Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TC20420
Teitl y Modiwl
Drama a Hanes
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
Cwblhau Rhan 1 mewn Drama ac Astudiaethau Theatr yn llwyddianus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd (1500 o eiriau)  50%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad ysgrifenedig (2 awr)  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd (1500 o eiriau) - (i deitl newydd)  50%
Asesiad Ailsefyll Arholiad ysgrifenedig (2 awr)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Arddangos dealltwriaeth a gwybodaeth o ddatblygiad corff o waith dramataidd yn ystod cyfnod hanes penodol trwy ddadansoddi testunau dramataidd.

2. Arddangos gallu i ymateb yn feirniadol i'r deunydd astudiaeth drwy gymhwyso gwaith ysgolheigaidd yn y maes mewn traethawd ac arholiad ysgrifenedig.

3. Arddangos gallu i amgyffrediad drama fel amlygiad o fath ar theatr, gan esbonio natur y berthynas gymhleth rhwng testun ysgifenedig a chyfrwng celfyddydol byw.

4. Arddaongos dealltwriaeth o'r math o waith beirniadol sy'n gyd-destun allweddol i'r traddodiad dramataidd a ystyrir.

Nod

Fe fydd y modiwl hwn yn archwilio un o blith nifer o draddodiadau dramataidd: y ddrama fodern Ewropeaidd c. 1880-1939, y ddrama Americanaidd 1930 - 2000, drama Iwerddon 1899 - 1960 neu'r Theatr Gymraeg 1880 - 1990.

Pwrpas y cynnig i gyflwyno'r modiwl hwn fyddi alluogi myfyrwyr i drin corff o waith dramataidd dros gyfnod sylweddol o amser, ac i nodi sut y mae'r syniad o draddodiad, dilyniant neu hunaniaeth wedi'i greu mewn perthynas a'r gweithiau a gyfrifir yn rhan o'r corff hwnnw. Fe fydd y modiwl yn estyn y profiad o astudio dramau a gyflwynwyd i'r myfyrwyr yn ystod Rhan I, gan gymryd y dechneg sylfaenol a ddysgir iddynt ar y lefel hoono - sef Sylwebaeth Dramataidd - agofyn iddynt drafod a chymharu dramatau ag iddynt wahanol fathau o arddull theatraidd er mwyn ystyried i ba raddau y maent yn perthyn i'w gilydd, i ba raddau y gellir dweud bod y naill yn ysgogi neu achosi'r nesaf, a beth all fod yn gyfrifol am gymell y newid o un math o arddull i'r llall.

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn, fe'ch cyflwynir i un o nifer o gyrff o waith dramataidd er mwyn ystyried y modd y mae traddodiadau dramataidd yn cael eu sefydlu a'u cynnal, ac er mwyn archwilio'r berthynas rhwng gweithiau dramataidd unigol, bywyd a gweledigaeth gymdeithasol y dramodwyr a'u lluniodd, a chyflwr hanesyddol y gymdeithas a odd yn gyd-destun allweddol iddynt.

Cynnwys

Sesiynau dysgu:
10 x 2 awr Darlith/Seminar

Gan fod testunnau gosod a phwyslais hanesyddol yn y modiwl o newid o flwyddyn i flwyddyn (eithr fod modd o'i drin yn gyson a chanlyniadau dysgu cyffredinol y modiwl bob tro) amcan yn unig o'r gwaith a astudi y medrir ei gynnig yma. Fel enghraifft o'r cynnwys, rydym yn cyflwyno'r maes llafur arfaethedig ar gyfer astudiaeth o'r Theatr Fodern Ewropeaidd:

1. Cyflwyniad i'r Theatr Fodern:
Ramantiaeth a Theatr yr Almaen yn y ddeunawfed ganrif
Faust (Goethe)

2. Genedigaeth y Ddrama Fodern:
Woyzeck (Buchner)

3. Sylfeini Gweledigaeth Ibsen:
Peer Gynt (Ibsen)

4. Camp a Rhemp yr Avant-Garde:
Wbw Frenin (Jarry)

5. Naturiolaeth a Thu Hwnt yn Tsiecof:
Tair Chwaer (Tsiecof)

6. Mynegiadaeth yn y Theatr:
O Fore Tan Ganol Nos (Kaiser)

7. Tuag at Swrealaeth:
Priodas Waed (Lorca)

8. Y Llwyfan Mewnol:
Y Ddrama-Freuddwyd (Strindberg)

9. Dadelfeniad y Drama
Deffro'r Gwanwyn (Wedekind)

10. Brecht a'r Theatr
Y Fam Gwroldeb a'i Phlant (Brecht)

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Fe ddatblygir y sgiliau hyn wrth i'r myfyrwyr ymgymryd ag ysgrifennu traethawd, acwrthi sgiliau ysgrifennu traethawd effeithiol ar y pwnc gosodedig gael eu trafod yn y seminarau. Fe fydd y seminarau hwythau'n rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddatblygu sgiliau cyfathrebu deallusol llafar.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl ond bydd lawer o sgiliau generig a ddatblygwyd ar y modiwl hwn yn drosglwyddadwy i sawl cyd-destun gyrfaol.
Datrys Problemau Datblygir y medrau hyn wrth i'r myfyrwyr gymhwyso esboniadau a diffiniadau'r moddau perfformio sydd yn gysylltiedig a'r testunau a gyfwynir ar y modiwl.
Gwaith Tim Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn ystod y modiwl, ond fe fydd y seminarau yn rhoi cyfle i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau i drafod y testunau gosod a'r pynciau sy'n codi yn eu sgil.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Fe fydd y myfyrwyr yn gorfod ymateb i'w aseiniad cyntaf wrth baratoi ar gyfer yr arholiad ysgrifenedig y modiwl hwn. At hynny, fe ddatblygir sgiliau gwaith a defnydd y myfyrwyr o amser wrth baratoi ar gyfer eu cyfraniad i seminarau a darlithoedd. Nid asesir y broses o ddatblygu'r sgiliau hyn yn ffurfiol.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Fe fydd aseiniadau'r modiwl yn fodd o gymell y myfyrwyr i ystyried pa fathau o ddeunydd ymchwil a fydd fwyaf defnyddiol wrth ateb y cwestiynau a osodwyd (yn achos y traethawd ysgrifenedig), ac wrth geisio rhagweld a pharatoi'r math o gwestiynau a osodwyd (yn achos yr arholiad). Fe fydd y seminarau hwythau'n cynnig cyfle i'r myfyrwyr sylweddoli a dechrau cynllunio'r math o strategaeth ymchwil a fydd fwyaf manteisiol iddynt wrth baratoi eu gwaith asesiedig.
Technoleg Gwybodaeth Ni ddatblygir y medrau hyn yn y modiwl, er bod yr Adran yn mynnu bod gwaith ysgrifenedig yn cael ei gyflwyno mewn ffurf sydd wedi ei argraffu gan ddefnyddio prosesydd geiriau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5