Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CC18010
Teitl y Modiwl
Datblygiad Proffesiynol a Phersonol
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
Ar gael i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru yn yr Adran Gyfrifiadureg yn unig
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Tiwtorial 20 x Tiwtorial 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Cais am Swydd  3 ochr o A4  35%
Asesiad Semester Cyflwyniad Unigol  15 munud cyflwyniad  35%
Asesiad Semester Cyfranogiad mewn penwythnos gweithgareddau.  2 diwrnod  30%
Asesiad Ailsefyll Cais am Swydd  3 ochr o A4  50%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad Unigol  15 munud cyflwyniad  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

cynllunio CV priodol

dangos bod ganddynt y sgiliau sylfaenol ar gyfer rheoli amser, gweithio mewn tim ac ysgrifennu academaidd

adolygu eu perfformiad eu hunain yn feirniadol

defnyddio offer cyfrifiadurol i ategu eu hastudiaethau yn y brifysgol

ymchwilio, cynllunio a rhoi cyflwyniad technegol

Nod

Mae'r modiwl yn cynnwys deunydd nad yw'n cael ei gyflwyno mewn rhannau eraill o fodiwlau penodol ond sy'n hanfodol er mwyn ennill dealltwriaeth gyflawnach o'r maes yn gyffredinol. Mae sgiliau trosglwyddadwy personol yn nodwedd bwysig i unrhyw fyfyriwr graddedig ac mae'n rhan bwysig o'r modiwl hwn.

Disgrifiad cryno

Mae darlithoedd y modiwl yn cynnwys deunydd i hyrwyddo datblygiad myfyrwyr fel gweithwyr proffesiynol yn eu maes. Datblygir ystod o sgiliau personol trosglwyddadwy o fewn i gyd-destun y diwydiant meddalwedd. Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn rhoi cyngor i fyfyrwyr ynghylch cynhyrchu CV er mwyn llwyddo i ennill blwyddyn mewn gwaith.

Cynlluniwyd y Penwythnos Gweithgareddau i wella sgiliau gwaith tim y myfyrwyr a datblygu ymhellach eu sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu. Trwy gyfrwng cyfres o dasgau amrywiol a gynhelir drwy gydol y penwythnos, a ategir gan waith prosiect pellach, bydd sgiliau'r myfyrwyr wrth ddatrys problemau a gweithio mewn tim yn cael eu hymarfer.

Bydd dosbarthiadau yn annog y myfyrwyr i ganolbwyntio ar sgiliau trosglwyddadwy, megis ysgrifennu, ymchwilio a gwneud cyflwyniadau.

Cynnwys


1. Gwneud y mwyaf o'ch profiad yn y Brifysgol - 1 ddarlith
Gwneud y mwyaf o ddysgu wedi ei ganoli ar y myfyriwr.

2. Rheoli Amser - 1 ddarlith
Dadansoddi sut orau i reoli amser er mwyn gwneud y mwyaf ohono.

3. Cyfeirio a dyfynnu - 1 ddarlith
Defnyddio deunydd sy'n bodoli eisoes. Ffyrdd cywir ac addas o gyfeirio a dyfynnu. Llen-ladrad. Y Llyfrgell.

PENWYTHNOS GWEITHGAREDDAU SGILIAU TIM

4. Llunio Curriculum Vitae o safon uchel a marchnata'ch hun yn effeithiol, a chynllunio eich blwyddyn mewn diwydiant a'ch lleoliadau dros yr haf - 2 ddarlith

Cyflwyniad ar y cyd a'r Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd

5. Cynllunio Cyflwyniad - 1 ddarlith
Cyflwyniad i bwysigrwydd strwythur, amseru a chynnwys cyflwyniadau.

6. Rheoli grwp - 1 ddarlith
Sut i weithio'n effeithiol fel tim, a chyfle i fyfyrio am y penwythnos

7. Sut i ysgrifennu Saesneg da - 1 ddarlith
Cyflwyniad i arddull a thechneg wrth ysgrifennu Saesneg da.

8. Techneg Arholiadau - 1 ddarlith
Cyfarwyddiadau safonol. Defnyddio amser, cynllunio. Arddull cwestiynau.

9. Pynciau eraill - hyd at 2 ddarlith.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Yn y cyflwyniad a'r CV
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Yn y CV
Gwaith Tim Yn y cyflwyniad
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Yn y CV
Sgiliau ymchwil Mewn cyflwyniadau
Technoleg Gwybodaeth Yn rhan sylfaenol o'r modiwl.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4