Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Ymarferion iaith 1 (Semester 1 - Cyfieithu/ Ysgrifennu rhydd/ Cywiro ac esbonio). 750 o eiriau. | 20% |
Asesiad Semester | Ymarferion Iaith 2 (Semester 2 - Cyfieithu/ Ysgrifennu rhydd/ Cywiro ac esbonio). 750 o eiriau. | 20% |
Arholiad Semester | 2 Awr | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Ymarferion Iaith 1 (Cyfieithu/ Ysgrifennu rhydd/ Cywiro ac esbonio). 750 o eiriau. | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Ymarferion Iaith 2 (Cyfieithu/ Ysgrifennu rhydd/ Cywiro ac esbonio). 750 o eiriau. | 20% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
sillafu geiriau Cymraeg yn gywir heb gymorth geiriadur nac adnodd electronig fel Cysill;
dangos dealltwriaeth o’r treigladau;
dangos dealltwriaeth o gyweiriau’r Gymraeg ac o’r gwahaniaethau cynyddol rhwng Cymraeg ffurfiol/llyfr a Chymraeg anffurfiol/llafar.
Dangos dealltwriaeth o deithi’r iaith Gymraeg trwy adnabod ac ysgrifennu Cymraeg graenus a chywir.
Disgrifiad cryno
Cyflwyniad i egwyddorion sylfaenol Cymraeg safonol er mwyn galluogi’r myfyrwyr sy’n dilyn y modiwl i ysgrifennu Cymraeg graenus. Canolbwyntir ar gyweiriau’r iaith, ynghyd â nodweddion Cymraeg safonol: confensiynau sillafu’r iaith, ffurfiau’r iaith lenyddol, y treigladau a phriod-ddulliau.
Nod
Y mae’r modiwl hwn yn rhan greiddiol o Q560 a chynlluniau cyd-anrhydedd gyda’r Gymraeg er mwyn darparu sylfaen ramadegol gadarn i fyfyrwyr a chaniatáu iddynt ysgrifennu’r Gymraeg yn hyderus, yn gywir ac yn safonol.
Cynnwys
Cyflwyniad i gyweiriau’r iaith ac i egwyddorion sylfaenol Cymraeg safonol yw’r modiwl hwn, er mwyn galluogi’r myfyrwyr sy’n dilyn y modiwl i ysgrifennu Cymraeg graenus. Canolbwyntir ar gonfensiynau sillafu’r iaith, ffurfiau’r iaith lenyddol, y treigladau a phriod-ddulliau. Darperir llyfryn pwrpasol sy’n gosod allan raglen waith y modiwl.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Trafod materion gramadegol ar lafar yn y gweithdai; medru egluro gwallau gramadegol yn y gwaith cwrs ac yn yr arholiad. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Gweler rhif. 4 |
Datrys Problemau | Ymateb i heriau technegol y rheolau gramadegol a’r ymarferion gramadegol unigol. |
Gwaith Tim | Ceir cyfle i drafod mewn grŵp yn ystod gweithdai. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod ymarferion iaith a darnau i’w cyfieithu; bydd y tasgau yn caniatáu i fyfyrwyr fesur eu perfformiad a’u datblygiad personol. |
Rhifedd | amherthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Mae’r sgiliau a ddatblygir yn rhai trosglwyddadwy a fydd o ddefnydd i fyfyrwyr yn y brifysgol ac yn y gweithle. |
Sgiliau ymchwil | Ymchwilio’n annibynnol er mwyn atgyfnerthu’r rheolau gramadegol a ddysgir yn y dosbarth. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddir rhaglen prosesu geiriau i gynhyrchu’r tasgau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4