Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
DA10810
Teitl y Modiwl
Newid Hinsawdd
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Gweithdy | 1 x Gweithdy 2 Awr |
Darlith | 7 x Darlithoedd 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Ffug Uwchgynhadledd ar Newid Hinsawdd (2 awr) - Cyflwyniad Pwerbwynt unigol (5 munud) a dadl grŵp (1 awr) | 40% |
Asesiad Semester | Gwaith ysgrifenedig - Erthygl newyddion (1500 o eiriau) | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Sgript a chyflwyniad Pwerbwynt unigol - Cyflwyniad Pwerbwynt (10 munud) a gwaith ysgrifenedig | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Gwaith ysgrifenedig - Erthygl newyddion (2000 o eiriau) | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Amlinellu cyd-destunau hanesyddol, ffisegol a dynol (cymdeithasol, gwleidyddol) y ddadl newid hinsawdd gyfredol, a disgrifio'r gwahaniaethau rhanbarthol a byd-eang yn sgil effeithiau'r newidiadau hinsoddol rhagweledig;
2. Gwerthuso'r gwahanol gynrychioliadau’r ddadl newid hinsawdd (e.e. yn y cyfryngau gwyddonol a phoblogaidd) yn feirniadol;
3. Asesu manteision ac anfanteision y gwahanol gynlluniau arfaethedig er gyfer addasu at newidiadau hinsoddol rhagweledig y dyfodol.
Disgrifiad cryno
Mae’n anodd osgoi newid hinsawdd: fel pwnc ar y newyddion, fel testun dadleuol ar gyfryngau cyhoeddus, ac wrth brofi effeithiau cynyddol ein hinsawdd yn newid o ddydd i ddydd. Er bod mwy a mwy o wybodaeth ar gael i’r cyhoedd, nifer sylweddol o astudiaethau academaidd mewn i effeithiau newid hinsawdd, a llwyth o drafodaethau gwleidyddol pwysig ynglŷn â’n hymateb byd-eang i’r broblem, mae’n bwnc sy’n parhau i bolareiddio barn. Ai pobl sydd wedi achosi/gwaethygu effeithiau newid hinsawdd? Ydy’r blaned ar gylchrediad cynhesu naturiol? Oes modd lleihau effeithiau newid hinsawdd y dyfodol? Pwy sydd fod derbyn cyfrifoldeb dros ddatrys problemau newid hinsawdd?
Mae’r modiwl hwn yn ystyried nifer o agweddau daearyddol i’r ddadl newid hinsawdd gyfredol, o’r effeithiau ffisegol, i’r dadleuon gwleidyddol a’r canfyddiadau cymdeithasol sydd wrth graidd pwnc llosg ein cenhedlaeth. Byddwn yn ymdrin â’r gwahanol safbwyntiau ffeithiol a chysyniadol mewn modd critigol, ac yn ystyried ein rôl mewn addasu i hinsawdd newidiol y dyfodol.
Mae’r modiwl hwn yn ystyried nifer o agweddau daearyddol i’r ddadl newid hinsawdd gyfredol, o’r effeithiau ffisegol, i’r dadleuon gwleidyddol a’r canfyddiadau cymdeithasol sydd wrth graidd pwnc llosg ein cenhedlaeth. Byddwn yn ymdrin â’r gwahanol safbwyntiau ffeithiol a chysyniadol mewn modd critigol, ac yn ystyried ein rôl mewn addasu i hinsawdd newidiol y dyfodol.
Cynnwys
Gorolwg o bynciau'r darlithoedd:
1) Newid hinsawdd: trawiadau
Effeithiau ffisegol newid hinsawdd ar raddfa bydol a rhanbarthol; hanes y ddadl newid hinsawdd gyfredol; modeli newid hinsawdd y dyfodol a chynrychioli ansicrwydd.
2) Newid hinsawdd: canfyddiadau
Canfyddiadau a chynrychiolaethau llywodraethau, diwydiant, a’r cyhoedd o newid hinsawdd; rôl y cyfryngau a gwyddonwyr wrth gyfathrebu ffeithiau a chanfyddiadau; adroddiadau asesu’r Panel Rhynglywodraethol (IPCC).
3) Newid hinsawdd - addasiadau
Ffyrdd o leddfu ac addasu tuag at fyd carbon isel a chynaliadwy; addasiadau unigol a chynlluniau gwrthbwyso carbon; goblygiadau ffordd o fyw carbon isel i’r unigolyn, i ddiwydiant, ac i’r economi.
1) Newid hinsawdd: trawiadau
Effeithiau ffisegol newid hinsawdd ar raddfa bydol a rhanbarthol; hanes y ddadl newid hinsawdd gyfredol; modeli newid hinsawdd y dyfodol a chynrychioli ansicrwydd.
2) Newid hinsawdd: canfyddiadau
Canfyddiadau a chynrychiolaethau llywodraethau, diwydiant, a’r cyhoedd o newid hinsawdd; rôl y cyfryngau a gwyddonwyr wrth gyfathrebu ffeithiau a chanfyddiadau; adroddiadau asesu’r Panel Rhynglywodraethol (IPCC).
3) Newid hinsawdd - addasiadau
Ffyrdd o leddfu ac addasu tuag at fyd carbon isel a chynaliadwy; addasiadau unigol a chynlluniau gwrthbwyso carbon; goblygiadau ffordd o fyw carbon isel i’r unigolyn, i ddiwydiant, ac i’r economi.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae asesu gwahanol gyfryngau cyfathrebu wrth galon dadl newid hinsawdd, gyda gwahanol garfannau'n cynhyrchu gwahanol cynrychioliadau ysgrifenedig, gweladwy, ac ar lafar. Canolbwyntia'r modiwl ar ddarparu sgiliau angenrheidiol i fyfyrwyr er mwyn iddynt allu gwerthuso'r honiadau a rhagolygon am newid hinsawdd sy'n cystadlu â'i gilydd, yn enwedig drwy bwysleisio arwyddocâd gwahanol ffyrdd o gyfathrebu mewn gwahanol gyd-destunau. Bydd y myfyrwyr yn cael y cyfle i ddatblygu’u sgiliau cyfathrebu wrth gyflwyno dadleuon agoriadol yn unigol i’r Ffug Uwchgynhadledd Newid Hinsawdd, ac wedyn parhau i ddadlau’r gwahanol safbwyntiau a pholisiau fel grŵp. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Newid hinsawdd yw un o'r pynciau llosg byd-eang mwyaf pwysig; daeth yn eitem sefydlog ar yr agenda gwyddonol, cymdeithasol, a gwleidyddol yn gyflym. Fel ymhelaethir ar ddechrau a thrwy gydol y modiwl, mae angen graddedigion sydd yn hyddysg yn natur amlochrog dadl newid hinsawdd, boed yn y gwyddorau, llywodraeth, diwydiant, neu yng nghymdeithas. Yn benodol, mae yna alw am rai â medrau adnabod, asesu, a gwerthuso honiadau a chynrychioliadau newid hinsawdd sy'n cystadlu a'i gilydd. Wrth gwblhau'r modiwl yn llwyddiannus, bydd gan fyfyrwyr cefndir cadarn ar gyfer dilyn modiwlau mwy arbenigol yn naearyddiaeth ddynol a/neu ffisegol sy'n ymhelaethu ar themâu newid hinsawdd. Byddant yn medru cystadlu am ystod o yrfaoedd sy'n ymwneud â'r amgylchedd ar sail eu sylfaen gwybodaeth. |
Datrys Problemau | Newid hinsawdd yw un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r byd, ond, ar hyn o bryd, ni cheir unrhyw atebion a dderbyniwyd yn unfrydol neu'n eang ar sut i leddfu ac/neu addasu i newidiadau hinsoddol y dyfodol. Mae gan bob strategaeth ar gyfer lleddfu/addasu fanteision ac anfanteision, yn enwedig wrth ystyried gwahanol gyd-destunau daearyddol. Yn sgil hyn mae medrau datrys problemau yn rhan allweddol o'r ddadl newid hinsawdd. |
Gwaith Tim | Bydd y myfyrwyr yn cyfrannu at Fwrdd Trello y modiwl, gan weithio fel tîm i ddatblygu banc o adnoddau defnyddiol ar gyfer y ddadl. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Trwy gydol y modiwl mae’n rhaid i’r myfyrwyr gymryd cyfrifoldeb dros gwaith ymchwil eu hunain, a chadw ar ben unrhyw ddatblygiadau yn y newyddion a’r cyfryngau cymdeithasol. Bydd cwestiynau byr yn y darlithoedd a chyfraniadau at y Bwrdd Trello yn galluogi’r myfyrwyr i nodi’u cynnydd o gymharu a’u cymdogion. |
Rhifedd | Mae'r gallu i ddadansoddi a dehongli gwahanol ddata rhifiadol a graffigol yn elfennau canolog i'r ddadl newid hinsawdd. |
Sgiliau pwnc penodol | Deall yr amrywiaeth lleol, rhanbarthol a byd-eang agweddau dynol a ffisegol system y Ddaear, yn arbennig yng nghyd-destun y ddadl newid hinsawdd. |
Sgiliau ymchwil | Bydd myfyrwyr yn cynllunio ac yn cynnal ymchwil eu hunain er mwyn paratoi tuag at y Ffug Uwchgynhadledd Newid Hinsawdd. Bydd rhaid dadansoddi a chrynhoi data mewn modd effeithiol er mwyn cyflwyno’u dadleuon a dylanwadu ar y polisiau sy’n cael eu trafod. |
Technoleg Gwybodaeth | Mae adnabod a gwerthuso gwahanol ffynonellau gwybodaeth ar y we (dibynadwyedd, geirwiredd, ac ati) yn elfen hollbwysig o’r ddadl newid hinsawdd. Bydd y sgiliau hyn yn angenrheidiol er mwyn ymchwilio a pharatoi tuag at y Ffug Uwchgynhadledd Newid Hinsawdd. Diwsgwylir i’r myfyrwyr gyflwyno dadleuon agoriadol gan ddefnyddio technoleg addas e.e. Pwerbwynt neu Prezzi. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4