Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
CY25820
Teitl y Modiwl
Bro a Bywyd: Dehongli Treftadaeth Lenyddol y Cymry
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Adroddiad (500 gair) Adroddiad byr yn Semester 1 yn trafod un o'r teithiau maes. | 10% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar (10 munud o hyd) | 20% |
Asesiad Semester | Prosiect (c.3,500 gair) | 70% |
Asesiad Ailsefyll | Ailgyflwyno'r gwaith cwrs a gloriennir (gan ysgrifennu ar bwnc newydd). | |
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad (500 gair) | 10% |
Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad ysgrifenedig (1,000 gair - yn lle'r cyflwyniad llafar) | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Prosiect (c.3,500 gair) | 70% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Meddu ar adnabyddiaeth o froydd Cymru a’u cysylltiadau llenyddol.
2. Dangos sgiliau ymchwilio a’r gallu i ddod o hyd i ddeunyddiau perthnasol.
3. Dangos dealltwriaeth o gydberthynas agweddau theoretig ac ymarferol wrth gynllunio sut i hybu ymwneud y cyhoedd ag etifeddiaeth ddiwylliannol y Cymry.
4. Gwneud defnydd pwrpasol o amrywiaeth o dechnegau wrth gynllunio a chynhyrchu deunyddiau o’u dewis eu hunain, ac wrth gyflwyno dehongliad i gynulleidfa fyw.
Disgrifiad cryno
Modiwl sy’n dysgu myfyrwyr am y gwahanol ffyrdd o ddehongli a chyflwyno etifeddiaeth lenyddol y Cymry ac elfennau eraill o’r diwylliant yn ehangach, a’u hyfforddi i gyfuno gwybodaeth, creadigrwydd a dyfeisgarwch i hybu diddordeb y cyhoedd.
Cynnwys
Darlithoedd 1-5
Trafod Cysyniadau
1. Cyflwyniad i’r modiwl
2. Sut i ddechrau prosiect
3. Y cyd-destun eang: sefydliadau, asiantaethau, twristiaeth a’r economi, y gyfraith, cadwraeth, Parciau Cenedlaethol, llywodraeth leol
4. Treftadaeth ddiwylliannol
5. Cof cenedl: ystyriaethau gwleidyddol
Darlithoedd 6-9
Astudiaethau bro
Astudiaeth Bro 1: Eryri
Astudiaeth Bro 2: Sycharth
Astudiaeth Bro 3: Awdur yn ei fro Astudiaeth Bro 4: Llwybr Bro Iolo Morganwg
Cynhelir dwy daith maes wedi eu hamserlennu yn Semester 1.
Yn Semester 2 bydd y myfyrwyr yn gweithio dan hyfforddiant ar brosiect unigol a fydd yn esgor ar waith addas i’w gyhoeddi (e.e. llyfryn; teithlyfr manwl; testun ar gyfer podlediad neu raglen radio; deunydd ar gyfer gwefan.)
Trafod Cysyniadau
1. Cyflwyniad i’r modiwl
2. Sut i ddechrau prosiect
3. Y cyd-destun eang: sefydliadau, asiantaethau, twristiaeth a’r economi, y gyfraith, cadwraeth, Parciau Cenedlaethol, llywodraeth leol
4. Treftadaeth ddiwylliannol
5. Cof cenedl: ystyriaethau gwleidyddol
Darlithoedd 6-9
Astudiaethau bro
Astudiaeth Bro 1: Eryri
Astudiaeth Bro 2: Sycharth
Astudiaeth Bro 3: Awdur yn ei fro Astudiaeth Bro 4: Llwybr Bro Iolo Morganwg
Cynhelir dwy daith maes wedi eu hamserlennu yn Semester 1.
Yn Semester 2 bydd y myfyrwyr yn gweithio dan hyfforddiant ar brosiect unigol a fydd yn esgor ar waith addas i’w gyhoeddi (e.e. llyfryn; teithlyfr manwl; testun ar gyfer podlediad neu raglen radio; deunydd ar gyfer gwefan.)
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Ar bapur ac ar lafar a thrwy gynllunio deunydd amlgyfrwng ar gyfer y cyhoedd, ar ffurf prosiect neu gyflwyniad. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Drwy ddysgu am faes sydd o’r pwys mwyaf i economi’r wlad; datblygu’r gallu i chwilio am gydweithrediad gan bobl eraill (e.e. mewn sefydliadau) i ddeall gofynion y gynulleidfa, ac i weithio’n hyderus ac i safon uchel o fewn cyfnod penodedig o amser. |
Datrys Problemau | Drwy ddethol deunydd a’i ddehongli’n effeithiol. |
Gwaith Tim | Elfennau o waith tîm yn y gweithdai. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Drwy gael adborth gan y darlithwyr a thrwy drafod wgaith cyflwyno eraill mewn sefyllfa gweithdy. |
Rhifedd | Gall fod elfennau achlysurol gydag ystadegau. |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Dangos ystod o sgiliau ymchwilio a dod o hyd i amrywiaeth o ffynonellau ac ymgynefino â deunyddiau mewn sawl cyfrwng. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i’r myfyrwyr ddefnyddio’r We, rhaglen PowerPoint, offer digidol, yn ogystal â geirbrosesu. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5