Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 9 x Darlithoedd 2 Awr |
Darlith | 1 x Darlith 4 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | 1 x traethawd 2,500 o eiriau | 50% |
Arholiad Semester | 2 Awr (1 x arholiad 2 awr) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | 1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,500 o eiriau | 50% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr 1 x arholiad atodol (ail-sefyll) 2 awr | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos eu bod wedi datblygu dealltwriaeth gref o natur a hanes gwladychiad ac imperialaeth yn eu cyd-destun hanesyddol Ewropeaidd ynghyd ag effaith y datblygiadau hyn ar gymdeithas Ewrop.
Asesu dogfennau hanesyddol gwahanol a’u defnyddio mewn modd gwrthrychol er mwyn asesu ffactorau pwysicaf cyfnod imperialaidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Datblygu ac ymestyn eu sgiliau dadansoddol a beirniadol trwy ddefnyddio cyfryngau diwylliannol gwahanol: ffilm, rhaglenni ffeithiol, hunangofiannau a delweddau gweledol.
Casglu gwybodaeth o ffynonellau amrywiol, a lleoli ac ystyried y wybodaeth honno o fewn cyd-destun gwleidyddol, hanesyddol a chymdeithasol.
Nod
Nodau’r modiwl:
• I archwilio effeithiau oes yr ymerodraethau ar gymdeithas a diwylliant yn Ffrainc a Phrydain.
• I ystyried effaith syniadau ymerodraethol ar diwylliant y gwledydd hyn.
• I archwilio’r cyfnod wedi’i Ail Ryfel Byd pan chwalwyd yr ymerodraethau.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn archwilio effeithiau oes yr ymerodraethau ar gymdeithas a diwylliant yn Ffrainc a Phrydain (ac yng Nghymru yn benodol). Byddwn yn ystyried sut treiddiodd syniadau ymerodraethol trwy gydol diwylliant y gwledydd hyn, gan edrych er enghraifft ar sut oedd pobloedd ‘eraill’ yn cael eu portreadu mewn cyhoeddiadau Cymraeg. Yna byddwn yn archwilio’r cyfnod wedi’r Ail Ryfel Byd pan chwalwyd yr ymerodraethau, er bod rhai o’r syniadau a ddaeth yn eu sgîl yn parhau. Felly byddwn yn olrhain tranc poenus yr Ymerodraeth Ffrengig yn Indo-China ac Algeria.
Bydd y rhan fwyaf o’r darlithoedd a’r seminarau yn cael eu cynnal dros y cyswllt fideo (yn ystafell fideo’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol), ond bydd Dr Matthews yn ymweld ag Aberystwyth i gyfarfod â’r myfyrwyr yn gynnar yn y semester. Bydd recordiadau ar gael ar y Porth o bob darlith (naill ai recordiad o sesiwn 2016, neu recordiad o sesiwn 2017). Bydd deunydd paratoadol ar gyfer y seminarau ar gael ar y Porth, a disgwylir i’r myfyrwyr edrych ar y deunydd hwn yn eu hamser eu hunain cyn y sesiynau. Bydd angen elfen o oruchwyliaeth i sicrhau bod y myfyrwyr yn dilyn y cwrs darlithoedd a phenodir aelod o staff yn yr Adran yn Aberystwyth fel cyswllt ychwanegol ar gyfer y myfyrwyr.
Cynnwys
• (Wythnos 1) Darlith 1 – Cyflwyniad i’r modiwl; cyflwr Ewrop ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg
Darlith 2 - Cymhlethdodau a thrafferthion astudio imperialaeth
• (Wythnos 2) Darlith 3 - Trosolwg o imperialaeth Brydeinig hyd at 1914
Seminar 1 - Rhesymau dros sefydlu Ymerodraeth; Safbwyntiau’r Cymry ar yr Ymerodraeth Brydeinig yn Oes Victoria
• (Wythnos 3) Darlith 4 - Trosolwg o Imperialaeth Ffrengig: Pam a sut y tyfodd ail ymerodraeth Ffrainc
Seminar 2 - Cymharu’r ymerodraethau ar y pryd; Ideoleg Imperialaidd mewn delweddau
• (Wythnos 4) Darlith 5 - Cyfalafiaeth; Cymunedau; Cristnogaeth;
Seminar 3 - Cymunedau Cymreig ar draws yr Ymerodraeth Brydeinig; Cenhadon Cymreig
• (Wythnos 5) Darlith 6 - Ffrainc yn yr ymerodraeth, a’r ymerodraeth yn Ffrainc
Seminar 4 - Portreadu’r ymerodraeth a phobloedd brodorol
• (Wythnos 6) Darlith 7 - Ysgwyd cynseiliau ymerodraethau Prydain a Ffrainc: Dau Ryfel Byd a’r Dirwasgiad Mawr
Seminar 5 - Trafodaeth am yr Ymerodraeth yn y Gymraeg yn yr 20fed Ganrif
• (Wythnos 7) Darlith 8 - Dadwladychu Ffrengig – Fietnam ac Algeria
Seminar 6 - Trafodaeth o ymadawiad Ffrainc o Fietnam ac Algeria: Pam oedd dadwladychu Ffrengig mor boenus i Ffrainc?
• (Wythnos 8) Darlith 9 - O’r Ymerodraeth i’r Gymanwlad: Y broses o ganiatáu annibyniaeth i drefedigaethau Prydain
Seminar 7 - Cyflwyniadau o ddiwedd yr Ymerodraeth
• (Wythnos 9) Darlith 10 - Cofio’r Ymerodraeth ac olion antur imperialaidd Ffrainc / Prydain
Seminar 8 - Yr ymerodraeth heddiw
(Wythnos 10) Darlith 11 – Casgliad - gwrthgyferbyniad dwy ymerodraeth fawr
Seminar 9 – Casgliad – gwrthgyferbynnu dwy ymerodraeth fawr + adolygu
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Trwy drafodaeth mewn seminar, cyflwyniad llafar a throsglwyddo gwybodaeth mewn traethawd ac arholiad |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadansoddi |
Datrys Problemau | Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer seminarau a gwaith ysgrifenedig |
Gwaith Tim | Cymryd rhan mewn gweithgareddau seminar a deall sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o’r grŵp |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella’r perfformiad. |
Rhifedd | Ddim yn briodol |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygu’r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i’r cyfnod a’r maes ynghyd â’r gallu i ymdrin yn feirniadaol â’r llenyddiaeth eilaidd sy’n ymwneud ag imperialiaeth a gwladychiad. |
Sgiliau ymchwil | Defnyddio amryw o gyfryngau gwahanol er mwyn ffurfio barn feirniadol |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd defnydd o adnoddau arlein yn rhan hanfodol o ddulliau dysgu’r modiwl hwn a bydd felly’n rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth, er enghraifft, gwneud defnydd o’r Porth |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5