Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 24 x Darlithoedd 1 Awr |
Seminar | 4 x Seminarau 1 Awr |
Gweithdy | 2 x Gweithdai 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr [1x Arholiad a welir o flaen llaw] pre seen exam - schedule am | 60% |
Asesiad Semester | 1 x Traethawd 1,000 o eiriau | 30% |
Asesiad Semester | Perfformiad seminar | 10% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr (1 x Arholiad a welir o flaen llaw) | 60% |
Asesiad Ailsefyll | 1 x Traethawd 1,000 o eiriau | 30% |
Asesiad Ailsefyll | 1 x 500 o eiriau Adolygiad byr yn lle perfformiad seminar | 10% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Trafod materion sy’n berthnasol i’r astudiaeth o ryfel
2. Trafod natur rhyfel ac ymwneud â dadleuon ynglŷn â’i drawsnewidiad
3. Trafod moeseg rhyfel a’r defnydd o rym milwrol a chymhwyso hyn i enghreifftiau hanesyddol
4. Trafod ac ymwneud â ffurfiau gwahanol o feddwl strategol
5. Trafod natur cudd-wybodaeth a’i esblygiad
6. Trafod ac ymwneud â thrafodaethau sy’n cyffwrdd ar ystod o broblemau diogelwch cyfoes
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl yn cyflwyno myfyrwyr blwyddyn gyntaf i syniadau a thrafodaethau allweddol ym meysydd rhyfel, strategaeth a chudd-wybodaeth. Trwy wneud hyn mae’r modiwl yn cynnig sail deallusol ar gyfer mynd ati i astudio’r meysydd hyn ar lefel Anrhydedd yn ogystal a darparu gafael ar syniadau a chysyniadau pwysig i’r sawl sy’n astudio gwleidyddiaeth Ryngwladol a meysydd cysylltiedig. Bydd y myfyrwyr yn cael eu harfogi â gwybodaeth a thechnegau pwnc-benodol a fydd yn cyfrannu at ddatblygiad sgiliau ysgolheigaidd a chyflogadwyedd yn gyffredinol.
Cynnwys
1. Astudio rhyfel, gan gynnwys ei natur a’i derfynnau
2. Strategaeth, gan gynnwys strategaeth gonfensiynol, ataliaeth, rhyfela chwyldroadol-guerrilla a therfysgaeth
3. Astudio cudd-wybodaeth
4. Problemau a thrafodaethau cyfoes ym maes diogelwch
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4