Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
SC20600
Module Title
Seicoleg mewn gweithred
Academic Year
2019/2020
Co-ordinator
Semester
Semester 1 (Taught over 2 semesters)
Other Staff

Course Delivery

Delivery Type Delivery length / details
Tutorial 22 x Tiwtorial 4 Awr
 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment traethawd (2000 geiriau) a crynodeb (500 geiriau)  100%
Supplementary Assessment traethawd (2000 geiriau) a crynodeb (500 geiriau)  100%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

Wrth gwblhau’r modiwl hwn, dylai’r myfyrwyr fedru dangos:
1. Dealltwriaeth o gymhlethdodau a gofynion llunio portffolio profiad gwaith.
2. Esiamplau o flaenoriaethau’r cyd-destun cymhwysol o ddydd i ddydd.
3. Esiamplau o’r rolau a’r sgiliau y mae’r lleoliad cymhwysol yn gofyn amdanynt.
4. Esiamplau o’r ymarfer moesegol a phroffesiynol yn y lleoliad cymhwysol.
5. Gallu myfyrio ar sgiliau, a rhoi tystiolaeth ohonynt, er mwyn gwella cynnydd personol a chyflogadwyedd.

Brief description

Modiwl lleoli yw SC20620 sy’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr feithrin ac ymarfer eu sgiliau yn y gweithle. Nod y modiwl yw datblygu sgiliau cyflogadwyedd myfyriwr mewn meysydd sy’n bwysig ar gyfer recriwtio graddedigion yn ôl yr Asiantaeth Addysg Uwch a Chymdeithas Seicolegol Prydain. Er enghraifft, datrys problemau, myfyrio, sgiliau ymchwil, cyfathrebu, gwella eich dysgu a’ch perfformiad eich hun, datblygiad personol a chynllunio gyrfa a sgiliau pwnc sy’n berthnasol i seicoleg. Caiff myfyrwyr hefyd olwg ar y cyd-destun cynhwysol a’r rolau sy’n gysylltiedig â’r gweithle er mwyn hwyluso eu syniadau eu hunain am lwybrau gyrfa a dyheadau. Bydd y lleoliad gwaith yn gyfle i bob myfyriwr gael profiad mewn meysydd proffesiynol, gwirfoddol neu feysydd sy’n gysylltiedig â’r gwaith. Bydd pob myfyriwr yn gyfrifol am sicrhau ei leoliad ei hun.

Content

Lleoliad: un lleoliad ugain awr i’w ddewis o blith meysydd clinigol, addysgiadol, diwydiannol, sefydliadol, a chymunedol naill ai fel gweithiwr neu wirfoddolwr.
Paratoi ar gyfer lleoliad
Sgiliau trosglwyddadwy
Moeseg ac ymddygiad proffesiynol yn y gweithle
Yr ymarferydd myfyriol
Gyrfaoedd mewn seicoleg a chynllunio gyrfa

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Yn ystod y lleoliad, anogir myfyrwyr i ystyried ac ymarfer eu sgiliau rhif mewn sawl cyd-destun.
Communication Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Yn ystod y lleoliad, anogir myfyrwyr i ymarfer eu gwrando, siarad, ac ysgrifennu ar gyfer gwahanol ddibenion a gwahanol gynulleidfaoedd.
Improving own Learning and Performance Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Anogir myfyrwyr i ystyried eu harddull ddysgu eu hunain, dewisiadau personol, ac amcanion ar gyfer y dyfodol. Byddant yn cael blas ar ddysgu yng nghyd-destun y gweithle ac yn monitro eu cynnydd eu hunain tuag at eu hamcanion dysgu.
Information Technology Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Yn ystod y lleoliad, efallai bydd myfyriwr yn arsylwi neu’n ymarfer effeithiolrwydd sgiliau TG yn y lleoliad proffesiynol ac ymarferol.
Personal Development and Career planning Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Mae’r modiwl hwn yn cynorthwyo myfyrwyr i ystyried eu sgiliau eu hunain yng nghyd-destun y lleoliad cymhwysol. Mae’r lleoliad hwn yn rhoi’r cyfle i baratoi, neu gynllunio ar gyfer, llwybrau gyrfa’r dyfodol a llwybrau cynnydd.
Problem solving Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Yn ystod y lleoliad disgwylir i’r myfyrwyr weld esiamplau o ddatrys problemau yn y lleoliad cymhwysol; gall hyn gynnwys adnabod problemau, gwerthuso atebion posib, meithrin gwydnwch wrth wynebu problemau, neu feddwl creadigol wrth ddatrys problemau.
Research skills Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Yn ystod y lleoliad, disgwylir i’r myfyrwyr weld esiamplau o ddefnyddio dulliau ymchwil yn y lleoliad cymhwysol a myfyrio ar eu sgiliau.
Subject Specific Skills Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Yn ystod y modiwl hwn, bydd y myfyriwr yn deall ac yn rhoi eu gwybodaeth am seicoleg ar waith yn y lleoliad cymhwysol. Bydd myfyrwyr yn cael blas ar ymarfer proffesiynol a moesegol mewn sawl cyd-destun amrywiol.
Team work Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Yn ystod y lleoliad, bydd y myfyrwyr yn cael blas ar ddeinameg grŵp, amcanion grŵp, a’u cyfraniad eu hunain i waith tîm effeithiol.

Notes

This module is at CQFW Level 5