Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Gweithdy | 2 x Gweithdai 7 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Adroddiad/dyddiadur | 40% |
Asesiad Semester | Portffolio o waith cyfieithu | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad/dyddiadur | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Portffolio o waith cyfieithu | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos dealltwriaeth lawn/ddofn o fyd gwaith y cyfieithydd proffesiynol: dyletswyddau sylfaenol, rheoli amser yn effeithiol, sicrhau ansawdd, gweithio fel rhan o dîm.
Dadansoddi’n feirniadol rôl y cyfieithydd yn y gweithle penodol.
Dadansoddi’n feirniadol ei (d)datblygiad ei hun yn ystod cyfnod y profiad gwaith.
Nod
Pwrpas y modiwl hwn yw rhoi profiad ymarferol a phroffesiynol i fyfyrwyr mewn amrywiol weithleoeddsydd yn cyflogi cyfieithwyr. Bydd y modiwl yn darparu cyfle i fyfyrwyr roi eu sgiliau a’u gwybodaeth ar waith, gan ddatblygu ac adeiladu arnynt mewn cyd-destun proffesiynol.
Disgrifiad cryno
Yn y modiwl hwn, cynhelir sesiynau a fydd yn rhoi cyflwyniad i’r modiwl ac i waith y cyfieithydd yng Nghymru, cyn i’r myfyrwyr fynd allan i’r gweithle.
Cynnwys
ii. Lleoliad gwaith o 100 o oriau
iii. Sesiwn 1 awr gyda’r cydlynydd yn ystod y cyfnod yn y gweithle
iv. Sesiwn 1 awr o gyd-drafod wedi i gyfnod y profiad gwaith ddod i ben.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Trwy’r portffolio cyfieithu bydd myfyrwyr yn arddangos eu sgiliau iaith a’u gallu i drosglwyddo ystyr o un iaith i’r llall yn gywir ac i safon uchel. Bydd y cyfnod estynedig yn y gweithle yn gofyn am gyfathrebu’n effeithiol â chyfieithwyr proffesiynol a dysgu oddi wrthynt, er na fydd y gwaith hwn yn cael ei asesu’n ffurfiol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Gofynnir i’r myfyrwyr ystyried eu gwaith a’i ddatblygu yn dilyn adborth a fydd yn rhoi cyfle iddynt ystyried datblygiad eu gyrfa ond ni fydd hyn yn cael ei asesu. |
Datrys Problemau | Bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ddewis a dethol pa derminoleg i’w defnyddio a sut i gyfieithu testunau o un iaith i’r llall yn ogystal â gwneud penderfyniadau yn y gweithle. |
Gwaith Tim | Bydd y myfyrwyr yn cyfrannu at drafodaethau mewn seminarau a gweithdai. Byddant hefyd yn cael y cyfle i weithio mewn tîm yn y gweithle, ond ni fydd yr elfen hon yn cael eu hasesu’n ffurfiol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd myfyrwyr yn paratoi portffolio o gyfieithiadau yn y gweithle; byddant yn derbyn adborth ar eu gwaith ac yn mireinio eu sgiliau er mwyn gwella eu perfformiad. Byddant hefyd yn cael profiad o gyfieithu mewn gweithle proffesiynol. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygir sgiliau cyfieithu drwy gwblhau portffolio o gyfieithiadau yn y gweithle. |
Sgiliau ymchwil | Cyn gwneud penderfyniadau deallus ynghylch yr eirfa i’w defnyddio yn y tasgau bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ymchwilio i wahanol ffynonellau (geiriaduron, terminolegau), i darddiad geiriau ac i ddefnydd amrywiol o eirfa. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd yn rhaid i’r myfyrwyr gyflwyno gwaith yn electronig a defnyddio geiriaduron a therminolegau ac adnoddau electronig/digidol wrth baratoi’r cyfieithiadau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7