Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 44 x Darlithoedd 1 Awr |
Darlith | 3 x Darlithoedd 2 Awr |
Seminar | 8 x Seminarau 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad . Ni chaiff ymgeiswyr ddod a llyfrau, nodiadau na deunydd arall i mewn i'r arholiad. | 65% |
Asesiad Semester | Aseiniad : gwaith cwrs 2500 o eiriau o gwestiynau byrion i'w gyflawni yn semester 2 | 35% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad - os caiff yr arholiad ei fethu. Ni chaiff ymgeiswyr ddod a llyfrau, nodiadau na deunydd arall i mewn i'r arholiad. | 65% |
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad : gwaith cwrs 2500 o eiriau o gwestiynau byrion - os caiff y aseiniad ei fethu. | 35% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Adnabod a egluro y gwahanol funddianau sydd yn gallu bodoli dros dir.
Adnabod a egluro y gwahaniaethau rhwng budd personal a budd dros eiddo.
Adnabod a egluro pryd y bydd budd dros dir yn rhwymo perchenog olynnol.
Egluro'r gwahaniaethau rhwng buddianau cyfreithiol a buddianau ecwitiol.
Egluro'r gwahaniaethau rhwng tir cofrestredig a thir anghofrestredig.
Egluro egwyddorion cyfraith tir.
Gallu dadansoddi sefyllfaoedd ffeithiol ac egluro perthnasedd y gyfraith i'r sefyllfaoedd hynny.
Dangos tystiolaeth o fod wedi cyflawni ymchwil er mwyn gallu trafod cwestiynau cyfreithiol a chymdeithasol o berspectif lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ac i adnabod effeithiau gwleidyddol ac effeithiau'r cyfryngau ar y gyfraith.
Dangos tystiolaeth o allu i werthuso ystod eang o ddeunyddiau cyfeithiol ac academaidd a'u hintegreiddio i ffurfio perspectifau newydd, theoriau ac atebion i broblemau cyfreithiol.
Dangos tystiolaeth o allu trefnu gwybodaeth mewn modd sydd yn dangos ymwybyddiaeth o'r dadleuon o blaid ac yn erbyn gosodiad, ac i ddefnyddio dadleuon hynny er mwyn cyrraedd ateb ac i gyfiawnhau'r ateb hwnnw.
Gallu cyflwyno canlyniadau (ar lafar ac yn ysgrifenedig) yn gryno ac yn effeithiol yn Saesneg neu yn Gymraeg gan ddefnyddio'r terminoleg briodol yn gywir.
Gallu defnyddio gwybodaeth er mwyn datrys problemau theoretig ac ymarferol.
Disgrifiad cryno
Mae tir yn nwydd gwerthfawr. Mae'r rheiny sy'n berchen ar dir yn dymuno cadw'u gafael arno. Mae'r rheiny nad oes tir ganddynt yn dymuno'i gael. Y gyfraith sy'n rheoli'r cysylltiadau hyn yw cyfraith tir. Mae pobl sy'n prynu tai a phobl sy'n berchen arnynt yn cael eu rheoli gan gyfraith tir, ac mae hyn hefyd yn wir am bobl sy'n rhentu tai a fflatiau. Mae pobl sy'n defnyddio gwasanaethau megis nwy, trydan a dwr yn cael eu rheoli gan gyfraith tir. Mae pobl sy'n mynd i'r theatr neu'r rheiny sy'n hoff o fynd i wylio gemau pel-droed yn cael eu rheoli gan gyfraith tir, ynghyd a banciau a chymdeithasau adeiladu, cyplau priod a di-briod a pherchnogion rheiliau tywelion, ceffylau chwilfrydig a physt gatiau siap llew. Mae hyd yn oed gwyrddni parhaus y tir y tu allan i sinema'r Odeon yn Leicester Square yn Llundain yn cael ei reoli gan gyfraith tir. Yng ngoleuni hyn oll, bydd y modiwl hwn yn cynnwys ystyriaethau megis beth yw tir, pa elfennau sydd i gyfraith tir a sut gellir sicrhau, cadw neu golli hawliau a buddiannau sy'n ymwneud a thir.
Nod
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i'r egwyddorion sy'n rheoli'r broses o gaffael hawliau dros dir a chadw'r hawliau hynny. Ei nod felly yw esbonio'r ffordd y mae cytundeb rhwng un unigolyn a'r llall yn troi'n gytundeb sy'n arwain at fantais neu rwymedigaeth nid ar unigolyn ond yn hytrach ar rywun yn rhinwedd ei swyddogaeth fel perchennog ystad mewn tir. Yn unol a hyn, mae'r hyn sy'n cael ei sicrhau rhwng dau unigolyn dan gyfraith contract yn cael ei ail-greu dan gyfraith tir i greu hawliau a rhwymedigaethau a allai rychwantu cenedlaethau. Felly, nod y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i gysyniad tir a chaffael a ffurfioli hawliau sy'n ymwneud a thir unigolyn a thir sy'n eiddo i rywun arall. Ei nod yw rhoi cyfraith tir yng nghyd-destun hanes cyfreithiol Cymru a Lloegr a'r sefyllfa gyfredol o safbwynt cymdeithasol ac economaidd. Ei nod hefyd yw datblygu ffordd o gymhathu a chyflwyno gwybodaeth gyfreithiol, creu dadleuon rhesymegol a phrofedig a datblygu'r gallu i adnabod a chloriannu'r ffordd y mae'r gyfraith yn datrys problemau cymdeithasol gwirioneddol a chanfyddedig. Nod arall y modiwl hwn yw cyflwyno un o sylfeini gwybodaeth gyfreithiol y mae'n rhaid i bob myfyriwr sy'n dymuno gweithio yn y proffesiynau cyfreithiol eu cael.
Cynnwys
- Cyflwyniad
- Beth yw Tir?
- Pa elfennau sydd i Gyfraith Tir?
- Perchnogaeth tir
- Hawliau dros dir sy'n berchen i rywun arall
- Cydnabod hawliau perchnogaeth ac amherchnogaeth
- Cydberchnogaeth
- Prydlesi
- Morgeisi
- Hawddfreintiau
- Cyfamodau
- Trosglwyddo
Llyfrau a Deunydd Darllen
Nid oes gwerslyfr penodol i'r modiwl hwn. Awgrymir rhai gwerslyfrau yn y darlithoedd sy'n rhan o'r modiwl, gan fod cyhoeddwyr yn aml yn cyhoeddi rhifynnau newydd o werslyfrau yn ystod yr haf. Fodd bynnag, caiff myfyrwyr fynd a llyfr statudau i mewn i'r arholiad, ac mae'r canlynol yn enghreifftiau o destunau rhesymol. Pa werslyfr bynnag y penderfynwch ei brynu, dylech hefyd fwrw golwg dros rai o'r llyfrau eraill ar y rhestr, yn ogystal ag unrhyw ddeunydd darllen arall y gallech fod wedi'i gael ar ffurf achosion, adroddiad ac erthyglau cyfnodolion.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6