Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 1 x Darlith 1 Awr |
Tiwtorial | 10 x Tiwtorial 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Cyflwyniad Llafar (10 minud gyda 5 minud o cwestiynau) | 10% |
Asesiad Semester | Traethawd Estynedig (8,000 gairiau) | 90% |
Asesiad Ailsefyll | Rhaid i fyfyrwyr sefyll elfennau o'r asesiad sy'n cyfateb a'r rheini a arweiniodd at fethu'r modiwl. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Asesu a gwerthuso gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau.
2. Dynodi a defnyddio technegau priodol ar gyfer dadansoddi data.
3. Tynnu casgliadau a thrafod y rhain mewn perthynas a gwybodaeth sydd eisoes yn bodoli yn y maes.
4. Amlygu cwestiynau sydd heb eu hateb a meysydd dadleuol yn eu maes ymchwil.
5. Ffurfio awgrymiadau ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.
6. Arddangos sgiliau ysgrifennu gwyddonol priodol ynghyd a sgiliau TG.
7. Cyflwyno'r cyd-destun, y data, y canlyniadau a'r casgliadau mewn modd priodol.
8. Dangos annibyniaeth sylweddol yn eu gwaith.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl yn gyfle i fyfyrwyr ymgymryd ag ymchwil manwl ar bwnc sy'n berthnasol i'w gradd. Bydd llawer o'r prosiectau'n seiliedig ar arbrofion labordy neu ymarferion gwaith maes; bydd eraill yn ymarfer modelu cyfrifiadurol yn seiliedig ar ffynonellau data eilaidd neu ddatblygu cynllun busnes manwl. Bydd eraill yn cynnwys adolygiad beirniadol o lenyddiaeth sydd wedi'i chyhoeddi. Bydd yr holl brosiectau, beth bynnag eu ffurf, yn golygu bod rhaid i fyfyrwyr weithio'n annibynnol dan arweiniad goruchwyliwr, cyflawni adolygiad o lenyddiaeth, ymgymryd â gwaith ymchwil a dadansoddi, datblygu casgliadau ac argymhellion addas, a chyflwyno’r cyfan ar ffurf traethawd estynedig.
Nod
Nod y modiwl yw cynyddu sgiliau ymchwil annibynnol y myfyrwyr, gan adeiladu ar wybodaeth gyfredol, a defnyddio'r wybodaeth a'r sgiliau a enillwyd drwy gydol eu rhaglen gradd i wneud cyfraniad newydd i'n gwybodaeth.
Cynnwys
Bydd darlith gyflwyniadol yn y semester cyntaf yn cynnig arweiniad ar sut i fynd ati i ymchwilio ar gyfer y Traethawd. Yn yr ail semester, cynhelir cymorthfeydd galw-heibio wythnosol dewisol fydd yn cynnig cyngor ar agweddau penodol o baratoi'r Traethawd Estynedig.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd gofyn i fyfyrwyr gyflwyno seminar ymchwil ar eu prosiect, gan brofi eu gallu i gynhyrchu gwaith ysgrifenedig sydd wedi'i strwythuro'n ofalus a llythrennedd llafar. Bydd myfyrwyr sy'n ymgymryd a phrosiect ymchwil arbrofol hefyd yn datblygu sgiliau gwrando effeithiol yn ystod y cyfarwyddo a'r hyfforddi. Caiff llythrennedd ysgrifenedig ei ddatblygu hefyd drwy lunio'r traethawd ymchwil. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Nid yw'n elfen benodol o'r modiwl hwn |
Datrys Problemau | Mae'r sgil hwn yn elfen allweddol o'r modiwl, a chaiff myfyrwyr eu hannog i ddadansoddi data cynradd a/neu eilaidd yn feirniadol, dynodi ffactorau a allai ddylanwadu ar ddatrysiadau posibl a defnyddio meddwl creadigol i ddatblygu datrysiadau priodol. |
Gwaith Tim | Nid yw'n elfen benodol o'r modiwl hwn er y bydd gofyn i rai myfyrwyr weithio gydag aelodau eraill o grŵp labordy neu grŵp ymchwil, gan gynnwys myfyrwyr traethawd hir eraill. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd y modiwl hwn yn helpu myfyrwyr i ddatblygu a chymhwyso strategaethau dysgu a hunanreoli realistig. Bydd myfyrwyr yn dyfeisio cynlluniau gweithredu personol i gynnwys amcanion tymor byr a thymor hir, ynghyd ag adolygu a monitro cynnydd, a diwygio cynlluniau gweithredu fel bo'n briodol i wella perfformiad cyffredinol. Caiff y rhain eu cyflwyno i gynorthwyo goruchwylwyr i bennu marc priodol ar gyfer ymddygiad myfyriwr. |
Rhifedd | Efallai y bydd y modiwl hwn yn gofyn bod myfyrwyr yn datblygu ymwybyddiaeth fathemategol gyffredinol ynghyd a'i defnyddio mewn cyd-destunau ymarferol (e.e. mesur, pwyso a chymhwyso fformiwlau) yn ol natur y prosiect. Gall myfyrwyr hefyd gaffael a dehongli gwybodaeth fathemategol ac ystadegol. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd unrhyw sgiliau penodol i'r pwnc a ddatblygir yn dibynnu ar natur y prosiect ymchwil e.e. hyfforddiant mewn dilyniannu a dadansoddi DNA, cynllunio holiadur, arsylwi ymddygiad ac ati |
Sgiliau ymchwil | Mae hwn yn fodiwl sy'n seiliedig ar ymchwil sy'n gofyn bod myfyrwyr yn deall ac yn gwerthuso amrywiaeth o ddulliau a gweithdrefnau ymchwil, cynllunio ac ymgymryd ag ymchwil a llunio adroddiad academaidd (traethawd hir). |
Technoleg Gwybodaeth | Caiff amrywiaeth o sgiliau TG eu defnyddio yn ystod y modiwl hwn. Disgwylir i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau i baratoi a mewnbynnu data, taenlenni, prosesu geiriau a rhaglenni dadansoddi penodol i'r ymchwil er mwyn dadansoddi canlyniadau sy'n briodol i'w prosiect. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6