Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 20 x Darlithoedd 1 Awr |
Seminar | 6 x Seminarau 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | 1 x 2,500 o eiriau Traethawd ysgrifenedig | 50% |
Arholiad Semester | 2 Awr 1 x 2 awr arholiad | 50% |
Asesiad Ailsefyll | 1 x 2,500 o eiriau Traethawd ysgrifenedig | 50% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr 1 x 2 awr arholiad | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Dangos sylfaen gadarn o wybodaeth o’r deunydd eilaidd a’r dadleuon sy’n parhau o ran astudio trosedd a therfysg yng Nghymru’r ddeunawfed ganrif diweddar a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
2. Dangos gallu i fyfyrio ar a dadansoddi’n feirniadol ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd sy’n berthnasol I thema trosedd a phrotest.
3. Dangos gallu i gasglu, trefnu a dadansoddi tystiolaeth hanesyddol perthnasol i’r ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gan gynhyrchu dadleuon ar lafar ac ar bapur.
4. Dangos gallu i weithio’n annibynol.
5. Cynhyrchu gwaith mewn dull proffesiynol a dangos sgiliau addas ar gyfer astudio hanes Cymru yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Nod
Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr i ymchwilio i themâu trosedd, terfysg ac anfodlrwydd yng Nghymru yn y cyfnod hwn o fewn cyd-destun y llenyddiaeth eilaidd gyfoethog sy’n perthyn i’r maes. Cyflwynir myfyrwyr i rai o’r dadleuon a phroblemau sy’n codi ar gyfer haneswyr sy’n ymchwilio i’r meysydd hyn. Bydd y modiwl yn ehangu’r dewis sydd ar gael i fyfyrwyr hanes Cymru ac i fyfyrwyr yn gyffredinol sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Disgrifiad cryno
Cynnwys
2. Tadolaeth, moesoldeb ac arweinwyr cymdeithas
3. Crefydd a safonau moesol
4. Y ‘Côd Gwaedlyd’ a rheolaeth gymdeithasol
5. Cadw trefn
6. Trosedd a chosb
7. Cosb heblaw’r gosb eithaf
8. ‘Troseddau cymdeithasol’: trosedd fel protest?
9. Cymdeithas dreisgar?: byw, marw a chwarae
10. Cyfiawnder, moesoldeb a’r gymuned
11. Protest a therfysg yn y ddeunawfed ganrif
12. Y 1790au: trobwynt cythryblus?
13. Anfodlonrwydd gwledig hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg
14. Anfodlonrwydd diwydiannol hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg
15. Y 1830au a Therfysg Merthyr 1831
16. Siartiaeth a Chasnewydd 1839
17. ‘Ac a fendithiasant Rebeca’?
18. ‘Brad y Llyfrau Gleision’
Seminarau:
1. Y bonedd, awdurdod a’r ‘côd gwaedlyd’.
2. Trosedd, cosb a chymdeithas: troseddau marwol.
3. Trosedd, cosb a chymdeithas: dienyddio cyhoeddus
4. Traddodiad terfysg yn y ddeunawfed ganrif.
5. Y bedwaredd ganrif ar bymtheg: anfodlonrwydd gwledig a Beca
6. Y bedwaredd ganrif ar bymtheg: anfodlonrwydd diwydiannol
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando’n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem. |
Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp; cyfrannu at osod targedau grŵp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grŵp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grŵp a chyfraniad personol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a’r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu’r cynllun gweithredu fel bo’n briodol, i wella perfformiad cyffredinol. |
Rhifedd | Ddim yn briodol |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygu gwybodaeth am ffynonellau a llenyddiaeth hanesyddol yn ymwneud ag astudio trosedd a therfysg, gan gynnwys y heriau arbennig sy’n wynebu haneswyr wrth ddefnyddio ystadegau am drosedd. |
Sgiliau ymchwil | Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5