Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
MR39120
Module Title
Rheoli Cyrchfannau ac Atyniadau
Academic Year
2019/2020
Co-ordinator
Semester
Semester 1
Mutually Exclusive
Pre-Requisite
Other Staff

Course Delivery

Delivery Type Delivery length / details
Seminar 5 x Seminarau 1 Awr
 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Exam 2 Hours   50%
Semester Assessment Datblygu safle wiki mewn grwp  (1,500 gair)  35%
Semester Assessment Aseiniad Adfyfyriol  (1,000 gair)  15%
Supplementary Exam 2 Hours   50%
Supplementary Assessment Safle Wiki  35%
Supplementary Assessment Aseiniad Adfyfyriol  (1,000 gair)  15%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Esbonio rôl cyrchfannau ac atyniadau yn y system dwristiaeth.

2. Trafod yr hyn sy’n gwneud cyrchfannau ac atyniadau yn gystadleuol.

3. Asesu sail rhesymegol, cwmpas a dulliau rheoli cyrchfannau ac atyniadau.

4. Nodi a chloriannu’r heriau allweddol wrth reoli cyrchfannau ac atyniadau.

5. Gwerthuso amrywiaeth o astudiaethau achos cyfoes ar reoli cyrchfannau ac atyniadau i ymwelwyr.

Content

Natur a swyddogaeth y gyrchfan yn y system dwristiaeth. Cyrchfannau, rhanddeiliaid a rhyng-ddibyniaethau. Y goblygiadau o ran rheolaeth a chynllunio.
Mathau o gyrchfannau a’r hyn sy’n eu gwneud yn gystadleuol. Adnoddau ac atyniadau. Daearyddiaeth y galw am dwristiaeth ac adnoddau, hinsawdd a thrafnidiaeth.
Grymoedd sy’n dylanwadu ar ba mor gystadleuol yw cyrchfan. Sut i fod yn gystadleuol mewn marchnad ddeinamig. Risgiau ac argyfyngau. Sut i adnabod argyfyngau, eu rheoli, ac adfer yn eu sgil.
Delweddau cyrchfannau. Sut i’w ffurfio, dylanwadau a’u swyddogaethau. Technegau ar gyfer asesu delweddau. Rheoli delwedd cyrchfannau.
Swyddogaeth a natur atyniadau i ymwelwyr. Datblygu atyniadau i ymwelwyr. Economeg datblygu parciau thema. Problemau wrth ddatblygu atyniadau i ymwelwyr mewn ardaloedd ymylol. Arwyddocâd cymdeithasol a gwleidyddol. Materion yn ymwneud â dilysrwydd.
Rheoli atyniadau i ymwelwyr. Rheoli effaith ymwelwyr. Rheoli tymoroldeb yn strategol. Heriau i atyniadau sy’n seiliedig ar grefydd. Materion yn ymwneud â rheoli adnoddau dynol.
Marchnata atyniadau i ymwelwyr. Heriau a chyfleoedd i atyniadau sy’n seiliedig ar dreftadaeth. Materion brandio. Strategaethau marchnata cystadleuol a chydweithredol.

Brief description

Saif y cyrchfan wrth galon y system twristiaeth. I ddefnyddwyr hwn yw’r ysgogiad y tu ôl i’w penderfyniadau ynglyn â theithio, yr hyn sy’n llywio eu disgwyliadau a’u bodlonrwydd. I gynhyrchwyr, y cyrchfan yw’r cyd-destun sy’n dod ag elfennau gwahanol o’r system twristiaeth at ei gilydd er mwyn cyfosod a chyflenwi cynnyrch neu wasanaeth cyflawn gan y gwasanaeth twristiaeth. Mae atyniadau yn chwarae rôl allweddol yn y datbygiad a’r gynhaliaeth o gyrchfannau twristiaeth. Bydd y modiwl yn ffocysu ar astudio’r cyrchfan ar y cychwyn, gan astudio natur y cyrchfan a’i ffynonellau cystadleuol, cyn symud ymlaen i ystyried rôl sefydliadau rheoli cyrchfannau a marchnata trwy ddefnyddio delweddau o’r cyrchfan. Yna bydd yn astudio atyniadau ymwelwyr o gyd-destun y cyrchfan, gan archwilio eu natur a’u rôl, eu datblygiad, marchnata a rheolaeth. Bydd y modiwl yn cynnwys o leiaf dau ymweliad maes ac ystod o astudiaethau go iawn a fydd yn enghreifftio’r materion o dan sylw.
Amcanion
Mae’r cyrchfan twristiaiaeth yn elfen hanfodol o’r system twristiaeth, tra bod atyniadau yn adlewyrchu’r prif yrrwr o ran galw am gyrchfannau: heb atyniadau ni fyddai cyrchfannau. Ond, mae cyrchfannau ac atyniadau wedi cael eu hesgeuluso fel ffocws dadansoddi mewn llenyddiaeth.
Pwrpas y modiwl yma yw i ddatblygu dealltwriaeth o rôl cyrchfannau ac atyniadau o safbwynt y cynhyrchu a’r defnydd o dwristiaeth, yn ogystal ag archwilio sut y caiff cyrchfannau ac atyniadau eu rheoli a’u marchnata er mwyn adnabod yr ystod o elfennau sy’n dylanwadu ar gystadleuaeth y cyrchfannau a’r atyniadau ac i archwilio strategaethau i reoli’r dylanwadau hynny.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number
Communication Bydd gofyn i’r myfyrwyr ddatblygu cynnwys ar-lein effeithiol ac yna cymryd rhan mewn trafodaethau ar-lein. Asesir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig y myfyrwyr yn yr arholiadau.
Improving own Learning and Performance
Information Technology Bydd angen i’r myfyrwyr ddefnyddio TG wrth gwblhau eu prosiectau - sef creu prosiect wiki ar y cyd yn achos y modiwl hwn. Caiff hyn ei asesu a rhoddir adborth hefyd.
Personal Development and Career planning Bydd y modiwl yn cynnwys dau ymweliad safle, a fydd yn rhoi cipolwg ar gyrfaoedd yn y rhan yma o’r diwydiant twristiaeth.
Problem solving
Research skills Bydd gofyn i’r myfyrwyr gynllunio a gwneud ymchwil ar gyfer eu cyflwyniad grŵp, gan ddefnyddio adnoddau llyfrgell ac electronig. Caiff hyn ei asesu yn y cyflwyniad a rhoddir adborth i’r myfyrwyr.
Subject Specific Skills
Team work Bydd y myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau ar aseiniad, a fydd yn arwain at brosiect grŵp a chaiff ei asesu. Wrth wneud hyn, bydd angen iddynt ddangos sgiliau effeithiol wrth weithio mewn tîm. Bydd elfen o farc y prosiect yn adlewyrchu’r elfen gwaith tîm a rhoddir adborth ar hyn i’r myfyrwyr.

Notes

This module is at CQFW Level 6