Gwybodaeth Modiwlau
Course Delivery
Delivery Type | Delivery length / details |
---|---|
Seminar | 3 x Seminarau 2 Awr |
Lecture | 10 x Darlithoedd 2 Awr |
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Asesiad Naratif Myfyriol 2,500 o eiriau | 50% |
Semester Exam | 2 Hours Arholiad na gwelir ymlaen llaw | 50% |
Supplementary Assessment | Asesiad Naratif Myfyriol 2,500 o eiriau Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl | 50% |
Supplementary Exam | 2 Hours Arholiad na gwelir ymlaen llaw Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
Dangos ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gadarn o effaith newid cymdeithasol ar faterion sy’n ymwneud â throsedd, rheoli trosedd a chosb.
Dangos gwybodaeth am faterion hanesyddol a chymharol yn natblygiad polisïau, prosesau a sefydliadau cyfiawnder troseddol.
Cydnabod gwerth ymagweddau hanesyddiaethol wrth ddatblygu dealltwriaeth o faterion cyfoes sy’n ymwneud â throsedd a chyfiawnder troseddol.
Adnabod gwahanol ffyrdd y trawsnewidiwyd systemau a phrosesau cyfiawnder troseddol yn gymdeithasol, yn wleidyddol ac yn gyfreithiol; dehongli’r effaith a gafodd y trawsnewidiadau hyn ar bolisïau, arferion a dadleuon cyfoes.
Adnabod cyfyngiadau’r ffynonellau cynradd sydd ar gael ac sy’n ymwneud â’r gwahanol gyfnodau hanesyddol a drafodir yn ystod y modiwl.
Dangos gwybodaeth gadarn o’r egwyddorion sy’n sail i ymagweddau cyfiawnder troseddol yn ystod pob un o’r cyfnod hanesyddol a drafodir yn ystod y modiwl.
Brief description
Caiff myfyrwyr gyfle i astudio amrywiaeth o safbwyntiau hanesyddol ar drosedd a chosb. Anogir myfyrwyr i ddatblygu gwell ymwybyddiaeth o barhad ac amrywiadau systemau cyfiawnder troseddol, yn ogystal ag ymatebion eraill y gymdeithas i droseddu a newidiadau cymdeithasol.
Content
Trosedd a Chosb yn yr Henfyd
Trosedd a Chosb yn yr Oesoedd Canol
Trosedd a Chosb yn y Cyfnod Modern Cynnar
Trosedd a Chosb yn Oes Fictoria
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | Trwy ddadansoddi canfyddiadau ymchwil yn feirniadol bydd myfyrwyr yn datblygu gwerthfawrogiad o sut mae theori ac ymarfer yn uno mewn sefyllfa hanesyddol. |
Communication | Anogir cyfathrebu llafar mewn trafodaethau seminar, gwaith grŵp a wneir yn y gyfres seminarau, ac yn ystod yr ymarfer gwaith maes. Datblygir ac asesu cyfathrebu ysgrifenedig yn y gwaith cwrs. |
Improving own Learning and Performance | Bydd darlithoedd a seminarau rhyngweithiol yn annog meddwl beirniadol ac ochrol myfyrwyr. Bydd y tasgau a’r ymarferion a osodir yn y seminarau yn hwyluso dysgu cysyniadau haniaethol a’r defnydd ohonynt mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn. Bydd aseiniad y traethawd yn datblygu sgiliau trefniadol ac yn annog myfyrwyr i fyfyrio ar ddysgu ac addysgu cynnwys y modiwl fesul cam. |
Information Technology | Bydd chwilio drwy gronfeydd data a chyfnodolion electronig ar-lein yn ymarfer sgiliau TG. Bydd cynnwys craidd y modiwl a thaflenni’r darlithoedd ar gael ar Blackboard. |
Personal Development and Career planning | Bydd astudio’n annibynnol wrth baratoi ar gyfer darlithoedd a seminarau yn datblygu annibyniaeth yn nysgu’r myfyriwr. Bydd gwaith grŵp yn arfogi’r myfyrwyr â sgiliau cyfathrebu i ymgysylltu ag eraill yn y gweithle. Bydd y gwaith paratoi a’r ymgysylltu angenrheidiol â’r cwrs ar gyfer yr aseiniad myfyriol yn annog myfyrwyr i fynychu pob darlith a seminar ac i gymryd rhan weithredol yn y tasgau. |
Problem solving | Bydd yn rhaid i fyfyrwyr ystyried ystod eang o bynciau hanesyddol sy’n ymwneud â throsedd, cosb a phrosesau cyfiawnder troseddol. |
Research skills | Datblygir sgiliau ymchwil drwy gael mynediad at, a dadansoddi llenyddiaeth ar drosedd a chosb er mwyn paratoi a chwblhau’r gwaith a asesir. |
Subject Specific Skills | Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau myfyriol a hefyd yn cael eu hannog yn weithredol i feddwl yn feirniadol am berthnasedd tueddiadau hanesyddol mewn trosedd a chosb i’r gymdeithas fodern a phrosesau cyfiawnder troseddol. |
Team work | Bydd gwaith mewn grwpiau bychain yn y seminarau yn meithrin gwaith tîm ac yn datblygu cyfnewid gwybodaeth rhwng myfyrwyr a thiwtoriaid. Bydd y gweithgareddau gwaith maes yn datblygu ymhellach allu myfyrwyr i gydweithio. |
Notes
This module is at CQFW Level 5