Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CC11110
Teitl y Modiwl
Diogelwch Data
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 1.5 Awr   Amlddewis ar-lein  80%
Asesiad Semester 10 Awr   Taflenni gwaith ymarferol  sy'n mynd i'r afael a gwahanol agweddau ar ddiogelwch gwybodaeth.  20%
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   Amlddewis ar-lein  80%
Asesiad Ailsefyll 10 Awr   Taflenni gwaith ymarferol  sy'n mynd i'r afael a gwahanol agweddau ar ddiogelwch gwybodaeth.  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Dangos dealltwriaeth o'r risgiau sy'n gysylltiedig a datblygu systemau diogel cyfrifiadurol.

2. Disgrifiwch wahanol fathau o ymosodiadau - seiber a phenderfynu ar amddiffynfeydd priodol yn erbyn ymosodiad.

3. Dangos dealltwriaeth o ddulliau amgryptio priodol, a'u defnyddio.

4. Gwerthuso agweddau o systemau cyfrifiadurol gan gyfeirio at gyfrinachedd, uniondeb ac argaeledd (fframwaith y CIA).

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno cysyniadau allweddol mewn diogelwch gwybodaeth, gan ddarparu trosolwg o fframweithiau damcaniaethol ar gyfer systemau diogel ac argymhellion ymarferol. Bydd yn cynnwys agweddau ar ddiogelwch meddalwedd, caledwedd a rhwydwaith.

Cynnwys

Diogelwch cyfrifiadurol a gwybodaeth

1. Model y CIA o ddiogelwch: Cyfrinachedd, Uniondeb, Argaeledd
2. Rheoli risg mewn diogelwch gwybodaeth
3. Cyfrineiriau a rheoli cyfrinair
4. Rheoli mynediad a diogelwch rhwydwaith
5. Codau a 'chiphers'
6. Amgryptio allwedd gymesur - DES, AES
7. Amgryptio allwedd gyhoeddus - RSA
8. Ymosodiadau a'u lliniaru: Grym llym, dyn yn y canol, gwadu gwasanaeth, cynyddu braint, chwistrellu cod, gwe-rwydo
9. Peirianneg gymdeithasol
10. Dylunio Diogel a rhaglennu amddiffynnol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gweithio ar bwnc sy'n bwysig i adeiladu systemau proffesiynol mewn diwydiant.
Datrys Problemau Mewn taflenni gwaith a sesiynau ymarferol.
Gwaith Tim
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Datrys problemau mewn sesiynau ymarferol a chwblhau taflenni gwaith.
Rhifedd Mewn taflenni gwaith a sesiynau ymarferol a’r arholiad.
Sgiliau pwnc penodol Gweler cynnwys y modiwl.
Sgiliau ymchwil Trwy astudio annibynnol a pharatoi ar gyfer yr arholiad.
Technoleg Gwybodaeth Yn gynhenid yn y modiwl.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4