Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 10 x Darlithoedd 3 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Aseiniad Aseiniad ysgrifenedig: Cynllunio cynllun asesu mewn cyd-destun penodol (2500 o eiriau) | 50% |
Asesiad Semester | Arteffact/ Gem Arteffact: Cynllunio a chynhyrchu gem 'asesu ar gyfer dysgu' ryngweithiol | 40% |
Arholiad Semester | 6 Awr Cyflwyniad Llafar Asesu llafar a chan gymheiriaid: Amddiffyniad ar lafar am ddeg munud o'r gem `asesu ar gyfer dysgu' ryngweithiol. Bydd yr asesu gan gymheiriaid yn cyfrannu 10% o'r marc terfynol. | 10% |
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad Atodol Aseiniad ysgrifenedig: Cynllunio cynllun asesu mewn cyd-destun penodol (gwahanol i'r uchod) (2500 o eiriau) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Arteffact atodol Arteffact: Cynllunio a chynhyrchu gem `asesu ar gyfer dysgu' ryngweithiol newydd | 40% |
Arholiad Ailsefyll | 6 Awr Cyflwyniad llafar atodol Asesu llafar a chan gymheiriaid: Amddiffyniad ar lafar am ddeg munud o'r gem `asesu ar gyfer dysgu' ryngweithiol. Os na bydd hi?n bosibl i gynnal cyflwyniad llafar, gofynnir i fyfyrwyr ddarparu amddiffyniad ysgrifenedig o'r gem `asesu ar gyfer dysgu? ryngweithiol. | 10% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Arddangos dealltwriaeth o'r cysyniadau a'r gweithdrefnau technegol sydd ynghlwm wrth gynllunio asesiadau mewn cyd-destunau addysgol;
Adolygu a thrafod yn feirniadol y prif bynciau i'r hystyried wrth gynllunio trefniadau asesu priodol.
Arddangos dealltwriaeth o sut y mae arferion asesu yn rhyngweithio a dysgu myfyrwyr;
Cynllunio a chynhyrchu gem `asesu ar gyfer dysgu? ryngweithiol;
Cyflwyno'r feirniadol amddiffyniad ar lafar o'r gem `asesu ar gyfer dysgu? ryngweithiol.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn ceisio asesu'r hyn y mae myfyriwr yn ei ddysgu ac wrth wneud hynny yn codi'r cwestiynau, `pam?? ac `er lles pwy?? yn ogystal a `beth sydd i'r asesu?. Mae'r modiwl hwn yn ymwneud a rol asesu mewn cyd-destun addysgol, yn amrywio o asesu dysgu yn yr ystafell ddosbarth anffurfiol i systemau asesu yn genedlaethol. Dadansoddir enghreifftiau o arferion asesu ym mhob cam addysg, o ysgolion cynradd i addysg uwch, gyda golwg ar ddeall posibiliadau a chyfyngiadau asesu mewn cyd-destun addysgol. Rhoddir pwyslais yn arbennig ar asesu ar gyfer egwyddorion ac arferion dysgu. O'r herwydd, rhoddir cyfarwyddyd i fyfyrwyr ddatblygu gemau rhyngweithiol wedi eu hanelu at israddedigion yn y flwyddyn gyntaf, gyda golwg ar annog myfyrwyr i fyfyrio arnynt eu hunain a gwerthuso eu hunain.
Cynnwys
Beth yw asesiad `da?? Rhai cysyniadau allweddol.
Darlith 2. Cynllunio cynllun asesu: manylion, cwmpas a phwrpas.
Darlith 3. Asesu ar gyfer dysgu: egwyddorion ac enghreifftiau.
Darlith 4. Systemau asesu: Y Cwricwlwm Cenedlaethol.
Darlith 5. Systemau asesu: Llwybr 14-19 ? TGAU, Safon Uwch, GNVQ, Bagloriaeth Cymru, a sgiliau allweddol ac ehangach.
Darlith 6. Systemau asesu: Addysg Uwch
Darlith 7. Pynciau allweddol asesu: asesu ffurfiannol; safoni asesu athrawon; safonau cenedlaethol.
Darlith 8. Hunanfyfyrio a hunanwerthuso gan fyfyrwyr.
Cyflwyniad i asesu gan gymheiriaid.
Darlith 9. Asesu gan gymheiriaid: cyflwyniad llafar myfyrwyr o gem ryngweithiol.
Darlith 10. Asesu gan gymheiriaid: cyflwyniad llafar myfyrwyr o gem ryngweithiol.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir ac asesir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig drwy'r aseiniad ysgrifenedig. Datblygir sgiliau cyfathrebu llafar mewn seminarau a'u hasesu drwy'r amddiffyniad ar lafar o'r gem 'asesu ar gyfer dysgu' ryngweithiol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Cyflwynir myfyrwyr i gysyniad asesu ar gyfer dysgu a byddant yn sylweddoli pwysigrwydd hunanfyfyrio a hunanwerthuso. |
Datrys Problemau | Bydd hyn yn hanfodol i gynllunio a chynhyrchu gem 'asesu ar gyfer dysgu' ryngweithiol. Bydd y modd y mae myfyrwyr yn datrys problemau yn rhan o'r asesu. |
Gwaith Tim | Datblygir hyn drwy waith seminar ac asesu gan gymheiriaid. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Rhoddir cyfarwyddyd i fyfyrwyr ddatblygu gemau rhyngweithiol sydd wedi eu hanelu at israddedigion yn y flwyddyn gyntaf, gyda golwg ar annog hunanfyfyrio a hunanwerthuso gan fyfyrwyr. |
Rhifedd | Amherthnasol. |
Sgiliau pwnc penodol | Gofynnir i fyfyrwyr asesu cyflwyniadau llafar eu cymheiriaid. |
Sgiliau ymchwil | Anogir myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau ymchwil fel un o'r gofynion wrth baratoi ar gyfer gweithgareddau seminar. Asesir y sgil yma drwy aseiniadau ysgrifenedig a llafar. |
Technoleg Gwybodaeth | Trwy anogaeth i ddefnyddio cyfleusterau TG ar gyfer cyflwyno gwaith dosbarth a gwaith i'w asesu ac i gael mynediad i wybodaeth am y cwrs drwy Blackboard. Datblygir ac asesir y defnydd o TG o fewn i gyd-destun cynllunio'r gem ryngweithiol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6