Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Online test - Bird ID 1 | 10% |
Asesiad Semester | Online test - Bird ID 2 | 10% |
Asesiad Semester | Phenology mini portfolio (1,200 words) | 30% |
Arholiad Semester | 1.5 Awr | 50% |
Arholiad Ailsefyll | 1.5 Awr Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o’r asesiad sy’n cyfateb i’r hyn a arweiniodd at fethu’r modiwl. | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Phenology mini portfolio (1,200 words) - Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o’r asesiad sy’n cyfateb i’r hyn a arweiniodd at fethu’r modiwl. | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Online test - Bird ID 1 Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o’r asesiad sy’n cyfateb i’r hyn a arweiniodd at fethu’r modiwl. | 10% |
Asesiad Ailsefyll | Online test - Bird ID 2 Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o’r asesiad sy’n cyfateb i’r hyn a arweiniodd at fethu’r modiwl. | 10% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Arddangos gwybodaeth o sut mae ecosystemau a’i chydrannau yn gweithredu.
2. Adnabod caneuon rhywogaethau adar mudol a phreswyl yng nghanolbarth Cymru yn ystod y gwanwyn.
3. Adnabod rhywogaethau cyffredin o goed ar sail nodweddion eu blagur a’i dail.
4. Casglu nodiadau ar ddatblygiad ffenolegol planhigion ac anifeiliaid lleol i gymharu ymateb rhywogaethau i dywydd a’r amgylchedd.
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl yma yn gyflwyniad eang a chyfredol i’r pwnc ecoleg. Mae’n cynnwys elfennau sylfaenol ag amserol ac yn ystyried heriau i’r dyfodol megis ymateb i newid hinsawdd a chadwraeth o fioamrywiaeth. Byddwn yn edrych ar sut mae systemau yn gweithredu ond hefyd ar sut mae rhywogaethau wedi esblygu i fyw o fewn y systemau yma. Bydd awtoecoleg rhywogaethau yn cael eu hystyried tra hefyd yn amlygu rhyngweithiadau gyda phobl. Fe fydd y modiwl yma yn dysgu sgiliau gwerthfawr i adnabod a deall yn y maes a all danategu gyrfaoedd mewn arolygu neu reolaeth ecolegol.
Cynnwys
Yr ecosystem yw’r uned astudio sylfaenol ar gyfer ecoleg a dyma yw’r lefel orau i astudio nifer o berthnasau pwysig rhwng organebau, boed yn blanhigion neu anifeiliaid. Yn gyntaf mae ymdriniaeth gyfannol yn cael ei defnyddio wrth ddadansoddi ecosystem syml yn y twndra Arctig a fydd yn dangos sut mae ein dealltwriaeth o’r system wedi esblygu ac i ddisgrifio’r perthnasau sylfaenol sydd yn bodoli rhwng y gwahanol gydrannau. Er hynny, mae’n orfodol i osod y cysyniad o’r ecosystem mewn hierarchaeth sydd yn ystyried trefniant ecolegol o lefel yr unigolyn i’r biosffer.
Mae amrediad o ffactorau anfiotig yn cael eu hadolygu a’u hystyried mewn perthynas â ffactorau biotig gan gynnwys llysysydda, ysglyfaethu a chystadleuaeth. Ysglyfaethu yw un o’r ffactorau sydd yn cyfyngu niferoedd mewn poblogaethau rhag datblygu tyfiant esbonyddol. Yn ogystal â hyn, mae gan gystadleuaeth am adnoddau effaith yr un mor bwysig. Yn ychwanegol i hyn mae astudio defnydd adnoddau gan rywogaethau yn ein helpu i ddeall eu safle o fewn systemau ecolegol, sydd yn gyffredinol yn cael eu diffinio fel y gilfach. Er hynny, fe fydd rhywogaethau fel arfer yn arddangos addasiadau penodol i sefyllfaoedd penodol o fewn eu gwasgariad. Fe fydd esiamplau o amrywiaethau ecotypig o’r fath yn cael eu trafod.
Er hynny, gellir deall rhai agweddau o ecoleg rhywogaethau unigol o blanhigion ac anifeiliaid yn well drwy astudio eu awtoecoleg. Bydd rhywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid yn cael eu defnyddio i arddangos y cysyniad o awtoecoleg. Mae’r rhain yn cael eu hintegreiddio ar hyd y gyfres o bynciau a fydd yn diwedd gyda’r angen i werthfawrogi a chadw bioamrywiaeth fel adnodd i genedlaethau’r dyfodol.
Fe fydd y gweithgareddau ymarferol yn datblygu sgiliau adnabod coed ac adar y bydd y myfyrwyr yn eu defnyddio i greu portffolio bychan yn nodi newidiadau mewn ffenoleg fflora a ffawna o’r gaeaf i’r gwanwyn. Fe fydd hyn yn cynnwys gwybodaeth fiolegol amserol am blanhigion ac anifeiliaid y tywydd a’r amgylchedd.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd angen sgiliau cyfathrebu gwyddonol da er mwyn dogfennu a thrafod ffenoleg yn yr arholiad. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Fe fydd perthnasedd sgiliau adnabod rhywogaethau o fewn y modiwl i yrfaoedd posib yn cael eu hamlygu. |
Datrys Problemau | Fe fydd y cydrannau ymarferol yn golygu defnyddio sgiliau adnabod i ddilyn y broses o ffenoleg ac i ymateb i’r problemau a roddir. |
Gwaith Tim | Gall myfyrwyr weithio mewn grwpiau er mwyn casglu data o’r maes. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd adborth yn cael ei ddarparu mewn sesiynau ymarferol er mwyn gwella sgiliau ymchwil ag adnabod rhywogaethau. |
Rhifedd | Casglu gwybodaeth meintiol ac ansoddol o’r maes ar gyfer yr aseiniad portffolio. |
Sgiliau pwnc penodol | Mae’r modiwl yn galw i fyfyrwyr i ddatblygu sgiliau adnabod rhywogaethau a sgiliau ymarferol yn y maes sydd yn hanfodol ar gyfer o yrfaoedd amgylcheddol. |
Sgiliau ymchwil | Sgiliau ymchwil yn gysylltiedig gyda chasglu a phrosesu gwybodaeth briodol o’r llenyddiaeth. |
Technoleg Gwybodaeth | Yn cael ei ddefnyddio er mwyn ymchwilio elfennau ar gyfer cefnogi adnoddau addysgu a gweithgareddau ymarferol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4