Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr | 40% |
Asesiad Semester | Ymarfer dadansoddi a dogni bwydydd. | 40% |
Asesiad Semester | Prawf MCQ haner canol yr semester 1 | 10% |
Asesiad Semester | Prawf MCQ haner canol yr semester 2 | 10% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl. | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl. | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Gwerthuso priodweddau maethol bwydydd a thrafod rhinweddau cymharol pob un ar gyer gwartheg fferm, ceffylau neu anifeiliaid anwes.
Trafod llunio dognau ar gyfer gwartheg fferm ceffylau neu anifeiliaid anwes.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn trafod dadansoddi bwydydd, ffisioleg treulio bwyd, dogni egni a phrotein, y mathau o fwydydd a ddefnyddir ar gyfer anifeiliaid fferm, rheoli faint o fwyd sy'n cael ei fwyta, a swyddogaeth fitaminau a mwynau ar gyfer anifeiliaid fferm, ceffylau ac anifeiliaid anwes. Bydd strwythur triphlyg i'r modiwl: cyfres gychwynnol o ddarlithoedd fydd yn disgrifio egwyddorion sylfaenol maeth anifeiliaid a bydd disgwyl i bob myfyriwr fynychu'r rhain; dilynir y rhain gan dair cyfres gyfochrog o ddarlithoedd, dosbarthiadau ymarferol a gweithdai fydd yn trafod maeth anifeiliaid fferm, maeth ceffylau a maeth anifeiliaid anwes, a bydd y myfyrwyr yn dewis un o'r rhain.
Cynnwys
Trafodir egwyddorion cyffredinol sy'n ymwneud a bwydydd anifeiliaid, dadansoddi bwydydd, anatomeg dreulio, rheoli chwant bwyd, a maeth egni, protein, mwynau a fitaminau.
Cynnwys sy'n benodol ar gyfer anifeiliaid fferm, ceffylau neu anifeiliaid anwes (10 darlith)
Trafodir y gofynion o ran egni, protein, fitaminau a mwynau, dogni bwydydd, ac anhwylderau maeth a'u perthynas a'r dosbarthiadau hyn o anifeiliaid.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig effeithiol yn yr arholiad a'r aseiniad, a bydd y rhain yn cael eu hasesu. Rhoddir adborth ar hyn yn yr aseiniad. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd myfyrwyr yn meithrin hyder yn eu gallu i werthuso bwydydd a dognau drwy'r modiwl. Bydd strwythur y diwydiant bwydydd anifeiliaid a'i isadeiledd ymchwil cynorthwyol yn rhan hanfodol o'r modiwl, gan ddatgelu ambell gyrchfan posibl i'r myfyrwyr o ran eu gyrfa. |
Datrys Problemau | Mae dogni yn gofyn am gydbwyso'n ofalus ystod o ddiddordebau sy'n cystadlu â'i gilydd am wahanol faethynnau. Bydd hyn yn cael ei ddatblygu a'i asesu yn yr aseiniad. Rhoddir adborth ar hyn yn yr aseiniad. |
Gwaith Tim | |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Y tu allan i'r oriau cyswllt ffurfiol, bydd disgwyl i fyfyrwyr ymchwilio deunyddiau, rheoli amser a chyflawni gwaith erbyn y dyddiadau cau ar gyfer yr aseiniad a'r arholiad. Rhoddir adborth ar hyn yn yr aseiniad. |
Rhifedd | Bydd yr aseiniad ar ddogni yn gofyn i fyfyrwyr drafod rhifau, a chaiff hyn ei asesu yn yr aseiniad. Rhoddir adborth ar hyn yn yr aseiniad. |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygir cysyniadau penodol i'r pwnc yn ymwneud â maeth anifeiliaid a dogni anifeiliaid. |
Sgiliau ymchwil | Yn yr aseiniad a'r arholiad, bydd gofyn i fyfyrwyr ymchwilio i bynciau sydd y tu hwnt i gwmpas y deunydd a drafodir yn y darlithoedd. Defnyddir gwybodaeth o amryw ffynonellau. Asesir sgiliau ymchwil yn yr arholiad a'r aseiniad. Rhoddir adborth ar hyn yn yr aseiniad. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio'r we wrth chwilio ffynonellau gwybodaeth dibynadwy a defnyddio cronfeydd data i ddod o hyd i lyfrau wrth baratoi ar gyfer yr aseiniad a'r arholiad. Bydd y paratoi a wneir ar gyfer yr aseiniad yn cael ei asesu, a dylid paratoi hyn ar gyfrifiadur. Rhoddir adborth ar hyn yn yr aseiniad. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5