Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
BG26020
Teitl y Modiwl
Monitro a Microbioleg Amgylcheddol
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd gwaith cwrs  (2000 gair)  20%
Asesiad Semester Adroddiad ymarferol a dadansoddi data  (2000 gair, gan gynnwys dadansoddiad o ddata)  30%
Arholiad Semester 2 Awr   50%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o’r asesiad sy’n cyfateb i’r rhai a arweiniodd at fethu’r modiwl.  50%
Asesiad Ailsefyll Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o’r asesiad sy’n cyfateb i’r rhai a arweiniodd at fethu’r modiwl.  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Esbonio’r rhan a chwaraeir gan wahanol ficrobau yn y cylchredau bioddaeargemegol allweddol (carbon, nitrogen a ffosfforws).

2. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o’r modd y mae gwahanol grwpiau o ficrobau’n rhyngweithio â’i gilydd ac ag organebau uwch eraill.

3. Dangos gwybodaeth ynglŷn â sut i ymchwilio i gynefinoedd naturiol a sut y mae dulliau ymchwil yn wahanol i ddulliau monitro arferol.

4. Defnyddio sgiliau TG i ddadansoddi a chloriannu llenyddiaeth ac arbrofion.

Disgrifiad cryno

Bydd y darlithoedd a’r sesiynau ymarferol yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch y rhan a chwaraeir gan ficrobau mewn ecosystemau tirol a dyfrol, gan ganolbwyntio ar eu pwysigrwydd mewn cylchredau bioddaeargemegol. Bydd y modiwl hefyd yn edrych ar y methodolegau a ddefnyddir i astudio’r organebau hyn, y cylchredau y maent yn dylanwadu arnynt ac amodau ecosystem ehangach yng nghyd-destun safonau amgylcheddol.

Nod y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i ddamcaniaethau ac arferion y cylchredau maethol creiddiol sy’n seiliedig ar ficrobau mewn cynefinoedd tirol a dyfrol. Yn ogystal â disgrifio cylchredau bioddaeargemegol yn y cynefinoedd hyn, a’r microbau perthnasol, bydd y modiwl hefyd yn trafod y dulliau a ddefnyddir i ganfod/monitro gweithgarwch microbau, biomas a bioamrywiaeth. Ystyrir hefyd y dulliau a ddefnyddir i fonitro statws a lefelau llygredd ecosystemau, a’u rôl o safbwynt canfod dirywiad amgylcheddol yn gynnar. Esbonnir yr angen i sicrhau bod y dulliau a ddefnyddir i fonitro newidiadau o’r fath yn ailadroddadwy, yn gywir ac wedi’u cysylltu â rheoliadau statudol. Bydd darlithoedd ar fethodoleg yn ategu cyfres o ddosbarthiadau ymarferol.

Cynnwys

Darlithoedd
Bydd y darlithoedd cychwynnol yn trafod y cylchredau bioddaeargemegol allweddol (C,N, P), amrywiaeth biocemegol a genetig o fewn Bacteria/Archaea, rôl ffyngau mewn dirywiad ligoselwlos, cysylltiadau rhwng microbau mewn llynnoedd/nentydd, rôl ffyngau wrth brosesu malurion mewn nentydd, cynhyrchedd cynradd mewn cynefinoedd eigionol, cysylltiadau rhwng microbau ac anifeiliaid, a rhwng microbau a phlanhigion. Asesir dulliau mewn ecoleg microbau (biocemegol/molecylaidd), a fydd yn arwain at ddisgrifiad o dechnegau monitro amgylcheddol ehangach. Ystyrir y cysylltiad rhwng y technegau hyn a’r broses o osod safonau i ddiogelu’r amgylchedd. Trafodir rhinweddau cymharol cynnal profion biolegol a chemegol o amodau amgylcheddol.

Aseiniad Traethawd
Bydd cyflwyno traethawd ar astudiaethau achos penodol mewn ecoleg microbau yn rhan o asesiad y modiwl hwn. Bydd hyn yn darparu’r cyfle i fyfyrwyr ganolbwyntio eu hymchwil personol ar weithrediad ecosystem penodol (dilychwin neu ddiraddedig).
Dosbarthiadau Ymarferol
Bydd cyfres o ddosbarthiadau ymarferol yn trafod profion microbiolegol a chemegol a ddefnyddir wrth asesu ansawdd ecosystemau.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Cyfathrebu ysgrifenedig yn ystod ysgrifennu’r traethawd, yr adroddiad ymarferol a’r arholiad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ni fydd yn cael ei ddatblygu’n benodol, ond ceir llu o gyfleoedd cyflogaeth ym maes monitro amgylcheddol.
Datrys Problemau Gwneir hyn trwy ddadansoddi data o’r sesiynau ymarferol.
Gwaith Tim Yn ystod y dosbarthiadau ymarferol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Darperir adborth ar waith cwrs (ar-lein ac ar lafar), yn ogystal â sesiynau adolygu ar gyfer yr arholiadau.
Rhifedd Gwneir hyn trwy ddadansoddi data o’r dosbarthiadau ymarferol.
Sgiliau pwnc penodol Mae’r modiwl yn trafod damcaniaethau ac arferion sawl dull allweddol ym maes monitro amgylcheddol.
Sgiliau ymchwil Gwneir hyn drwy ymchwilio ar-lein ar gyfer y traethawd.
Technoleg Gwybodaeth Gwneir hyn trwy ymchwilio ar-lein ar gyfer aseiniad y traethawd a thrwy ddadansoddi data o’r dosbarthiadau ymarferol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5