Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CYM5520
Teitl y Modiwl
Cyfieithu ar Waith
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Gweithdy 2 x Gweithdai 7 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Adroddiad/dyddiadur  40%
Asesiad Semester Portffolio o waith cyfieithu  60%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad/dyddiadur  40%
Asesiad Ailsefyll Portffolio o waith cyfieithu  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos dealltwriaeth lawn/ddofn o fyd gwaith y cyfieithydd proffesiynol: dyletswyddau sylfaenol, rheoli amser yn effeithiol, sicrhau ansawdd, gweithio fel rhan o dîm.

Dadansoddi’n feirniadol rôl y cyfieithydd yn y gweithle penodol.

Dadansoddi’n feirniadol ei (d)datblygiad ei hun yn ystod cyfnod y profiad gwaith.

Nod

Pwrpas y modiwl hwn yw rhoi profiad ymarferol a phroffesiynol i fyfyrwyr mewn amrywiol weithleoeddsydd yn cyflogi cyfieithwyr. Bydd y modiwl yn darparu cyfle i fyfyrwyr roi eu sgiliau a’u gwybodaeth ar waith, gan ddatblygu ac adeiladu arnynt mewn cyd-destun proffesiynol.

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn, cynhelir sesiynau a fydd yn rhoi cyflwyniad i’r modiwl ac i waith y cyfieithydd yng Nghymru, cyn i’r myfyrwyr fynd allan i’r gweithle.

Cynnwys

i. Bydd 3 sesiwn 2 awr o hyd yn rhoi cyflwyniad i’r modiwl ac i waith y cyfieithydd.
ii. Lleoliad gwaith o 100 o oriau
iii. Sesiwn 1 awr gyda’r cydlynydd yn ystod y cyfnod yn y gweithle
iv. Sesiwn 1 awr o gyd-drafod wedi i gyfnod y profiad gwaith ddod i ben.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Trwy’r portffolio cyfieithu bydd myfyrwyr yn arddangos eu sgiliau iaith a’u gallu i drosglwyddo ystyr o un iaith i’r llall yn gywir ac i safon uchel. Bydd y cyfnod estynedig yn y gweithle yn gofyn am gyfathrebu’n effeithiol â chyfieithwyr proffesiynol a dysgu oddi wrthynt, er na fydd y gwaith hwn yn cael ei asesu’n ffurfiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gofynnir i’r myfyrwyr ystyried eu gwaith a’i ddatblygu yn dilyn adborth a fydd yn rhoi cyfle iddynt ystyried datblygiad eu gyrfa ond ni fydd hyn yn cael ei asesu.
Datrys Problemau Bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ddewis a dethol pa derminoleg i’w defnyddio a sut i gyfieithu testunau o un iaith i’r llall yn ogystal â gwneud penderfyniadau yn y gweithle.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn cyfrannu at drafodaethau mewn seminarau a gweithdai. Byddant hefyd yn cael y cyfle i weithio mewn tîm yn y gweithle, ond ni fydd yr elfen hon yn cael eu hasesu’n ffurfiol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd myfyrwyr yn paratoi portffolio o gyfieithiadau yn y gweithle; byddant yn derbyn adborth ar eu gwaith ac yn mireinio eu sgiliau er mwyn gwella eu perfformiad. Byddant hefyd yn cael profiad o gyfieithu mewn gweithle proffesiynol.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Datblygir sgiliau cyfieithu drwy gwblhau portffolio o gyfieithiadau yn y gweithle.
Sgiliau ymchwil Cyn gwneud penderfyniadau deallus ynghylch yr eirfa i’w defnyddio yn y tasgau bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ymchwilio i wahanol ffynonellau (geiriaduron, terminolegau), i darddiad geiriau ac i ddefnydd amrywiol o eirfa.
Technoleg Gwybodaeth Bydd yn rhaid i’r myfyrwyr gyflwyno gwaith yn electronig a defnyddio geiriaduron a therminolegau ac adnoddau electronig/digidol wrth baratoi’r cyfieithiadau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7