Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
MR33920
Module Title
Dulliau Ymchwil
Academic Year
2019/2020
Co-ordinator
Semester
Semester 2
Mutually Exclusive
Pre-Requisite
Other Staff

Course Delivery

Delivery Type Delivery length / details
Tutorial 5 x Tiwtorial 1 Awr
 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Asesiad ysgrifenedig 1  (2,000 gair)  50%
Semester Assessment Asesiad ysgrifenedig 2  (2,000 gair)  50%
Supplementary Assessment Asesiad ysgrifenedig 1  (2,000 gair)  50%
Supplementary Assessment Asesiad ysgrifenedig 2  (2,000 gair)  50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Dangos dealltwriaeth o natur a phwysigrwydd ymchwil mewn cyd-destun busnes a rheolaeth neu farchnata.

2. Dangos dealltwriaeth o wahanol ddulliau ymchwil, a’r gwahaniaethu rhyngddynt, gan gloriannu’n feirniadol oblygiadau moesegol pob un.

3. Canfod, dadansoddi a chloriannu testunau sy’n berthnasol i bwnc ymchwil penodol.

4. Casglu data cynradd ac eilaidd gan nodi a gwerthuso’r cyfyngiadau a manteision o ddefnyddio’r gwahanol ddulliau.

5. Dadansoddi a gwerthuso data gan ddefnyddio ystod o ddulliau a thechnegau.

6. Cyfleu casgliadau’r prosiect ymchwil yn briodol.

Brief description

Pwrpas y modiwl yma yw i ddarparu myfyrwyr â’r wybodaeth, y dealltwriaeth a’r sgiliau angenrheidiol i gyflawni darn o ymchwil mewn busnes. Dylai’r myfyrwyr fedru: dangos dealltwriaeth o sut mae adnabod problem/anhawster a datblygu cwestiwn ymchwil; dewis dull ymchwil a myfyrio ar eu safbwyntynglyn â’r ymchwil; dylent fedru adeiladu dadl feirniadol; casglu data, dadansoddi a chyfwyno eu darganfyddiadau mewn modd briodol.

Amcanion
Mae’r modiwl yma yn caniatau i fyfyrwyr ddysgu gwahanol sgiliau ymchwil a bydd yn eu darparu ag astudiaeth dreiddgar o ymchwil sy’n ymwneud â busnes. Bydd yn rhoi cyfwyniad cynhwysfawr iddynt i’r pwnc dulliau ymchwil busnes ac yn cynnwys hanfodion pob cysyniad ymchwil cymhwysol modern cyffredinol, dulliau a thechnegau.
Mae’r modiwl yma yn rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr Busnes a Rheolaeth o’r pwysigrwydd o weithredu dull gwrthrychol tuag at ymchwil a’r pwysigrwydd o ddysgu hunan-atblygol. Cyflwyna’r modiwl y myfyrwyr Busnes a Rheolaeth i’r arfer o ymchwilio, gan gynnwys moeseg a methodoleg, gan ddefnyddio dulliau ymchwil ansoddol a meintiol.

Content

10 darlith 2 awr yn y pynciau canlynol:
Cyflwyniad i ddulliau ymchwil
Ffurfio Cwestiynau Ymchwil a Chreu Data
Ymchwilio testunau ac adolygu testunau
Wythnos adborth
Cynllunio Data Ansoddol
Casglu a Dadansoddi Data Ansoddol
Cynllunio Data Meintiol
Casglu a Dadansoddi Data Meintiol
Adolygu a Chynllunio Goblygiadau Rheolaethol

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Cyfleoedd i ddefnyddio technegau meintiol sy’n briodol i’r pwnc a ddewiswyd.
Communication Darllen ac ysgrifennu mewn gwahanol gyd-destunau ar gyfer cynulleidfaoedd a dibenion gwahanol.
Improving own Learning and Performance Sgiliau trefnu ac ymchwilio; datblygu eu harddull o ddysgu eu hunain, eu hoffterau a’u hanghenion personol, a sut i ddysgu’n annibynnol.
Information Technology Defnyddio’r rhyngrwyd i ddod o hyd i ddeunydd cyfeiriol priodol; defnyddio technoleg gwybodaeth wrth ddadansoddi data ac wrth baratoi a chyflwyno adroddiad.
Personal Development and Career planning Hunan-reoli, blaengaredd, annibyniaeth a hunan-ymwybyddiaeth.
Problem solving Nodi problemau a ffactorau a allai ddylanwadu ar ddatrysiadau posib; datblygu ffyrdd o ddatrys problemau trwy feddwl yn greadigol. Gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posib; llunio cynnig rhesymegol mewn wrth ymateb i broblem.
Research skills Canfod, dethol a chymhathu gwybodaeth o ffynonellau amrywiol er mwyn paratoi wrth baratoi aseiniad.
Subject Specific Skills Cymhwyso sgiliau ansoddol a/neu meintiol i sefyllfaoedd rheoli penodol a'r amgylchedd busnes presennol.
Team work Bydd y seminarau/darlithoedd yn cynnwys ymarferion grŵp.

Notes

This module is at CQFW Level 6