Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Tiwtorial | 4 x Tiwtorial 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr | 70% |
Asesiad Semester | 2 Daflen enghreifftiau | 30% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Trafod y cysyniadau sy'n sail i ddeddfau ffisegol mewn trydan a magnetedd.
2. Dwyn i gof, dangos dealltwriaeth a chymhwyso hafaliadau Maxwell o ddeddfau empirig electromagnetedd.
3. Egluro effeithiau deunydd ar feysydd trydan a magnetig a'r amodau'r ffin ar gyfer meysydd o'r fath.
4. Adnabod a defnyddio calcwlws fector a thechnegau mathemategol eraill i ddadansoddi a mynegi senarios mewn trydan a magnetedd.
5. Datrys enghreifftiau mewn trydan a magnetedd a dehongli'r canlyniadau yn y cyd-destun ffisegol.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn ystyried deddfau ffisegol mewn trydan a magnetedd. Mae un rhan o'r modiwl yn canolbwyntio ar drydan ac mae'n cynnwys electrostateg a deuelectrynnau gyda'r rhan arall yn cwmpasu meysydd magnetig, deunydd magnetig ac anwythiad electromagnetig. Trafodir amodau ffin electromagnetig ar ryngwyneb rhwng dau ddeunydd syml. Caiff y deddfau ffisegol eu mynegi yn nhermau gweithredyddion differol calcwlws fector a'u cyflwyno yn gyfunol fel hafaliadau Maxwell.
Cynnwys
- grad, div, curl.
- theorem dargyfeiriad, theorem Stokes.
- unfathiannau fector.
ELECTROSTATEG
- gwefr a maes trydanol.
- deddf Gauss.
- egni a photensial electrostatig.
- cynhwysyddion, deuelectrynnau, polareiddiad, maes dadleoliad trydanol, deddf Gauss ar gyfer maes dadleoliad trydan.
- amodau'r ffin ar gyfer D ac E.
- hafaliad Poisson.
- cyfrifiadau mewn electrostateg.
MEYSYDD MAGNETIG
- grym Lorentz.
- deupol magnetig.
- deddf Ampere, deddf Biot-Savart, potensial fector magnetig.
- magneteiddiad, dwysedd magnetig.
- amodau'r ffin ar gyfer B a H.
- hysteresis magnetig.
ANWYTHIAD ELECTROMAGNETIG
- deddf Faraday, deddf Lenz.
- anwythiad.
- egni magnetig.
HAFALIADAU MAXWELL
- hafaliad didoriant.
- cerrynt dadleoliad.
- hafaliadau Maxwell a datrysiad ton electromagnetig blan.
- fector Poynting.
- polareiddiad tonnau, ymddygiad ar ryngwynebau plan.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno atebion ysgrifenedig i daflenni enghreifftiau. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae'r modiwl yn ymdrin â phynciau ffiseg craidd sy'n hanfodol ar gyfer portffolio academaidd myfyriwr sy'n bwriadu gweithio yn y maes. |
Datrys Problemau | Datblygir sgiliau datrys problemau drwy gydol y modiwl. Caiff ei asesu drwy'r taflenni enghreifftiau ac yn yr arholiad ysgrifenedig. |
Gwaith Tim | Ddim yn berthnasol – angen dileu yr eitem ar gyfer y daflen wybodaeth modiwl. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Lluniwyd esiamplau ac adborth er mwyn annog dysgu hunan- gyfeiriol a gwella perfformiad. |
Rhifedd | Mae problemau rhifyddol yn y taflenni enghreifftiau ac yn yr arholiadau ffurfiol. |
Sgiliau pwnc penodol | Mae trydan a magnetedd yn bynciau craidd mewn Ffiseg. |
Sgiliau ymchwil | Mae darllen dan gyfarwyddyd yn galluogi myfyrwyr i ymchwilio cefndir ar gyfer y modiwl. Bydd problemau hefyd yn cael eu gosod lle mae angen ymchwilio yn y llyfrgell ac ar y rhyngrwyd. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio i bynciau yn y modiwl drwy ddefnyddio'r rhyngrwyd. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5