Gwybodaeth Modiwlau
Course Delivery
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Exam | 2 Hours | 50% |
Semester Assessment | Traethawd (2,500 gair) | 50% |
Supplementary Exam | 2 Hours | 50% |
Supplementary Assessment | Traethawd (2,500 gair) | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
1. Egluro a dadansoddi arwyddocâd strwythurau cyfansoddiadol a sefydliadol sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd.
2. Dangos tystiolaeth o fod wedi cwblhau ymchwil gyfreithiol er mwyn dangos lefel uwch o gymhwysedd wrth ganfod a defnyddio ffynonellau cynradd ac eilaidd cyfraith Ewrop yn ogystal â safbwyntiau athrawiaethol a damcaniaethol ar gyfraith Ewrop.
3. Dangos dealltwriaeth feirniadol a datblygedig o sut y mae gwahanol gategorïau cyfraith Ewrop yn rhyngweithio a systemau cyfreithiol cenedlaethol.
4. Egluro, mewn modd cynhwysfawr, yr egwyddorion y seilir y farchnad fewnol arnynt a sut yr adlewyrchir y rhain yn narpariaethau Cytuniadau a'u datblygu yn neddfwriaeth a chyfraith achosion eilaidd Llys Cyfiawnder Ewrop.
5. Defnyddio'r egwyddorion cyfreithiol perthnasol wrth ddatrys ac egluro problemau damcaniaethol a / neu ymarferol sy'n codi cwestiynau sy'n ymwneud ag agweddau ar Gyfraith yr Undeb Ewropeaidd.
Brief description
Mae cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn gorff sylweddol o reolau sy'n rheoli sbectrwm eang o weithgareddau masnachol a chymdeithasol aelod-wladwriaethau. Mae'r cwrs yn ymdrin a chyfraith sylwedd a chyfraith sefydliadol.
Content
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno deunyddiau a methodolegau gorchmynion cyfreithiol Ewropeaidd ac yn egluro prif nodweddion y drefn gyfreithiol sy'n seiliedig ar yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r modiwl yn canolbwyntio'n arbennig ar brosesau deddfu; gweithredu a gorfodi cyfraith a pholisi'r UE; atebolrwydd cyfreithiol sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd; y berthynas rhwng yr UE a systemau cenedlaethol, ynghyd â’r rheolau cyfreithiol sy'n llywodraethu'r farchnad fewnol.
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | Amherthnasol. |
Communication | Bydd trafodaethau seminar yn datblygu sgiliau cyflwyno a sgiliau dadlau llafar y myfyrwyr, fel unigolion ac fel grwp. |
Improving own Learning and Performance | Bydd cymryd rhan mewn seminarau a’r arholiad yn datblygu gwahanol agweddau o ymchwil academaidd, o ddeall a chyfeirnodi ffynonellau i ledaenu syniadau i eraill ar lafar, a datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig. |
Information Technology | Mae sgiliau llyfrgell ac ymchwil yn sylfaenol wrth baratoi ar gyfer seminarau a’r arholiad. |
Personal Development and Career planning | Gofyniad ar gyfer ymarfer cyfreithiol proffesiynol ac ar gyfer cyd-destun trawswladol ymarfer cyfreithiol modern. |
Problem solving | Trafod mewn seminarau/gwaith paratoi ac wrth ddadlau. |
Research skills | Wrth ymchwilio a pharatoi ar gyfer y traethawd, y seminarau a’r arholiad. |
Subject Specific Skills | Darllen a deall deunyddiau perthnasol ym maes Cyfraith Ewropeaidd yn enwedig cyfraith achosion a dadansoddi academaidd. |
Team work | Gweithgareddau grwp a thrafodaethau yn y seminarau. |
Notes
This module is at CQFW Level 6