Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
FG34410
Teitl y Modiwl
Addysgu Ffiseg drwy brofiad gwaith mewn ysgol
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Ar gael yn semester 1 a 2
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
Cwblhau Blwyddyn 2 ffiseg yn llwyddiannus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 2 x Darlithoedd 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Dyddiadur ysgol 10 x 500 gair (cyfanswm 5000 gair) | 60% |
Asesiad Semester | Cynllun gwers a myfyrio (2000 gair) | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Fel y pennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Dangos dealltwriaeth sylfaenol o hanfodion addysgu ffiseg mewn ysgol.
2. Dangos dealltwriaeth o gyfathrebu ac arddangos cysyniadau ffiseg ar lefel sy'n addas i blant ysgol.
3. Dangos sgiliau trefnu a myfyrio wrth gadw dyddiadur o weithgareddau yn ystod y sesiynau yn yr ysgol, gan ddangos datblygiad yn ystod y semester.
4. Paratoi a gweithredu gweithgaredd addysgu penodol gyda'r nod o gefnogi addysgu yn yr ysgol.
5. Bod yn ymwybodol o bwysigrwydd addysgu STEM a'r heriau sy'n gysylltiedig.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn rhoi profiad gwaith gwerthfawr i israddedigion Ffiseg mewn ysgol.
Bydd sesiwn gwybodaeth / hyfforddiant ffurfiol fer cyn y profiad gwaith mewn ysgol. Yn ystod y sesiynau yn yr ysgol, bydd y myfyrwyr yn arsylwi ac yn cofnodi gwahanol sesiynau addysgu i ddechrau. Dros y semester byddant yn adeiladu i weithgareddau addysgu dan oruchwyliaeth ar lefel briodol.
Mae'n bosibl y bydd llefydd ar y modiwl yn gyfyngedig oherwydd cyfyngiad lleoliadau ac adnoddau. Mae'r llefydd hefyd yn ddibynnol ar wiriadau DBS ar gyfer pob myfyriwr.

Cynnwys
Nid oes maes llafur ffurfiol. Bydd y myfyrwyr yn:
- mynychu sesiwn hyfforddi a gwybodaeth ffurfiol fer
- ennill profiad mewn ysgol leol: 10 hanner diwrnod o dan fentora athro
- arsylwi sesiynau addysgu
- cynnal gweithgareddau addysgu ar raddfa fechan, gan gynnwys cynllunio a myfyrio
- cynllunio, gweithredu a myfyrio ar sesiwn addysgu dan oruchwyliaeth briodol
Asesir y modiwl trwy ddyddiadur arsylwi gwersi (sy'n cynnwys cofnod presenoldeb), a gweithgaredd addysgu a gynlluniwyd.

Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig yn ganolog i weithgareddau addysgu'r myfyriwr, yn ogystal â'u hasesiad. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae'r modiwl hwn wedi'i gynllunio'n benodol i baratoi myfyrwyr i yrfa mewn addysgu. |
Datrys Problemau | Yn ganolog mewn ffiseg ac yn hanfodol ar gyfer addysgu ffiseg mewn ysgolion. |
Gwaith Tim | Yn ganolog i'r myfyriwr yn eu lleoliad ysgol, wrth ymgysylltu â'u mentor a staff ysgol eraill. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd y dyddiadur, yn ogystal â disgwyliadau eu mentoriaid ysgol, yn annog datblygiad parhaus o'u perfformiad. |
Rhifedd | Yn ganolog i addysgu ffiseg mewn ysgolion. |
Sgiliau pwnc penodol | Dylunio a gweithredu arbrofion ar lefel sy'n briodol i ysgolion. |
Sgiliau ymchwil | Bydd y myfyriwr yn ymchwilio gwybodaeth am y pwnc, gan ddefnyddio'r llyfrgell a'r rhyngrwyd. |
Technoleg Gwybodaeth | Rhaid i'r myfyriwr ymchwilio gwybodaeth am eu hasesiadau gan ddefnyddio'r rhyngrwyd (ee paratoi gweithgareddau priodol ar gyfer addysgu). |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6