Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GWM9520
Teitl y Modiwl
Polisi a Chyunllunio Iaith yng Nghymru Heddiw
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll Traethawd 4,000 o eiriau  60%
Arholiad Ailsefyll 2,000 Adroddiad briffio  40%
Asesiad Semester Traethawd 4,000 o eiriau  60%
Asesiad Semester 2,000 Adroddiad briffio  40%

Disgrifiad cryno

Rhennir y modiwl yn bedair adran. Bydd yr adran gyntaf yn canolbwyntio ar ddadleuon cyffredinol ym maes cymdeithaseg iaith, ar is-faes o bolisi a chynllunio iaith, gydar nod o gyflwyno myfyrwyr i amrywiaeth o gysyniadau a fframweithiau a fydd yn eu helpu i ddadansoddir ymagweddu penodol tuag at bolisi iaith sydd wedi datblygu yng Nghymru yn y degawdau diweddar. Bydd y modiwl yn symud ymlaen i ganolbwyntion fanwl ar Gymru ar iaith Gymraeg. Bydd yr ail adran yn archwilior broses o shifft iaith, fel y daeth ir amlwg yng Nghymru. Gwneir hynny drwy ystyried yr amryw ffactorau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd a demograffig sydd wedi dylanwadu ar ffawd yr iaith Gymraeg dros y degawdau, ac syn parhau i gael dylanwad heddiw. Bydd y drydedd adran yn trafod a gwerthusor amrywiol fesurau polisi a deddfwriaethol syn cael eu gweithredu ar hyn o bryd, yn genedlaethol ac yn lleol, er mwyn cynnal ac adfywior iaith. Ystyrir yn bennaf Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg ar Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, a hefyd Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Bydd y modiwl yn gorffen gyda phedwaredd adran a fydd yn ystyried swyddogaeth rhai or prif actorion gwleidyddol a gyfrannodd at ddatblygiad yr ymdrech bresennol i adfywior iaith. Bydd hyn yn cynnwys gwerthuso cyfraniad sefydliadau cymdeithas sifil amlwg a hefyd gyfraniad prif bleidiau gwleidyddol Cymru.

Nod

Yn gyffredinol, nod y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i amrywiaeth o gysyniadau a fframweithiau cymdeithaseg iaith defnyddiol a rhoir cyfle iddynt ystyried sut y gellir eu defnyddio i ddadansoddi a gwerthuso, mewn modd systematig

i) natur yr heriau sy’n wynebu cymuned ieithyddol leiafrifol benodol;

a ii) natur y polisi ar camau deddfwriaethol a fabwysiadwyd gan y wlad er mwyn ymateb ir heriau hyn.

Cynnwys

Rhowch amlinelliad or cynnwys, fesul wythnos, gan nodir darlithoedd, y seminarau a/neu unrhyw ddulliau cyflwyno eraill.
Rhan 1 Cyflwyniad i bolisi a chynllunio iaith

1. Iaith a chymdeithas
2. Deall shifft iaith
3. Cynllunio ar gyfer adfywio iaith

Rhan 2 Deall shifft iaith yng Nghymru

4. Ffawd y Gymraeg yn newid dros y canrifoedd
5. Yr iaith Gymraeg heddiw: cyfrifiad 2011 ai oblygiadau
6. Cymru ar Gymraeg o safbwynt cymharol

Rhan 3 Polisi a chynllunio iaith yng Nghymru heddiw
7. Strategaethau iaith Llywodraeth Cymru
8. Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Chomisiynydd y Gymraeg
9. Cynllunio iaith lleol

Rhan 4 Y cyd-destun gwleidyddol
10. Mudiad yr iaith Gymraeg
11. Y pleidiau gwleidyddol ar Gymraeg
12. Dyfodol y Gymraeg

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig a sut i gyflwyno eu dadleuon yn fwyaf effeithiol. Byddant yn dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebun eglur a sut i ddefnyddior rhain yn effeithiol. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddior amryw ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael iddynt a sut orau i ddefnyddior ffurf fwyaf priodol o gyfathrebu. Byddant yn dysgu ysgrifennu a siarad yn glir a sicrhau nodau ac amcanion uniongyrchol. Byddant yn dysgu ystyried dim ond yr hyn syn berthnasol ir pwnc, canolbwynt ac amcanion y ddadl neur drafodaeth. Gofynnir i fyfyrwyr hefyd eirbrosesu eu haseiniadau ysgrifenedig a dylai cyflwyniad y gwaith adlewyrchu mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cydlyniad a chyfathrebu effeithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Pwrpas y modiwl hwn yw gwella a phrofi sgiliau fydd o ddefnydd ir myfyrwyr yn eu swyddi, yn enwedig wrth siarad a grwpiau bychain, gwrando, meddwl ac ymateb i ddatganiadau eraill. Ar ben hynny, maer gwaith ysgrifenedig yn cynnwys ysgrifennun glir ac yn gryno, syn dasg gyffredin yn y gweithle. Anogir myfyrwyr drwy gydol y modiwl i ystyried eu perfformiad ac ystyried gwersi iw defnyddio yn y dyfodol.
Datrys Problemau Bydd gwaith annibynnol a datrys problemau yn un amcan canolog o’r modiwl; wrth gyflwyno dau ddarn o waith ysgrifenedig iw hasesu, bydd gofyn ir myfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal a sgiliau datrys problemau. Bydd gallur myfyrwyr i ddatrys problemau yn cael ei ddatblygu ai asesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol safbwyntiau; rhoi trefn ar ddata a llunio ateb ir broblem; rhesymun rhesymegol; llunio dadleuon damcaniaethol; rhannu pynciau yn broblemau llai.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn cyflawni ymarferion tim yn ystod y seminarau. Ar gyfer llawer or pynciau ar y modiwl, bydd y seminarau yn cynnwys trafod mewn grwpiau bychain a gofynnir i fyfyrwyr drafod pynciau craidd pwnc y seminar fel grwp. Bydd y trafodaethau ar dadleuon hyn yn y dosbarth yn ffurfio rhan sylweddol or modiwl, ac yn galluogir myfyrwyr i fynd ir afael a phwnc arbennig, ac ymchwilio iddo, drwy waith tim.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Nod y modiwl hwn yw hyrwyddo hunanreoli, ond o fewn i gyddestun lle bydd cefnogaeth a chymorth ar gael gan y cydgysylltydd a chyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu au perfformiad eu hunain drwy wneud eu gwaith ymchwil eu hunain a dilyn eu trywydd eu hunain, yn cynnwys chwilio am ffynonellau a phenderfynu (dan gyfarwyddyd) ar gyfeiriad pynciau eu gwaith cwrs ar cyflwyniadau.
Rhifedd Amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Bydd y modiwl hwn yn rhoir cyfle i fyfyrwyr ddatblygu, ymarfer a phrofi amrywiaeth eang o sgiliau syn benodol ir pwnc a fydd yn eu cynorthwyo i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau am y modiwl. Bydd y sgiliau pwnc-benodol hyn yn cynnwys: • Casglu a deall amrywiaeth eang o ddata syn berthnasol ir modiwl • Gwerthuso safbwyntiau syn cystadlu ai gilydd • Defnyddio rhychwant o fethodolegau wrth drafod problemau cymdeithasol a gwleidyddol hanesyddol a chyfoes, cymhleth.
Sgiliau ymchwil Gofynnir ir myfyrwyr wneud gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer elfennau or gwaith iw asesu. Bydd hynnyn golygu defnyddio ystod o ffynonellau gwybodaeth, yn cynnwys testunau academaidd craidd.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr eirbrosesur gwaith fydd iw gyflwyno drwyr llwyfan ar-lein Blackboard. Anogir myfyrwyr hefyd i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal a chwilio am ffynonellau drwy ffynonellau gwybodaeth electronig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7