Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
TC10120
Teitl y Modiwl
Prosiect Actio
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 10 x Darlithoedd 1 Awr |
Gweithdy | 10 x Gweithdai 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Perfformiad Dosbarth 1 (tua 5 munud o hyd) Dau ddarlleniad ymarferol rhagbaratoedig, gwerth 15% or asesiad yr un. | 15% |
Asesiad Semester | Perfformiad Dosbarth 2 (tua 5 munud o hyd) Sylwebaeth 2000 o eiriau ar destun gosod. | 15% |
Asesiad Semester | Sylwebaeth 2,000 o eiriau ar destun gosod Sylwebaeth ymarferol mewn grwp yn dadansoddi a gosod darn dramataidd rhagbaratoedig yn ei gyd-destun theatraidd. | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Perfformiad Dosbarth 1 (tua 5 munud o hyd) | 15% |
Asesiad Ailsefyll | Perfformiad Dosbarth 2 (tua 5 munud o hyd) | 15% |
Asesiad Ailsefyll | Sylwebaeth 2,000 o eiriau ar destun gosod | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Sylwebaeth ymarferol unigol yn dadansoddi a gosod darn dramataidd rhagbaratoedig yn ei gyd-destun theatraidd. | 40% |
Asesiad Semester | Sylwebaeth ymarferol mewn grŵp Rhaid ail-gyflwynor gwaith a fethwyd: Gofynir i unrhyw fyfyrwyr syn methur cyflwyniad rwp ail-gyflwyno prosiect unigol a fydd yn dilyn briff a osodir gan diwtor y modiwl. yn dadansoddi a gosod darn dramataidd rhagbaratoedig yn ei gyd-destun theatraidd | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Cyflwyno darlleniad o'r testunau gosod mewn ffordd sy'n amlygu eu crefft a'u diddordeb dramataidd
2. Arddangos dealltwriaeth o'r testunau gosod fel digwyddiadau theatraidd
3. Arddangos gallu i gyflawni tasgau ymchwil llwyddiannus fel ffordd o geisio datrys problemau cymeriadu, llwyfannu a.y.b.
Disgrifiad cryno
Yn y modiwl hwn, trafodir pum testun gosod, gan ganolbwyntio yn gyntaf oll ar eu deinameg ac effeithioldeb cynhenid fel drama, cyn symud ymlaen i ystyried eu nodweddion a'u swyddogaeth fel theatr. Rhydd y sesiynau gweithdy ymarferol gyfle i'r myfyrwyr archwilio a datblygu eu hymdriniaeth o'r testunau fel digwyddiadau byw trwy gyflwyno darlleniadau ymarferol o ddarnau detholedig (disgwylir i’r rhain fod rhwng tua 5 munud o hyd). Rhydd y darlithoedd gyfle i'r myfyrwyr werthfawrogi pwysigrwydd ymchwil hanesyddol fel ffordd o werthfawrogi arwyddocad cyfoes y testunau fel digwyddiadau theatraidd.
Fe fydd y modiwl hwn yn cynnig cyfle i'r myfyrwyr ddysgu am y berthynas rhwng y testun dramataidd a'i gyd-destun theatraidd trwy gyfrwng sesiynau gweithdy, gyda'r darlithoedd ychwanegol yn ffordd o grynhoi'r wybodaeth sy'n angenrheidiol er mwyn hwyluso'r archwiliad ymarferol. Bydd y drefn hon yn cyflwyno'r myfyrwyr i theatr fel profiad synhwyrusol cyfanedig, yn hytrach nag fel agwedd ar lenyddiaeth, athroniaeth neu hanesiaeth yn unig. Gellir crynhoi nodau’r modiwl fel a ganlyn:
a. Cyflwyno nifer o agweddau neu egwyddorion sylfaenol i’r ddealltwriaeth o theatr fel digwyddiad.
b. Dangos bod theatr i’w ddeall fel digwyddiad cyfansawdd cymhleth.
c. Rhoi cyfle i’r myfyrwyr ddysgu am theatr ac am destunau dramataidd trwy gyfrwng arbrofion ac ymarferion ymarferol.
ch. Meithrin gallu’r myfyrwyr i lefaru a chyflwyno golygfeydd allan o’r testunau ymarferol.

Cynnwys
Sesiynau dysgu:
Darlithoedd: 10 x 1 awr Semester 1 a 2
dosbarthiadau ymarferol: 10 x 2 Semester 1 a 2
Trefn arfaethedig y darlithoedd a'r gweithdai:
Darlithoedd
1. Tshechof, Gwylan: rhagarweiniad i'r testun
2. Tshechof, Gwylan: y testuna'i gyd-destun theatraidd
3. Ewripides, Y Bacchai:rhagarweiniad i'r testun
4. Ewripides, Y Bacchai: y testuna'i gyd-destun theatraidd
5. Shakespeare, Y Storm: rhagarweiniad i'r testun
6. Shakespeare, Y Storm: y testun a'i gyd-destun theatraidd
7. Molière, Cariad Mr Bustl: rhagarweiniad i'r testun
8. Molière, Cariad Mr Bustl: y testun a'i gyd-destun theatraidd
9. Beckett, Samuel, Diweddgan: rhagarweiniad i'r testun
10. Beckett, Samuel, Diweddgan:y testun a'i gyd-destun theatraidd
Gweithdai Ymarferol
1. Tshechof, Gwylan: sefyllfa a chymeriad
2. Tshechof, Gwylan: gofod dramataidd a gofod theatraidd
3. Ewripides, Y Bacchai: sefyllfa a chymeriad
4. Ewripides, Y Bacchai: defodaeth a dinasyddiaeth
5. Shakespeare, Y Dymestl: sefyllfa a chymeriad
6. Shakespeare, Y Dymestl: estroniaeth a meidroldeb
7. Molière, Cariad Mr Bustl: sefyllfa a chymeriad
8. Molière, Cariad Mr Bustl: etifeddeg ac esblygiad
9. Beckett, Samuel, Diweddgan: sefyllfa a chymeriad
10. Beckett, Samuel, Diweddgan: Auschwitz a'r Rhyfel Oer

Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Disgwylir i’r myfyrwyr fedru datblygu’r medrau hyn yn reit sylweddol yn ystod y modiwl, wrth geisio cyflwyno darlleniadau o’r testunau gosod, ac wrth baratoi’r sylwebaetha ‘r cyflwyniad ysgrifenedig. Datblygir y medrau hyn o safbwynt academaidd gyffredinol ac mewn ffordd sy’n benodol briodol i’r pwnc. |
Datrys Problemau | Datblygir y medrau hyn wrth geisio pontio rhwng y geiriau ar dudalenau’r testun gosod a’r amgylchiadau corfforol a gofodol a geir wrth gyflwyno\r testun yn fyw. Mae ceisio trosi o’r dudalen i’r llwyfan yn broblem sylfaenol mewn Astudiaethau Theatr. |
Gwaith Tim | Datblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y sylwebaeth ymarferol mewn grŵp. Disgwylir i gyflwyniad y myfyrwyr ddangos elfen sicr o gydweithio ac o drafod rhyngddynt o flaen llaw. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae'r ffaith fod yr ail gyflwyniad yn datblygu'r dechneg a ddefnyddir yn yr asesiad cyntaf yn arwydd clir o'r modd y datblygir y medrau hyn yn y modiwl. Disgwylir datblygiad pendant o'r naill asesiad o'r llall o ran meistrolaeth y myfyrwyr ar eu deunydd. |
Sgiliau pwnc penodol | Mae sgiliau penodol i’r pwnc a ddatblygir gan y modiwl hwn yn cynnwys dadansoddi dramatwrgiaethol, semioteg gweledol, dadansoddi symud a dealltwriaeth o'r berthynas estheteg ac ymarferiadau deallusol. |
Sgiliau ymchwil | Datblygir y medrau hyn wrth i’r myfyrwyr geisio mwy o wybodaeth am hanes theatraidd y testunau gosod. Fe fydd y sylwebaeth ysgrifenedig a’r cyflwyniad grŵp yn gyfle i’r myfyrwyr ddatblygu a gwerthuso’r medrau hyn yn uniongyrchol. |
Technoleg Gwybodaeth | Datblygir y medrau hyn yn anuniongyrchol yn y modiwl. Bydd y myfyrwyr yn defnyddio deunydd gweledol neu glywedol wrth baratoi eu sylwebaeth ymarferol mewn grŵp, ac mae’n dra phosibl y bydd y deunydd hwnnw’n cael ei gyflwyno trwy gyfrwng dulliau technoleg gwybodaeth (e.e. deunydd fideo oddi ar y wê, PowerPoint ac ati) yn y cyflwyniad ei hun. Fodd bynnag, nid oes le yn y modiwl i gynnig hyfforddiant ffurfiol i fyfyrwyr yn y mater hwn. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4