Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Prosiect Ymchwil Gwreiddiol (5,000 gair) | 65% |
Asesiad Semester | 2 Adroddiad Adfyfyriol Astudiaethau Proffesiynol (3,000 gair | 35% |
Asesiad Ailsefyll | Prosiect Ymchwil Gwreiddiol (5,000 gair) | 65% |
Asesiad Ailsefyll | 2 Adroddiad Adfyfyriol Astudiaethau Proffesiynol (3,000 gair Gosodir teitl newydd | 35% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dadansoddi a gwerthuso'n feirniadol effeithiolrwydd y strategaethau addysgu a dysgu y maent wedi'u harsylwi a'u defnyddio ar draws ystod eang o anghenion dysgu;
Creu perthynas feriniadol rhwng damcaniaethau cymhelliant ag arferion ysgol a dosbarth drwy dynnu ar enghreifftiau o'u harsylwi a'u hymarfer mewn Profiad Ysgol;
Dangos yn feirniadol dealltwriaeth dda o sut mae ymchwil a damcaniaeth yn gallu cael eu defnyddio'n ymarferol drwy ymgymryd a Thraethawd Astudiaeth Agored;
Defnyddi'r llenyddiaeth sy'n berthnasol i'r pwnc a ddetholwyd ar gyfer y Traethawd Astudiaeth Agored yn feriniadol ac yn gynhwysfawr;
Gwerthuso eu hymarfer proffesiynol eu hunain yn feirniadol drwy dynnu ar eu hathroniaeth eu hunain o addysgu a dysgu yn ogystal a gwersi a arsylwyd a'r rheini a gynlluniwyd ac a gyflwynwyd ganddynt;
Deall a meddu ar wybodaeth weithredol o ofynion proffesiynol eraill megis dyletswyddau proffesiynol athrawon, ymrwymiadau cyfreithiol athrawon, iechyd a diogelwch, sefydlu perthynas waith da a chydweithwyr proffesiynol a'r angen i gymryd cyfrifoldeb am eu datblygiad proffesiynol eu hunain;
Deall a meddu ar wybodaeth weithredol o ystod eang o faterion yn ymwneud ag addysg dysgwyr, gan gynnwys dimensiynau trawsgwricwlaidd megis ABCh, y Cwricwlwm Cymreig, Dinasyddiaeth Fyd-eang a Datblygiad Cynaliadwy;
Monitro eu datblygiad proffesiynol parhaus drwy fyfyrio a gwerthuso'u profiadau eu hunain yn erbyn y Safonau Statws Athro Cymwysedig (SAC).
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7