Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 20 x Darlithoedd 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | traethawd 2,000 o eiriau | 40% |
Asesiad Semester | cyflwyniad 10 munud | 10% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad 2 awr | 50% |
Asesiad Ailsefyll | traethawd 2,000 o eiriau | 40% |
Asesiad Ailsefyll | cylwyniad 10 munud | 10% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr arholiad 2 awr | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
gwahaniaethu rhwng y ffyrdd y defnyddir y term ‘Celtaidd’ mewn nifer o ddisgyblaethau gan gynnwys ieithyddiaeth, archeoleg a hanes
adnabod datblygiad cronolegol y term ‘Celtaidd’ ers ei ddigwyddiad cyntaf yn y ffynonellau Clasurol
adnabod y prif gysyniadau sy’n amgylchynu’r bobl a adwaenir fel y Celtiaid, a gallu pwyso a mesur y dystiolaeth sy’n ymwneud â hwy yn feirniadol
trafod nifer o safbwyntiau theoretig megis strwythuriaeth ac ôl-drefedigaetholaeth fel y maent yn berthnasol i’r cysyniad o ddiwylliant Celtaidd
Disgrifiad cryno
ae’r modiwl hwn yn dadansoddi a herio cysyniadau am yr hen Geltiaid a’u perthnasedd yn y byd modern. Mae’n rhoi fframwaith deallusol i ystyried pob math o gwestiynau ym maes Astudiaethau Celtaidd Dadansoddir y term ‘Celt’, a gofynnir y cwestiwn ‘Pwy oedd yr hen Geltiaid?’ Pa fathau o dystiolaeth y gellir eu defnyddio i ateb hyn, a beth yw’r problemau? A yw’r Gwyddelod a’r Cymry yn ‘Geltiaid’? Sut y datblygodd syniadau modern am y Celtiaid, a sut y maent wedi’u (camd)defnyddio? Trafodir y cwestiwn o barhad Celtaidd? Dadansoddir disgrifiadau o siaradwyr ieithoedd Celtaidd dros y canrifoedd. Yn aogystal, trafodir crefydd Geltaidd baganaidd a sefydliadau ‘Celtaidd’ honedig megis derwyddon a beirdd.
Cynnwys
• Yr ieithoedd Celtaidd II: Pryd a ble cawsant eu siarad?
• Cwestiynu Celtigrwydd a ‘Cheltosgeptigiaeth’
• Problemau Celtigrwydd: tystiolaeth iaith, archeoleg, hanes a geneteg
• Brythoniaid, Gwyddelod a Cheltiaid
• Ailddarganfod y berthynas rhwng yr ieithoedd Celtaidd
• ‘Creu’ Celtigrwydd I: etifeddiaeth yr awduron Clasurol
• ‘Creu’ Celtigrwydd II: Rhamantiaeth
• Yr Hen Geltiaid yn eu geiriau eu hun
• Y Brythoniaid a’r Gwyddelod yn eu geiriau eu hun
• Parhad Celtaidd I: fframwaith theoretig
• Parhad Celtaidd II: astudiaethau achos
• Sefydliadau Celtaidd I: crefydd Geltaidd baganaidd
• Sefydliadau Celtaidd II: derwyddon
• Sefydliadau Celtaidd III: beirdd
• Crynodeb ac adolygiad
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Ar bapur: mynegi yn glir syniadau a ddadansoddir mewn aseiniadau ysgrifenedig. Ar lafar: cyfrannu yn y dosbarth a thrafodaethau grŵp. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Dim yn berthnasol |
Datrys Problemau | Trwy ymwneud yn feirniadol (ar lafar ac ar bapur) â chysyniadau deallusol. |
Gwaith Tim | Gweithio mewn grwpiau i baratoi cyflwyniadau |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu tiwtoriaid ar waith ysgrifenedig a chyfraniadau llafar; ymwneud â chymheiriad yn ystod seminarau (neu gyflwyniad seminar); datblygu sgiliau trefnu amser/gwaith; myfyrio ar sgiliau cyflwyno a gwaith arall. |
Rhifedd | Dim yn berthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Ymwneud â chysyniadau cysylltiedig â Cheltigrwydd |
Sgiliau ymchwil | Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig (traethawd) a chyfraniadau i drafodaethau grŵp mewn darlithiau a seminarau. Hefyd trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol. |
Technoleg Gwybodaeth | At ddibenion ymchwil (aseiniadau a chyflwyniadau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y Bwrdd Du |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4