Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Gweithdy | 10 x Gweithdai 2 Awr |
Darlith | 20 x Darlithoedd 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd (1,500 gair) | 50% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad lle gwelir y cwestiynau o flaen lla. | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd (1,500 gair) | 50% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad lle gwelir y cwestiynau o flaen lla. | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Adnabod ac sebonio'r prosesau allweddol sy'n dylanwadu ar newid cyfoes yng nghefn gwlad ac yn y ddinas.
Gwerthuso'r prosesau allweddol sy'n dylanwadu ar newidiadau yng nghefn gwlad ac yn y ddinas.
Cymhwyso ystod o lenyddiaeth ddamcaniaethol a chysyniadol perthnasol er mwyn esbonio newidiadau yng nghefn gwlad ac yn y ddinas.
Gwerthuso'r goblydiadau polisi a goda o'r fath newid.
arddangos sgiliau darllen, dehongli, a gwerthuso beirniadol.
Disgrifiad cryno
Ystyria'r modiwl y ffyrdd mae daearyddwyr a gwyddonwyr cymdeithasol eraill wedi deall ac archwilio gofodau trefol a gwledig, a'r cysylltiadau rhyngddynt. Archwilir y safbwyntiau hyn yng nghyd-destun newidiadau economaidd, demograffaidd, cymdeithasol, a diwylliannol mewn sefyllfaoedd gwledig a threfol ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Yn aml, arweinia'r newidiadau hyn at wrthdaro ynglŷn ag ystyr gofodau gwledig a threfol, a'r bobl, gwerthoedd, ac ymddygiad sy'n 'perthyn' yno. Ystyria'r modiwl sut y daw tensiynau i'r wyneb mewn gwahanol ffyrdd, a strategaethau ar gyfer cyd-fyw cadarnhaol.
Cynnwys
Rhannir y darlithoedd i mewn i bedwar rhan, gyda sesiynau cyflwyno a chasglu'n agor a chau'r modiwl:
Cyflwyniad
Rhan I: bydoedd trefol
Rhan II: gwydnwch gwledig
Rhan III: Ymfudo
Rhan IV: Gwrthdaro a chydlyun
Casgliadau
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Gwneir; sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ar gyfer y gwaith cwrs; sgiliau ar lafar mewn trafodaethau dosbarth ac ati. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Gwneir, drwy sesiynau cymhwyso gwybodaeth / cyflogadwyedd (2x sesiwn 2-awr). |
Datrys Problemau | Gwneir, drwy gynnwys y cwrs (e.e. diffinio gofodau gwledig a threfol; ystyried goblygiadau polisi). |
Gwaith Tim | Gwneir, drwy trafodaethau mewn grwpiau bychain yn y dosbarth |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Gwneir, drwy sesiynau ymarferol a gysylltir â'r modiwl wedi'u ffocysu ar gefnogi cynnwys a sgiliau astudio. |
Rhifedd | Ddim yn benodol, er mae'n bosib y daw hwn i mewn i gynnwys y cwrs ar adegau. |
Sgiliau pwnc penodol | Gwneir, drwy ymwneud â syniadau damcaniaethol cyfoes sy'n sail i ddadleuon cyfredol mewn daearyddiaeth wledig a threfol. |
Sgiliau ymchwil | Gwneir, drwy ymwneud ag ymchwil cyfredol i gynhyrchu'r traethawd ac adolygu ar gyfer yr arholiad. |
Technoleg Gwybodaeth | Gwneir, drwy gynhyrchu'r gwaith cwrs a defnyddio amgylcheddau dysgu rhithiol |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4