Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
DA22420
Teitl y Modiwl
Gwaith Maes Daearyddiaeth
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
GG22420
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 2 x Darlithoedd 1 Awr |
Llafar | 1 x Gweithgaredd Llafar 2 Awr |
Darlith | 4 x Darlithoedd 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar o 10 munud | 20% |
Asesiad Semester | Adroddiad(au) byr (cyfanswm o 1,500 o eiriau) | 30% |
Asesiad Semester | Adroddiad yr unigolyn ar brosiect grwp (2,500 gair) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad llafar o 10 munud | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad(au) byr (cyfanswm o 1,500 o eiriau) | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad yr unigolyn ar brosiect grwp (2,500 gair) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | 2 x 2500 o eiriau I: Bydd myfyrwyr sy'n mynychu'r cwrs maes ond yn methu'r asesiad yn cael cyfle i ailgyflwyno cydrannau a fethwyd erbyn dyddiad a gytunir gyda'r cydlynydd modiwl (bydd marciau ar gyfer cydrannau nas methwyd yn cael eu cario ymlaen). Bydd angen i fyfyrwyr sy'n colli'r cwrs maes ailsefyll y modiwl yn y flwyddyn academaidd ddilynol trwy fynychu un o'r teithiau maes daearyddiaeth sydd ar gael yn ystod eu 3ydd flwyddyn o astudio. Mae dull asesu amgen (sy'n cynnwys adroddiadau 2 x 2500 o eiriau) ddim ond ar gael i fyfyrwyr nad ydynt yn gallu cymryd rhan mewn gwaith maes, o ganlyniad i faterion personol a / neu feddygol a gafodd eu cadarnhau gan weithiwr proffesiynol annibynnol a chymwysterau priodol. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Nodi problemau ymchwil cyfoes a pherthnasol yn Naearyddiaeth.
Cynllunio strategaethau ymchwil er mwyn casglu a dadansoddi data sy'r berthnasol ar gyfer y cwestiynau ymchwil hynny.
Arddangos y gallu i ddefnyddio amrediad o ddulliau casglu a dadansoddi data.
Cyfathrebu canlyniadau ymchwil trwy adroddiadau ysgrifenedig a chyflwyniadau llafar.
Disgrifiad cryno
Trwy ddadansoddi themau perthnasol a chyfredol yn Naearyddiaeth, amcan y modiwl yw i roi cyfle i'r myfyrwyr i:
.1. Ddefnyddio a chymhwyso dulliau theoretig neu dechnegol i'r maes ac i werthfawrogi sut gall lleoedd neu amgylcheddau penodol ddylanwadu ar brosesau a ystyrir i fod yn gyffredinol eu natur.
.2. Ddatblygu eu gallu i nodi problem neu gwestiwn ymchwil, ac i ddatrys neu ateb y rhain drwy broses o brofi hypothesis neu gynllunio ymchwil.
.3. Ystyried, lle bo'r addas, ystyriaeth o faterion ethegol yn ymwneud ag ymchwil.
.4. Ddatblygu dealltwriaeth o nodweddion lle, o wahaniaeth a'r ymdeimlad o oddefgarwch tuag at eraill.
.5. Feithrin sgiliau trosglwyddadwy, megis y gallu i weithio mewn gr'r, a sgiliau dirnadaeth a dehongli.
.6. Ddatblygu sgiliau ymchwilio yn y maes trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cynnwys
Ceir cyfle i baratoi'r myfyrwyr ar gyfer y cyfnod o waith maes mewn wyth sesiwn a fydd yn gyfuniad o ddarlithoedd a gwaith ymarferol. Rhydd y sesiynau hyn gyfle i ddysgu am sgiliau gwaith maes penodol, e.e. sgiliau mapio, ynghyd a sut i ddatblygu cwestiynau ymchwil addas. Wedi hyn, ceir cyfnod o waith maes o rhwng 6 a 8 niwrnod, gyda'r union hyd yn ddibynnol ar y cyrchfan. Bydd natur y themau a drafodir ar drip gwaith maes penodol yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn gan ddibynnu ar: natur y cyrchfan; trefniadau staffio ar drip penodol; y cyrsiau gradd y bydd y myfyrwyr wedi cofrestru ar eu cyfer. Serch hynny, bydd pob trip yn canolbwyntio i raddau helaeth ar y themau canlynol:
.1. Dylanwadau'r ddynoliaeth ar yr amgylchedd.
.2. Peryglon naturiol.
.3. Dehongli tirluniau dynol a ffisegol.
.4. Agweddau ar ddaearyddiaeth ddiwylliannol, wleidyddol ac economaidd.
.5. Agweddau ar newid amgylcheddol.
Bydd myfyrwyr yn cael eu rhannu i grwpiau cyfrwng Cymraeg yn ystod y sesiynau paratoadol yn ogystal ag yn ystod y gwaith maes ei hunan a bydd disgwyl iddynt gyflwyno'r asesiadau ysgrifenedig a llafar trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd oriau cyswllt ffurfiol ac anffurfiol yn ystod y gwaith maes ei hunan yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg oherwydd y bydd dau aelod o staff cyfrwng Cymraeg yn rhan o'r tim staffio.

Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar yn y maes trwy drafodaethau grw^p, adroddiadau a’r cyflwyniad llafar. Bydd pwyslais yn y modiwl hwn ar hybu’r sgiliau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | |
Datrys Problemau | Datblygir hwn wrth i fyfyrwyr i ddylunio a chwblhau prosiectau byr yn y maes, ac wrth iddynt geisio ateb cwestiynau ymchwil penodol |
Gwaith Tim | Datblygir hyn trwy gyfres o brosiectau ymchwil yn y maes. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd myfyrwyr yn gyfrifol am wneud eu nodiadau eu hunain, paratoi ar gyfer y cyflwyniad llafar a chyflwyno adroddiadau. |
Rhifedd | Lle bo’n addas, hyfforddir y myfyrwyr mewn dulliau ystadegol er mwyn dadnsoddi data o’r maes. |
Sgiliau pwnc penodol | Sgiliau dirnad a dehongli tirluniau. |
Sgiliau ymchwil | Bydd gofyn i fyfyrwyr i gwblhau nifer o brosiectau ymchwil a chynllunio a chwblhau o leiaf un prosiect a fydd yn cynnwys ymdrech i: nodi problem; gynllunio prosiect; gasglu data; dadansoddi a chyflwyno data. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd gofyn i’r myfyrwyr i gyflwyno adroddiadau, i wneud chwiliadau am wybodaeth a, lle bo’n addas, i ddadansoddi data trwy ddefnyddio dulliau electronig. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5