Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
MR31420
Module Title
Ymddygiad Defnyddwyr
Academic Year
2019/2020
Co-ordinator
Semester
Semester 1
Mutually Exclusive
Pre-Requisite
Other Staff

Course Delivery

Delivery Type Delivery length / details
Seminar 5 x Seminarau 1 Awr
 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Exam 2 Hours   50%
Semester Assessment Traethawd  (2,500 gair)  50%
Supplementary Exam 2 Hours   50%
Supplementary Assessment Traethawd  (2,500 gair)  50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Cymhwyso gwahanol safbwyntiau damcaniaethol ynghylch yr 'Hunan' a sut mae’r rhain yn gysylltiedig ag ymddygiad defnyddwyr

2. Cymhwyso a gwerthuso safbwyntiau gwahanol ar sut, ble, pryd, beth a pham mae unigolion yn treulio.

3. Cymhwyso safbwyntiau am ddefnyddwyr fel unigolion, eu hanghenion a’u cymhellion fel unigolion, gan adnabod seiliau rhesymegol ac emosiynol o’u gweithredoedd fel defnyddwyr.

4. Disgrifio gwahanol safbwyntiau cymdeithasol-ddiwylliannol ynghylch sut, ble, pryd, beth a pham y mae unigolion a grwpiau yn treulio.

5. Dangos dealltwriaeth o’r defnyddiwr fel bod cymdeithasol, ei anghenion cymdeithasol, ei gymhellion, a’i safle o fewn strwythurau cymdeithasol a deall sut y bydd y rhain yn llywio penderfyniadau ynglŷn a phrynu.

6. Dangos dealltwriaeth o’r berthynas rhwng yr ‘Hunan’ a chymdeithas a dangos sut mae’r rhyngberthynas yn hysbysu penderfyniadau o ran treuliant.

Brief description

Mae astudio ymddygiad defnyddwyr yn ran o’r ddisgyblaeth Marchnata sydd dal yn datblygu. Mae’n ffocysu ar sut mae’r defnyddwyr terfynol a’r defnyddwyr busnes yn gwneud penderfyniadau ynglyn â’r adnoddau sydd ganddynt o ran treulio amser, neu wario arian neu’n gwneud ymdrech ar eitemau cysylltiedig. Mae hyn yn cynnwys beth maen nhw’n ei brynu, pam y maent yn ei brynu, ble maen nhw’n ei brynu a pha mor aml maent yn ei ddefnyddio.

Amcanion
Mae’r modiwl yma yn bwriadu datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth myfyrwyr o’r egwyddorion a’r theorïau hanfodol sydd ynghlwm â’r broses ymddygiad defnyddwyr o fewn cyd-destun marchnata. Bydd y darlithoedd a’r seminarau yn cyflwyno’r rôl y mae ymddygiad defnyddwyr yn ei chwarae o fewn y datblygiad, y defnydd a’r datrusiad o broblemau ymarferol mewn marchnata. Y canlyniad net fydd arddangos dealltwriaeth o’r byd. Bydd hyn yn adeiladu ar y dealltwriaeth a gafwyd yn y modiwlau Rheoli Marchnata ac Ymchwil Marchnata.

Content

Cyflwyniad (Y Ddarlith Gyntaf)
Rhan 1: Sylfeini Ymddygiad Defnyddwyr
  • Prosesau Ymddygiadol *Canlyniadau Ymddygiadol
Rhan 2: Dylanwadau seicolegol ar brynwriaeth
  • Prosesau emosiynol *Prosesau gwybyddol *Personoliaeth a’r Hunan
Rhan 3: Dylanwadau cymdeithasol ar brynwriaeth
  • Grwpiau cyfeiriol * Grwpiau rhithwir
  • Adolygu (Y Ddarlith Olaf)

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number
Communication Darllen mewn cyd-destunau gwahanol ac am resymau gwhanol. Ysgrifennu am resymau gwahanol ac ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol.
Improving own Learning and Performance
Information Technology Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn aml. Cyflwyno gwybodaeth a data. Defnyddio e-bost/y rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol.
Personal Development and Career planning Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau, credoau a rhinweddau personol, mewn perthynas â gwneud cynnydd chynnydd ar y cwrs ac o safbwynt gyrfaol.
Problem solving Adnabod problemau. Adnabod ffactorau a allai ddylanwadu ar ddatrysiadau posib. Datblygu dulliau o ddatrys problemau trwy feddwl yn greadigol. Cloriannu manteision ac anfanteision datrysiadau atebion posib. Llunio ymateb rhesymegol i broblem.
Research skills Deall ystod o ddulliau ymchwil. Cynllunio a chynnal ymchwil.
Subject Specific Skills Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau personol, credoau a rhinweddau perthansol ar gyfer datblyguad yn ystod y cwrs ac ar gyfer datblygiad gyrfaol.
Team work

Notes

This module is at CQFW Level 6