Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminar | 22 x Seminarau 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl yn rhoi cyfle i fyfyrwyr arddangos gwybodaeth sylweddol yn y pwnc a ddewiswyd. Mae'r galluogi myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol i ysgrifennu traethawd hir. Mae'r modiwl yn cynnig gwybodaeth gyffredinol yngl'r a dulliau ymchwil, methodolegau a fframweithiau damcaniaethol sy'r galluogi myfyrwyr i ymchwilio'r annibynnol.
Cynnwys
1. Cyflwyniad cyffredinol i ysgrifennu traethawd hir
2. Sut i ffurfio cwestiwn a phwysigrwydd dadl
3. Sgiliau cyfeirio a llyfryddiaeth
4. Adolygiad o lenyddiaeth a sgiliau datblygu meddwl beirniadol
Nod
Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf astudio pwnc penodol yn ymwneud a'r cynllun gradd mewn mwy o fanylder. Rhydd i fyfyrwyr wybodaeth am ddulliau ymchwil a'r sgiliau ymchwil a chyflwyno sylfaenol sydd eu hangen er mwyn cwblhau'r traethawd hir. Mae hefyd yn caniatau i fyfyrwyr arddangos ychydig o'r syniadau personol, y gallu i weithio'r annibynnol a'r gallu i lunio dadl gydlynol dros destun gweddol hir.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig a sut i fynegi eu hunain yn gadarn. Byddant yn deall pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ddefnyddio’r sgiliau hyn. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio’r nifer o ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio’r ffurf addas o gyfathrebu yn y ffordd orau. Byddant yn dysgu bod yn eglur ac yn uniongyrchol ac yn gadarn ynglŷn â nodau ac amcanion. Byddant yn dysgu ystyried yr hyn sy’n berthnasol i bwnc, ffocws ac amcanion eu dadl neu drafodaeth. Anogir myfyrwyr i gwestiynu’r gwaith ysgolheigaidd sydd yn bodoli ym maes penodol yr ymchwil ac i asesu unrhyw ‘fylchau’ yn y maes a sut y gellid llanw’r ‘bylchau’ hyn |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae’r trafodaethau yn arbennig yn gymorth i ddatblygu sgiliau llafar a chyflwyno’r myfyrwyr. Bydd dysgu am y broses o gynllunio a chwblhau gwaith ymchwil, llunio fframwaith y prosiectau, hogi a datblygu’r prosiectau a’u cwblhau, i gyd yn cyfrannu tuag at eu portffolio o sgiliau trosglwyddadwy. |
Datrys Problemau | Un o amcanion canolog y modiwl fydd gwaith traethawd hir annibynnol a datrys problemau; bydd cyflwyno gwaith ysgrifenedig yn gofyn i’r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â datrys problemau. Datblygir ac asesir gallu’r myfyriwr i ddatrys problemau trwy ofyn iddynt: ystyried gwahanol agweddau a barn; trefnu data ac amcangyfrif ateb i broblem; ystyried achosion eithafol, trafod yn rhesymegol; llunio modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai. |
Gwaith Tim | Bydd y Ffair Traethawd Hir (Semester 1) a’r Fforwm (Semester 2) yn cynnwys trafodaeth mewn grŵp bychan lle bydd rhaid i fyfyrwyr, o dan arweiniad eu cynghorwyr, drafod fel grŵp y materion creiddiol sy’n gysylltiedig â maes yr astudiaeth a derbyn gwerthusiad gan gyd-fyfyrwyr a staff. Bydd y trafodaethau grŵp yma’n rhan hollbwysig o’r modiwl. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae’r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun adborth gan y cynghorydd penodol neu waith cwrs cynnar er mwyn gwella a ffocysu’r gwaith. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu perfformiad addysgol eu hunain trwy wneud gwaith ymchwil annibynnol a chymell eu hunain i chwilio am ffynonellau, paratoi rhestrau darllen a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad eu gwaith ysgrifenedig. Bydd yr angen i gyflwyno dau ddarn o waith asesedig ar amser yn canolbwyntio sylw’r myfyrwyr ar yr angen i reoli amser a’r adnoddau sydd ar gael yn y ffordd orau. |
Rhifedd | Ddim yn berthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau sy’n benodol i’r pwnc i’w helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau o’r modiwlau a astudiwyd eisoes, yn ogystal â datblygu gwell dealltwriaeth o’r pwnc dan sylw. Mae’r sgiliau pwnc penodol yma’n cynnwys: • Casglu a deall ystod eang o ddata yn ymwneud â’r cwestiwn ymchwil dan sylw • Y gallu i feirniadu a gwerthuso persbectifau gwahanol • Arddangos technegau ymchwil pwnc penodol • Cymhwyso ystod o fethodolegau i broblemau gwleidyddol cymhleth • Llunio dealltwriaeth a gwerthfawrogiad personol o’r pwnc dan sylw. |
Sgiliau ymchwil | Bydd cyflwyno dau waith ysgrifenedig (cynllun ymchwil a llyfryddiaeth a thraethawd hir) yn adlewyrchu sgiliau ymchwil annibynnol y myfyriwr. Bydd yr angen i leoli adnoddau ymchwil priodol a chofnodi’r canlyniadau hefyd yn hybu sgiliau ymchwil. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau eu gwaith ar brosesydd geiriau. Anogir myfyrwyr hefyd i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we a thrwy gyfrwng ffynonellau gwybodaeth electronig (megis BIDS ac OCLC). |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6