidd. Fe gânt eu asesu fel rhan o’r aseiniadau ysgrifenedig.
Subject Specific Skills Ni ddatblygir sgiliau pwnc-benodol fel rhan o’r modiwl hwn.
Team work Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn ystod y modiwl, ond fe fydd y seminarau yn rhoi cyfle i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau i drafod y testunau gosod a’r pynciau sy’n codi yn eu sgîl.

Notes

This module is at CQFW Level 5