Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | 14,000-15,000 o eiriau. Rhaid cytuno ar destun y Traethawd Hir a dylid ei gyflwyno fel arfer erbyn y Dydd Mercher cyntaf yn mis Medi - gweler y Llawlyfr | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Mae pedwar canlyniad i'r dysgu: yn gyntaf, bydd y myfyriwr yn meithrin arbenigedd yn ei faes astudiaeth arbenigol; yn ail, bydd y myfyriwr yn datblygu ei sgiliau dadansoddol; yn drydydd, bydd y myfyriwr yn datblygu ei allu i fynegi syniadau ar bapur; ac yn bedwerydd, bydd y myfyriwr yn datblygu sgiliau ymchwil.
Nod
Nod y Traethawd Estynedig yw asesu gallu'r myfyriwr i ddadansoddi casgliad mawr o wybodaeth, ei drefnu, a'i ysgrifennu mewn ffordd sy'n cynnal dadl argyhoeddiadol. Nid gofyn am waith gwreiddiol a wneir; ond ysgrifennu darn o waith ymchwil sy'n arddangos bod y myfyriwr yn gallu meddwl yn annibynnol. Neilltuir aelod o staff ar gyfer pob myfyriwr a fydd yn cynghori a chynnig arweiniad i'r myfyriwr ar strwythur a dadl y thesis.
Cynnwys
Bydd cynnwys y modiwl traethawd estynedig yn wahanol i bob myfyriwr. Mae myfyrwyr yn cynnig testun ar gyfer eu traethawd estynedig a bydd hwn yn cael ei gymeradwyo gan Cyfarwyddwr Astudiaethau Uwch-raddedig. I lwyddo, rhaid i draethawd estynedig gyflawni'r amcanion sydd i'w gosod yn eglur ar y cychwyn; cynnal dadl gydlynol wedi ei datblygu'n dda; a chael ei gyflwyno mewn modd ysgolheigaidd.
Sgiliau trosglwyddadwy
- Gosod nodau y gellir eu cyflawni sy'n ymwneud a'u dewis pwnc
- Sgiliau ymchwil wrth gasglu ynghyd lenyddiaeth eilradd ac, yn rhai achosion, ffynonellau cynradd, mewn perthynas a'r pwnc penodol a ddewisir
- Sgiliau Technoleg Gwybodaeth wrth ddefnyddio technoleg gwybodaeth wrth ymchwilio (yn enwedig waith ymchwil trwy ddefnyddio'r rhyng-rwyd) ac wrth ddefnyddio prosesu geiriau wrth ysgrifennu'r traethawd estynedig
- Sgiliau rheoli amser wrth lunio cynllun ymchwil ac ysgrifennu ac yna wrth gwblhau'r traethawd estynedig erbyn dyddiad cau penodedig
- Sgiliau dadansoddol wrth lunio'r ddadl a datblygu fframwaith dadansoddol
- Sgiliau ysgrifennu academaidd wrth ysgrifennu'r traethawd estynedig, gan gynnwys cydymffurfio ag agweddau ffurfiol ysgrifennu'n academaidd megis defnyddio troednodiadau, cyfeiriadau, a llunio llyfryddiaeth.
Disgrifiad cryno
Mae'r traethawd estynedig yn elfen bwysig o raglen Meistr yr Adran. Mae'n cynnig cyfle i fyfyrwyr Meistr ymchwilio ac ysgrifennu darn o waith ymchwil annibynnol o 14,000-15,000 o eiriau erbyn 10 Medi 2004.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7