Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dangos y gallant ymddisgyblu i gynllunio, pwyso a mesur, adolygu a chwblhau darn estynedig o waith sy'r anelu at gyrraedd safon cyhoeddi.
Arddangos sgiliau technegol datblygedig yn eu dewis ffurf, sef rhyddiaith neu farddoniaeth.
Dangos eu bod yn gallu ysgrifennu Cymraeg cywir a graenus gan ddefnyddio gwahanol gyweiriau'r iaith.
Dangos eu bod yn gallu golygu eu gwaith a'r brawfddarllen cyn ei gyflwyno mewn diwyg proffesiynol.
Dangos eu bod yn gallu trafod gwybodaeth dechnegol yn yr adroddiad/sylwebaeth feirniadol sy'r cyd-fynd a'r portffolio creadigol.
Disgrifiad cryno
Modiwl craidd ac iddo bwyslais ymarferol yw'r modiwl hwn, gan y bydd y portffolio yn ffocws ar gyfer datblygu sgiliau creadigol y myfyriwr trwy roi ar waith y dulliau generig, llenyddol a theoretig a ddysgir ar fodiwlau eraill y cynllun (gweler rhagofynion a chydofynion). Bydd y portffolio yn fodd i annog myfyrwyr i gynllunio, pwyso a mesur, adolygu a chwblhau darn estynedig o waith. Fel rhan o'r modiwl, pennir tiwtor creadigol personol i bob myfyriwr: penderfynir ar fformat y portffolio (rhyddiaith neu farddoniaeth) mewn ymgynghoriad a'r tiwtor, a chynhelir cyfarfodydd mynych gyda'r tiwtor i drafod cynlluniau a drafftiau, ynghyd a thrafod a myfyrio ar newidiadau ac addasiadau a wneir i'r testun(au) creadigol a gyflwynir yn y portfolio gorffenedig.
Nod
Bydd y portffolio yn ffocws ar gyfer datblygu creadigrwydd y myfyrwyr wrth iddynt gymhwyso'r dulliau generig, llenyddol a theoretig a ddysgir ar fodiwlau eraill y cynllun. Disgwylir i fyfyrwyr lunio esboniad beirniadol i gyd-fynd a'r portffolio. Trwy gyflwyno portffolio o waith a luniwyd dros ddau semester, ynghyd a'r esboniad beirniadol, gellir mesur camau yr ymdrech, sef cynllunio, pwyso a mesur, adolygu a chwblhau darn estynedig o waith.
Cynnwys
Darperir canllawiau ysgrifenedig manwl i'r esboniad beirniadol ar ddechrau'r modiwl.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd myfyrwyr yn cyfathrebu ar fffurf darn o waith ysgrifenedig estynedig; yn trafod a darllen gyda thiwtoriaid y modiwl, ac yn darllen gweithiau’n gyhoeddus a’u trafod ar lafar. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Nid felly, heblaw fod y modiwl hwn (a’r cynllun MA y mae’n perthyn iddo) yn dwyn perthynas amlwg â gyrfa ym maes ysgrifennu, ymchwil academaidd, neu’r diwydiant creadigol. |
Datrys Problemau | Disgwylir i fyfyrwyr ffurfio a datblygu dadl estynedig, ac i drawsffurfio syniadau yn ddarnau o ryddiaith neu farddoniaeth berfformiadwy. |
Gwaith Tim | Na, gwaith creadigol unigol a gynhyrchir ar y modiwl hwn. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Disgwylir i fyfyrwyr ddangos hunan-gyfarwyddyd trwy ddatblygu a rheoli eu sgiliau ymchwil eu hunain, gan gynnwys trefnu amser yn effeithiol. |
Rhifedd | Amherthnasol i’r modiwl hwn. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd myfyrwyr yn datblygu’r gallu i gynhyrchu a golygu rhyddiaith neu farddoniaeth greadigol i safon broffesiynol a soffistigedig. |
Sgiliau ymchwil | Bydd myfyrwyr yn amlygu sgiliau astudio datblygedig, ac yn arddangos y gallu i feddwl yn annibynnol ac yn feirniadol. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio adnoddau llyfryddol electronig a gwefannau; cynhyrchu dogfen(nau) trwy eirbrosesu. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7