Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Prawf cyfieithu ar y pryd (o’r Gymraeg i’r Saesneg) | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Prawf cyfieithu ar y pryd (o’r Gymraeg i’r Saesneg) | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad 1000 o eiriau | 20% |
Asesiad Semester | Prawf cyfieithu ar y pryd (o’r Gymraeg i’r Saesneg) | 40% |
Asesiad Semester | Prawf cyfieithu ar y pryd (o’r Gymraeg i’r Saesneg) | 40% |
Asesiad Semester | Adroddiad | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Rhoi gwerthusiad beirniadol o swyddogaeth cyfieithu ar y pryd mewn cyd-destun lleol a rhyngwladol;
Arddangos sgiliau gwrando, dehongli, cyflwyno a chyfathrebu’n raenus yn y Gymraeg a’r Saesneg;
Gweithio’n annibynnol a chymhwyso’r sgiliau hynny sydd eu hangen i gyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg.
Disgrifiad cryno
Yn y modiwl hwn esbonnir ychydig o gefndir cyfieithu ar y pryd yng Nghymru a thu hwnt, a thrafodir cyd-destunau gwahanol Cyfieithu ar y pryd. Mae gwedd ymarferol bwyisg i’r modiwl hwn, a cheir cyfle i ymarfer a chysgodi cyfieithydd ar y pryd profiadol. Y bwriad yw paratoi myfyrwyr a datblygu eu hyder ar gyfer gweithio mewn swyddi cyfieithu proffesiynol yng Nghymru.
Nod
Pwrpas y modiwl hwn yw cynnig blas cychwynnol i fyfyrwyr o’r maes cyfieithu ar y pryd, datblygu sgiliau cyfieithu ar y pryd, a hynny mewn amgylchedd cefnogol.
Cynnwys
1. Cyd-destunau cyfieithu ar y pryd - gweithdy
2. Mireinio sgiliau llefaru a chyfathrebu proffesiynol - gweithdy
3. Ymarfer Cyfieithu ar y Pryd - gweithdy
4. Ymarfer Cyfieithu ar y Pryd – gweithdy
5. Ymarfer Cyfieithu ar y Pryd – gweithdy
6. Ymarfer Cyfieithu ar y Pryd – gweithdy
7. Adolygu a pharatoi ar gyfer yr asesu - gweithdy
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Llafar – trwy drosi’r hyn a gyfathrebir mewn un iaith i iaith arall. Ysgrifenedig – cyflwyno gwybodaeth am sefyllfa cyfieithu ar y pryd ar ffurf adroddiad. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae’r modwl yn un proffesiynol sy’n meithrin sgil defnyddiol a pherthnasol iawn i yrfaoedd yr unigolion sy’n ei ddilyn. |
Datrys Problemau | Prosesu gwybodaeth ac ystyried sut i’w throsi i iaith arall ar fyrfyfyr. |
Gwaith Tim | Ceir sefyllfaoedd torfol sy’n berthnasol i waith cyfieithydd ar y pryd er mwyn cynnig cyfleoedd gwella perfformiad ac ymarfer. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Cyfieithu ar y pryd trwy gyfres o dasgau gyda chyfle i wrando a myfyrio ar eu perfformiad ac ail recordio |
Rhifedd | Rhaid trosi gwybodaeth rifyddol, all fod yn dechnegol ar adegau, o un iaith i iaith arall. |
Sgiliau pwnc penodol | Mae’n fodwl arbenigol ac ymarferol sy’n gysylltiedig â throsi o un iaith sef y Gymraeg i iaith arall sef y Saesneg. |
Sgiliau ymchwil | Paratoi ac ystyried geirfa/termau allweddol oddi fewn i derfyn amser penodol i’w trosi o un iaith i’r llall. Llunio adroddiad beirniadol. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddir cyfrifiaduron a rhaglenni recordio cydnabyddedig ynghyd ag offer cyfieithu ar y pryd. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7