Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminar | 11 x Seminarau 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr 2 awr | 50% |
Arholiad Semester | 2 Awr 2 awr pre seen exam schedule am | 50% |
Asesiad Ailsefyll | 1 x Traethawd 2,000 gair | 50% |
Asesiad Semester | 1 x Traethawd 2,500 gair | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Cloriannu'n feirniadol y gwahaniaethau rhwng y cysyniad o ryfel 'diarbed' a rhyfel 'cyfyngedig', ynghyd â gwreiddiau hanesyddol y cysyniadau hyn.
2. Cymhwyso a chloriannu ystod o fframweithiau ar gyfer deall yr ymwenud cymhleth a chyfnewidiol rhwng rhyfel a chymdeithasau.
3. Dangos dealltwriaeth feirniadol o'r gwahanol lefelau o fobaleiddio cymdeithasol a ddefnyddiwyd gan rhyfelwyr yn ystod gwahanol achosion o wrthdaro.
4. Cloriannu'n feirniadol y mathau gwahanol o straen y mae cymdeithas wedi'i wynebu yn sgil mathau gwahanol o ryfeloedd.
5. Archwylio'n feirniadol y berthynas rhwng syniadau, cymdeithas, economi, gwleidyddiaeth a natur rhyfel.
Disgrifiad cryno
Cynnwys
Ymhlith y pynciau a drafodir yn y modiwl mae: mathau o ryfel a heddwch; rhyfel diarbed; brenhinoedd a dilynwyr; milwyr cyflog a gwladwriaethau; chwyldro a diwydiant; imperialaeth ac ideoleg; rhyfel arwrol ac ôl-arwrol; a chysyniad ‘heddwch diarbed’.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno'u syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig a sut i gyflwyno'u dadleuon yn y ffordd fwyaf effeithiol. Byddant yn dysgu am bwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i fanteisio arnynt. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio’r amryw ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael a sut i gyfathrebu yn y ffordd fwyaf priodol er mwyn sicrhau’r budd mwyaf. Byddant yn dysgu ysgrifennu a siarad yn glir ac yn dysgu sut i nodi eu nodau a’u hamcanion yn glir. Byddant yn dysgu ystyried dim ond yr hyn sy’n berthnasol i destun, ffocws ac amcanion eu dadl neu drafodaeth. Bydd gofyn i'r myfyrwyr hefyd baratoi eu traethodau ar brosesydd geiriau, a dylid cyflwyno'r gwaith ar ffurf sy'n mynegi syniadau'n effeithiol ac yn defnyddio sgiliau iaith yn dda er mwyn sicrhau eglurder, cysondeb a chyfathrebu effeithiol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bwriedir i’r modiwl hwn fireinio a phrofi sgiliau a fydd o fudd i’r myfyrwyr yn eu bywyd gwaith, yn enwedig o safbwynt siarad â grwpiau bach, a gwrando, meddwl ac ymateb i ddatganiadau pobl eraill. Yn ogystal, mae’r gwaith ysgrifenedig yn cynnwys ysgrifennu’n glir ac yn gryno, sy’n dasg gyffredin yn y gweithle. Anogir y myfyrwyr i fyfyrio ar eu perfformiad ac ystyried gwersi i’w defnyddio yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Bydd gweithio'n annibynnol a datrys problemau yn un o nodau canolog y modiwl; drwy orfod cyflwyno dau draethawd bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymchwilio annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Datblygir gallu'r myfyrwyr i ddatrys problemau ac asesir hynny drwy ofyn iddynt: fabwysiadu safbwyntiau gwahanol; trefnu data ac amcangyfrif ateb i'r broblem; ystyried achosion eithafol; rhesymu; llunio modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; chwilio am batrymau; rhannu pynciau trafod yn broblemau llai. |
Gwaith Tim | Bydd y myfyrwyr yn gwneud ymarferion tîm yn y seminarau. Ar gyfer llawer o bynciau trafod y modiwl hwn, cynhelir trafodaethau mewn grwpiau bach yn y seminarau lle gofynnir i'r myfyrwyr drafod mewn grŵp y materion craidd sy’n gysylltiedig â phwnc trafod y seminar. Mae’r trafodaethau a'r dadleuon dosbarth hyn yn rhan sylweddol o'r modiwl, a byddant yn gyfle i'r myfyrwyr i ystyried ac ymdrin â phwnc trafod penodol drwy waith tîm. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Nod y modiwl yw hybu sgiliau hunanreoli ond mewn cyd-destun lle mae cymorth a chefnogaeth ar gael gan y cydlynydd a chan gyd-fyfyrwyr fel ei gilydd. Bydd disgwyl i'r myfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad eu hunain drwy wneud eu gwaith ymchwil eu hunain a gweithio ar eu liwt eu hunain, gan gynnwys chwilio am ffynonellau a phenderfynu (dan gyfarwyddyd) ar gyfeiriad eu gwaith cwrs a phynciau eu cyflwyniadau. Drwy orfod paratoi i gymryd rhan mewn seminarau a chyflwyno gwaith cwrs erbyn y dyddiad cau, bydd y myfyrwyr yn dysgu am yr angen i reoli eu hamser. |
Rhifedd | Ddim yn berthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Caiff y myfyrwyr gyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi amryw helaeth o sgiliau pwnc-benodol i’w helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Ymhlith y sgiliau pwnc-benodol hyn mae: • Casglu a deall ystod eang o ddata sy’n gysylltiedig â’r modiwl • Gwerthuso safbwyntiau sy’n cystadlu â’i gilydd • Dangos technegau ymchwil pwnc-benodol Cymhwyso amryw o fethodolegau i broblemau gwleidyddol hanesyddol a chyfoes. |
Sgiliau ymchwil | Bydd gofyn i'r myfyrwyr wneud gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer elfennau o'r gwaith a asesir. Bydd hyn yn golygu defnyddio ffynonellau yn y cyfryngau ac ar y we, ynghyd â thestunau academaidd mwy confensiynol. Caiff y myfyrwyr eu hasesu’n rhannol ar sail eu gallu i gasglu adnoddau a deunyddiau priodol a diddorol. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd disgwyl i'r gwaith y mae'r myfyrwyr yn ei gyflwyno gael ei baratoi ar brosesydd geiriau. Hefyd, anogir y myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â chwilio am wybodaeth o ffynonellau electronig. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6