Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminar | 10 x Seminarau 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Traethawd byr o 1000 o eiriau | 20% |
Asesiad Ailsefyll | 1x prosiect o 4000 o eiriau prosiect | 80% |
Asesiad Semester | Asesiad Llafar | 20% |
Asesiad Semester | 1 x prosiect o 4000 o eiriau prosiect | 80% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Dangos ymwybyddiaeth o hanesyddiaeth y mudiad hawliau sifil a diwylliant Affro-Americanaidd yn ystod y cyfnod wedi’r rhyfel
2. Dangos ymwybyddiaeth o’r materion ynglŷn â methodoleg a godir gan y defnydd o ffynonellau clywedol i astudio’r gorffennol.
3. Astudio a dadansoddi ffynonellau gwreiddiol, ffynonellau archifol, printiedig, clywedol neu weledol.
4. Creu a chynnal dadleuon hanesyddol yn llafar ac ysgrifenedig
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn asesu gwerth ffynonellau clywedol a bydd yn defnyddio’r mudiad hawliau sifil yn America o’r 1950au hyd at y 1980au fel achos enghreifftiol. Yn ogystal, bydd y modiwl yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi ffynonellau clywedol yn eu cyd-destun ehangach ac yn ystyried cyd-destun cynhyrchu’r ffynhonnell (h.y. sut y crëwyd y ffynhonnell) a chyd-destun derbyniad y ffynhonnell (h.y. sut y deallwyd y ffynhonnell gan wrandawyr). Ymhlith y ffynonellau clywedol a ddefnyddir bydd: cerddoriaeth boblogaidd a gynhyrchwyd gan gwmnïau masnachol o fewn ffurfiau megis jazz, gospel, r’n’b, soul, funk, disco a rap; caneuon a diwylliant cerddorol y mudiad hawliau sifil; recordiau o gyfarfodydd yr ymgyrch; barddoniaeth a ddarllenwyd gan awduron blaenllaw; a pherfformiadau comedi gan gomediwyr Affro-Americanaidd.
Nod
Bydd y modiwl hwn yn asesu gwerth sain fel ffynhonnell hanesyddol ond, yn ogystal, bydd yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi sain mewn cyd-destun ehangach trwy ystyried ffactorau ynglŷn â’r cynhyrchiant a’r defnydd cyfoes o ffynonellau clywedol. At hynny, defnyddir ffynonellau ‘traddodiadol’ i amlygu’r cyd-destun ehangach hefyd.
Cynnwys
2. Hanes clywedol
3. Gwreiddiau Cerddorol: Hen Ganeuon Ysbrydol a Cherddoriaeth Gospel
4. Ymgyrchoedd cynnar yn y Taleithiau Deheuol
5. ‘Rhyddid Nawr!’: Ymgyrchoedd yn y De Eithaf
6. ‘Inner City Blues’: Bywyd Pobl Dduon a Hawliau Sifil yn Ninasoedd y Gogledd
7. ‘Say it Loud, I’m Black and I’m Proud’: Cenedlaetholdeb Du a Seiniau’r Chwyldro
8. ‘I Have a Dream’: Dadansoddi Areithiau Arweinwyr y Mudiad Hawliau Sifil
9. ‘Respect’: Menywod yn y Mudiad ac yn niwylliant Affro-Americanaidd
10. ‘What’s Going On’: Marwolaeth y Freuddwyd
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Trwy drafodaeth mewn seminar a throsglwyddo gwybodaeth mewn traethawd ac arholiad |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadansoddi |
Datrys Problemau | Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer seminarau a gwaith ysgrifenedig |
Gwaith Tim | Cymryd rhan mewn gweithgareddau seminar a deall sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o’r grŵp |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella’r perfformiad |
Rhifedd | N/A |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygu’r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i’r cyfnod a’r maes ynghyd â’r gallu i ymdrin yn feirniadaol â’r llenyddiaeth eilaidd |
Sgiliau ymchwil | Defnyddio amryw o gyfryngau gwahanol er mwyn ffurfio barn feirniadol. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd defnydd o adnoddau arlein yn rhan hanfodol o ddulliau dysgu’r modiwl hwn a bydd felly’n rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth, er enghraifft, gwneud defnydd o fyrddau trafod ar Blackboard. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5