Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GF34030
Teitl y Modiwl
Cyfraith Ewrop
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 40 x Darlithoedd 1 Awr
Seminar 8 x Seminarau 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  . Caiff ymgeiswyr ddod a chopiau, heb eu marcio, o Blackstone's EU Treaties and Legislation NEU Palgrave a Macmillan Core EU Legislation NEU Routledge European Union Legislation NEU OUP, Rudden and Wyatt's EU Treaties and Legislation. Rhaid i ddeunydd o'r fath aros heb ei farcio yn ystod yr arholiad. Caniateir goleuo testun a thanlinellu. Ceir defnyddio nodiadau post-it gwag i gadw tudalennau.  (Ail Semester)  60%
Asesiad Semester Traethawd 2000 o eiriau i'w asesu (Ail Semester)  40%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad  . Caiff ymgeiswyr ddod a chopiau, heb eu marcio, o Blackstone's EU Treaties and Legislation NEU Palgrave a Macmillan Core EU Legislation NEU Routledge European Union Legislation NEU OUP, Rudden and Wyatt's EU Treaties and Legislation. Rhaid i ddeunydd o'r fath aros heb ei farcio yn ystod yr arholiad. Caniateir goleuo testun a thanlinellu. Ceir defnyddio nodiadau post-it gwag i gadw tudalennau.  - os methir yr elfen hon  60%
Asesiad Ailsefyll Traethawd 2000 o eiriau i'w asesu  - os methir yr elfen hon  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Egluro a dadansoddi arwyddocâd strwythurau cyfansoddiadol a sefydliadol sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd.
2. Dangos tystiolaeth o fod wedi cwblhau ymchwil gyfreithiol er mwyn dangos lefel uwch o gymhwysedd wrth ganfod a defnyddio ffynonellau cynradd ac eilaidd cyfraith Ewrop yn ogystal â safbwyntiau athrawiaethol a damcaniaethol ar gyfraith Ewrop.
3. Dangos dealltwriaeth gynhwysfawr o sut y mae gwahanol gategorïau cyfraith Ewrop yn rhyngweithio â systemau cyfreithiol cenedlaethol.
4. Egluro, mewn modd cynhwysfawr, yr egwyddorion y seilir y farchnad fewnol arnynt a sut yr adlewyrchir y rhain yn narpariaethau Cytuniadau a'u datblygu yn neddfwriaeth a chyfraith achosion eilaidd Llys Cyfiawnder Ewrop.
5. Defnyddio'r egwyddorion cyfreithiol perthnasol wrth ddatrys, egluro a datblygu problemau damcaniaethol a / neu ymarferol sy'n codi cwestiynau sy'n ymwneud ag agweddau ar Gyfraith yr Undeb Ewropeaidd.

Disgrifiad cryno

Mae cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn gorff sylweddol o reolau sy'n rheoli sbectrwm eang o weithgareddau masnachol a chymdeithasol aelod-wladwriaethau. Mae'r cwrs yn ymdrin a chyfraith sylwedd a chyfraith sefydliadol.

Nod

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno deunyddiau a methodolegau gorchmynion cyfreithiol Ewropeaidd ac yn egluro prif nodweddion y drefn gyfreithiol sy'n seiliedig ar yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r modiwl yn canolbwyntio'n arbennig ar brosesau deddfu; gweithredu a gorfodi cyfraith a pholisi'r UE; atebolrwydd cyfreithiol sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd; y berthynas rhwng yr UE a systemau cenedlaethol, ynghyd a meysydd pwysig cyfraith sylwedd yr UE, fel y rheolau cyfreithiol sy'n llywodraethu'r farchnad fewnol.

Cynnwys

  • Hanes datblygiad Integreiddio Ewropeaidd
  • Natur Cyfraith yr UE: Ystyr a datblygiad Athrawiaeth Goruchafiaeth Cyfraith yr UE; Athrawiaeth effaith uniongyrchol; Cymwyseddau a Chategoriau'r Gyfraith (Rheoliadau, Cyfarwyddebau, Penderfyniadau)
  • Strwythur sefydliadol yr Undeb Ewropeaidd: Comisiwn, Cyngor a Senedd (cyfansoddiad a phwerau); Cyfansoddiad a Strwythur Sefydliadol Llysoedd yr UE; Swyddogaeth yr Adfocad Cyffredinol; Dulliau Gwaith a Phroses Resymu'r Llysoedd Ewropeaidd
  • Prosesau deddfu'r UE: Prosesau Deddfu Ffurfiol a 'Chyfraith Feddal'
  • Gweithredu a gorfodi rheolau'r Undeb Ewropeaidd: swyddogaeth Llysoedd Cenedlaethol a'r Weithdrefn Gyfreirio Ragarweiniol; Effaith Uniongyrchol; Gorfodi Rheolau'r UE gan y Comisiwn Atebolrwydd Gwladwriaethau
  • Atebolrwydd yng nghyfraith yr UE; Adolygiad Barnwrol o Weithredu'r Undeb; Sylfeini Adolygiad Barnwrol o Weithredu'r Undeb
  • Rheoliadau'r Farchnad Fewnol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Paratoi ar gyfer seminarau, a thrafod yn y seminarau. Gwaith Cwrs ac Asesiadau mewn Arholiadau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa
Datrys Problemau Paratoi a thrafod cwestiynau datrys-problemau mewn seminarau.
Gwaith Tim Gwaith seminar a'r aseiniad ysgrifenedig: paratoi a thrafodaethau grŵp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Ymchwilio ar ôl darlithoedd a pharatoi ar gyfer seminarau.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Ymchwil gyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfreithiol a gynlluniwyd yn arbennig fel adnodd ar gyfer cyfraith statud a chyfraith achosion.
Sgiliau ymchwil Ymchwilio ar ôl darlithoedd a pharatoi ar gyfer seminarau.
Technoleg Gwybodaeth Ymchwilio ar ôl darlithoedd a pharatoi ar gyfer seminarau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6