Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Amrywiol | 1 x Gweithgaredd Amrywiol 2 Awr |
Ymarferol | 1 x Gweithgaredd Ymarferol 8 Awr |
Darlith | 8 x Darlithoedd 1 Awr |
Llafar | 1 x Gweithgaredd Llafar 2 Awr |
Gweithdy | 1 x Gweithdy 3 Awr |
Seminar | 1 x Seminar 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd (2,000 gair) | 60% |
Asesiad Semester | Asesiad llafar Cyflwyniad | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd (2,000 gair) | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad ysgrifenedig (1,000 gair) | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Dangos dealltwriaeth o werth Hanes ym mywyd cyhoeddus.
2. Dangos dealltwriaeth o sut mae Hanes yn cael ei defnyddio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau.
.3. Dangos gallu i ddefnyddio sgiliau allweddol
Disgrifiad cryno
Nid yw hanes yn bodoli mewn llyfrau neu ddarlithfeydd yn unig. Mae’r byd y tu allan i’r brifysgol yn cael ei siapio mewn ffyrdd arwyddocaol gan straeon am y gorffennol. Mae’r modiwl hwn wedi cael ei ddylunio i helpu myfyrwyr ymgymryd â’r straeon hynny, gan eu hannog i ystyried Hanes ym mywyd cyhoeddus. Trwy weithio mewn timau, bydd myfyrwyr yn ystyried ffyrdd ymarferol o ddefnyddio eu diddordebau personol eu hunain a’u harbenigedd mewn ffyrdd sydd o ddiddordeb i’r cyhoedd. Mae’r modiwl yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau allweddol hefyd a bydd yn darparu’r sgiliau sydd yn mynd i fod o ddefnydd mewn gyrfaoedd yn y dyfodol. Ar yr un pryd, bydd myfyrwyr yn magu dealltwriaeth o’r ffyrdd y mae Hanes yn y sffêr gyhoeddus yn wahanol neu’n debyg i’r hanes a ysgrifennir gan haneswyr proffesiynol.
Cynnwys
Darlith 1: Hanes a Chymdeithas
Darlith 2: Hunaniaeth, Hanes a Threftadaeth
Wythnos 2
Darlith 3: Newyddiaduraeth ac Ymwybyddiaeth Hanesyddol
Darlith 4: Teledu, Ffilm a Hanes
Wythnos 3
Darlith 5: Hanes a Hysbysebu
Darlith 6: Gwleidyddiaeth a Gwleidyddiaeth y Gorffennol
Wythnos 4
Darlith 7: Hanes a’r Ysgol
Darlith 8: Hanes ac Adloniant
Wythnos 5
Gweithdy Cynllunio: 3 Awr
Wythnos 6
Sesiwn hyfforddiant 1-2 awr
Wythnos 7
Diwrnod Prosiect: 8 Awr
Wythnos 8
Seminar 1 awr er mwyn cwblhau’r prosiect a phenderfynu tasgau cyflwyniad llafar
Wythnos 9
Cyflwyniadau asesiedig: 2 awr (cyflwyniadau 20 munud ac wedyn trafodaeth dosbarth)
Wythnos 11
Dyddiad cau’r traethawd
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae’r myfyrwyr yn cael eu hasesu’n llafar ac y mae angen iddynt gyfathrebu’n effeithiol gydag aelodau eraill o’r grŵp yn ystod y gweithdy a’r prosiect. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae’r darlithiau i gyd yn canolbwyntio ar hanes fel gyrfa mewn un ffordd neu’i gilydd. Fel mae’r myfyrwyr yn canolbwyntio ar eu gwaith prosiect, bydd disgwyl iddynt ystyried eu gyrafoedd wedi iddynt gwblhau eu graddau. Mae’r modiwl i fod i’w helpu datblygu CV a hyder cynyddol am werth hanes yn y byd cyhoeddus. |
Datrys Problemau | Wedi’r gweithdai ddod i ben, mae’r myfyrwyr yn gweithio’n annibynnol ac yn rheoli eu hamser eu hunain. Byddan nhw’n datrys problemau sy’n codi yng nghyd-destunau galwedigaethol penodol. |
Gwaith Tim | Mae gwaith tïm yn rhan hanfodol o’r asesiadau a’r broses dysgu yn y gweithdai a’r prosiect. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Trwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu, mae’r modiwl yn manteisio myfyrwyr ag amrywiaeth o ddulliau addysgu, sy’n helpu myfyrwyr datblygu hyder yn eu hastudiaethau. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Mae’n bosibl disgrifio’r modiwl fel ‘hanes cyhoeddus’, sy’n rhan annatod o unrhyw radd Hanes. |
Sgiliau ymchwil | Mae’r modiwl yn cynnwys cryn dipyn o ymchwil arlein ac y bydd yr ymchwil yn datblygu sgiliau llythrennedd gwybodaeth, yn enwedig yng nghyd-destun gwaith paratoadol ar gyfer y gweithdy ac yn ystod y prosiect. |
Technoleg Gwybodaeth | Mae pob rhan o’r modiwl yn cynnwys rhywfaint o ddefnydd o dechnoleg gwybodaeth. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4