Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd ffurfiannol (1200 gair, wedi'i gyeirio'n llawn) | 10% |
Asesiad Semester | Adroddiad prosiect (1500-2000 gair, wedi'i gyfeirio'n llawn) | 60% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad seminar | 20% |
Asesiad Semester | Tasg CDP | 10% |
Asesiad Ailsefyll | Ailsefyll yr elfennau, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, a arweiniodd at fethu'r modiwl. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Cyfathrebu gwybodaeth a syniadau ar ffurf cyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig.
2. Datblygu dadl resymegol a herio rhagdybiaethau.
3. Llunio damcaniaethau a chwestiynau ymchwil, casglu data, a llunio dadleuon academaidd.
4. Canfod ffynonellau data ac adnoddau gwybodaeth priodol.
5. Datblygu arferion academaidd priodol (e.e. osgoi ymddwyn yn annheg).
6. Dehongli a defnyddio data.
7. Meddu ar sgiliau cyfrifiadura sylfaenol.
Disgrifiad cryno
Diben y modiwl yw paratoi myfyrwyr drwy feithrin y sgiliau allweddol sydd eu hangen i gael gyrfa academaidd a phroffesiynol lwyddiannus, megis rheoli amser, meddwl yn feirniadol a dysgu myfyriol. Un agwedd bwysig o'r modiwl yw ei fod yn cyflwyno ystod o faterion ymchwil megis gwerthuso llenyddiaeth, asesu data ansoddol a meintiol, a chyfathrebu llafar, gweledol ac ysgrifenedig. Cyflwynir cynnwys y modiwl mewn sawl modd gan gynnwys darlithoedd, gweithdai, e-ddysgu a sesiynau tiwtorial.
Nod
- Sgiliau ysgrifennu a chyflwyno
- Gwerthuso ffynonellau gwybodaeth
- Meddwl yn feirniadol, rhesymu anwythol a diddwythol
- Moeseg ymchwil
- Trin a dadansoddi data
Cynnwys
6 x sesiwn tiwtorial 2 awr ar draws y Semester (heb eu hamserlennu'n ganolog)
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Diben y traethawd ffurfiannol, yr adroddiad prosiect a'r cyflwyniad seminar, ynghyd a'r adborth manwl a ddarperir gan y tiwtoriaid personol, yw meithrin a gwella'r sgiliau hyn. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae CDP wedi'i sefydlu'n llwyr o fewn y modiwl hwn. Disgwylir i'r tiwtoriaid personol gyflwyno a darparu sylwadau ar gynlluniau CDP unigol eu myfyrwyr. Mae CDP wedi ei asesu gan dasg 10%. |
Datrys Problemau | Mae'n bosib y cyflwynir myfyrwyr i gysyniadau datrys problemau wrth ddatblygu'r ddamcaniaeth a fydd yn sylfaen i'w prosiect ymchwil, ond ni fydd datrys problemau yn elfen bwysig o ddatblygu sgiliau yn y modiwl hwn. |
Gwaith Tim | Bydd y gwaith ymchwil ar gyfer y prosiect yn cael ei gyflawni mewn grwpiau gyda'r tiwtoriaid personol i gyflwyno'r myfyrwyr i'r cysyniad o weithio mewn tîm. Hefyd, ar sail adborth a ddarperir gan y grwp, bydd disgwyl i'r tiwtoriaid roi sylwadau am gyfraniad unigolion tuag at gyflawni amcanion y grwp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd yn ofynnol i'r myfyrwyr ganfod a defnyddio ffynonellau llenyddol priodol fel sylfaen ar gyfer eu traethawd a'u hadroddiad prosiect. Hefyd, mae'r sesiynau tiwtorial ffurfiol sy'n rhan o'r modiwl yn galluogi'r tiwtoriaid personol i adolygu a darparu sylwadau am gynlluniau gwaith eu myfyrwyr, ac am eu cynnydd o safbwynt bodloni gofynion y gwahanol aseiniadau. |
Rhifedd | Bydd yn ofynnol i'r myfyrwyr gynhyrchu a chyflwyno data yn eu hadroddiad prosiect. Serch hynny, ar y lefel hwn ni fydd disgwyl iddynt gyflawni dadansoddiadau ystadegol lefel uchel o ddata o'r fath. |
Sgiliau pwnc penodol | Er y gallai myfyrwyr unigol gyflawni prosiect ymchwil a chynhyrchu traethawd ar bwnc sy'n berthnasol i'w cynllun gradd penodol nhw, mae'r modiwl yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau astudio a chyfathrebu trosglwyddadwy generig yn hytrach na sgiliau ar gyfer pynciau penodol. |
Sgiliau ymchwil | Bydd disgwyl i'r myfyrwyr gynllunio a chyflawni prosiect ymchwil bach a chynhyrchu adroddiad academaidd priodol lle bydd disgwyl iddynt hefyd ddarparu sylwadau beirniadol ar y dulliau arbrofol a ddefnyddiwyd. |
Technoleg Gwybodaeth | Ar draws y gwahanol aseiniadau, disgwylir i'r myfyrwyr ddangos eu bod yn gallu defnyddio ystod o becynnau TG perthnasol yn effeithiol (Word, Excel, PowerPoint) |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4