Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 10 x Darlithoedd 1 Awr |
Seminar | 10 x Seminarau 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | 1. Portffolio beirniadol (cyfwerth â 1,500 o eiriau, yn cynnwys tair tasg x 500 o eiriau) | 50% |
Asesiad Semester | 2. Traethawd (2,500 o eiriau) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | 1. Portffolio beirniadol (cyfwerth â 1,500 o eiriau, yn cynnwys tair tasg x 500 o eiriau) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | 2. Traethawd (2,500 o eiriau) | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Adnabod, disgrifio a thrafod ystod eang o ddigwyddiadau byw yn feirniadol
2. Arddangos gallu dadansoddol a gallu i gymathu ystod eang o ddigwyddiadau byw
3. Dehongli ystod eang o ddigwyddiadau byw yn feirniadol, a hynny o fewn fframwaith beirniadol priodol.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn archwilio ystod eang o ddigwyddiadau byw. Cyflwynir sgiliau beirniadol a methodolegol i fyfyrwyr er mwyn eu cymell a'u galluogi i ystyried sut y gellir cymhwyso terminoleg o wahanol fathau er mwyn ymateb yn ddeallus, yn greadigol a dadansoddol i ddigwyddiadau byw. Gan ddefnyddio optig Astudiaethau Perfformio, bydd y modiwl nid yn unig yn dadansoddi cynyrchiadau theatraidd, ond hefyd yn cynnig modd i allu dadansoddi ystod eang o ddigwyddiadau byw mewn modd ystyriol a chreadigol. Conglfaen y modiwl fydd cyfres o ddigwyddiadau byw y bydd disgwyl i fyfyrwyr fynychu. Bydd natur y digwyddiadau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn yn rhannol yn ddibynnol ar raglen Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Bydd yr aseiniadau ynghlwm a pherfformiadau penodol; at hynny, bydd disgwyl i fyfyrwyr brynu Tocyn Blwyddyn Canolfan y Celfyddydau sydd yn rhoi mynediad i gyfres o berfformiadau a digwyddiadau penodedig am bris gostyngedig.
Nod
Galluogi myfyrwyr i adnabod, disgrifio, ac ymateb yn feirniadol i ystod eang o ymarferiadau a digwyddiadau perfformiadol a theatraidd.
Cyflwyno methodolegau a chysyniadau damcaniaethol priodol ar gyfer dadansoddi a dehongli'r digwyddiadau hyn; gan gynnwys holiaduron dadansoddi perfformiad, darllen systemau arwyddion, ffenomenoleg, a moddau eraill o ddehongli (ffeministiaeth, Marcsiaeth, rhywedd a rhywioldeb, astudiaethau ôl-drefedigaethol).
Ddatblygu gallu a sgiliau myfyrwyr i fyfyrio ar, ac ysgrifennu am ddigwyddiadau byw
Cynnwys
Darlithoedd: 10 x 1 awr Darlith
Seminarau / Tiwtorialau: 10 x 2 awr Seminar
1. Dadansoddi Dadansoddi
2. Adnabod Digwyddiad
3. Dirnad Digwyddiad (1): Semioteg
4. Dirnad Digwyddiad (2): Ffenomenoleg
5. Fframweithiau Dadansoddol 1: Marcsiaeth a Beirniadaeth Farcsaidd
6. Fframweithiau Dadansoddol 2: Ffeministiaeth
7. Fframweithiau Dadansoddol 3: Rhywedd a Rhywioldeb
8. Fframweithiau Dadansoddol 4:Cyd-destunau Gwleidyddol a Diwylliannol
9. Fframweithiau Dadansoddol 5: Ôl-drefedigaethedd
10. Crynhoi: Dulliau Dadansoddi
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd yn rhaid i'r myfyriwr gyflwyno'u gwaith yn ysgrifenedig, ac i drafod ar lafar yn y seminarau; caiff y sesiynau dysgu eu cynnig mewn modd ble gall y myfyrwyr gyfrannu at drafodaeth. Rhydd hyn gyfle i fyfyrwyr finiogi eu sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Nid oes sesiynau penodol ar gynllunio gyrfa ond wrth astudio perfformiadau a chynyrchiadau cyfoes, caiff y myfyrwyr gyfle i ddyfnhau eu gwybodaeth o ddiwydiant y cyfryngau creadigol. |
Datrys Problemau | Bydd cyfle i fyfyrwyr arddangos ymwybyddiaeth o adnabod problemau a chanfod ffyrdd o'u datrys o fewn cyd-destun astudiaeth y modiwl. |
Gwaith Tim | Cynhelir trafodaethau grŵp yn ystod y seminarau. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd yn rhaid i'r myfyriwr gyflwyno'u gwaith yn ysgrifenedig, ac i drafod ar lafar yn y seminarau; caiff y sesiynau dysgu eu cynnig mewn modd ble gall y myfyrwyr gyfrannu at drafodaeth. Rhydd hyn gyfle i fyfyrwyr finiogi eu sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Mae sgiliau penodol i'r pwnc a ddatblygir gan y modiwl hwn yn cynnwys dadansoddi dramatwrgiaethol, semioteg gweledol, dadansoddi symud. Yn ogystal, mae'r modiwl yn gorfodi myfyrwyr i ymdrin â llenyddiaeth damcaniaeth feirniadol am y tro cyntaf, ac yn cynnig strategaethau er mwyn eu hannog i ddefnyddio'r cysyniadau a gyflwynir yn y llenyddiaeth ar gyfer dibenion dehongli celfyddyd. |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio ymhellach na chynnwys ffurfiol y darlithoedd er mwyn canfod deunydd priodol i gyflawni eu haseiniadau |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio sgiliau sylfaenol technoleg gwybodaeth ar gyfer y modiwl hwn. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4