Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Gweithdy | 2 x Gweithdai 7 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Portffolio 1750 o eiriau ynghyd a Sylwebaeth 750 o eiriau | 100% |
Asesiad Ailsefyll | Portffolio 1750 o eiriau ynghyd a Sylwebaeth 750 o eiriau | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos cynnydd mewn dealltwriaeth o faes cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i Gymraeg.
Datblygu cywirdeb wrth gyfieithu ar wahanol themâu a phynciau.
Dangos dealltwriaeth well o wahanol gyweiriau iaith a sut i’w defnyddio mewn cyfieithiadau
Dangos dealltwriaeth sylfaenol o natur a heriau cyfieithu ar y pryd a’r adnoddau sy’n angenrheidiol gyflawni’r gwaith hwnnw
Nod
Pwrpas y modiwl hwn yw datblygu sgiliau cyfieithu Cymraeg-Saesneg a Saesneg-Cymraeg myfyrwyr trwy gyfrwng nifer o dasgau amrywiol, a rhoi blas o gyfieithu ar y pryd.
Disgrifiad cryno
Yn y modiwl hwn, gosodir tasgau cyfieithu a fydd yn cyflawni sawl amcan: cyflwyno genres amrywiol ac allbynnau gwahanol (e.e. adroddiadau, taflenni marchnata, cofnodion, tudalennau gwe, ymgyrchoedd hysbysebu, gwerslyfrau) ar themâu megis iechyd a gofal, busnes a’r economi, amaeth a’r amgylchedd, addysg, diwylliant, treftadaeth a’r cyfryngau, ac yn y blaen. Canolbwyntir ar ddatblygu cywirdeb a dethol cyweiriau addas wrth gyfieithu. Cyfieithu ysgrifenedig fydd prif ffocws y modiwl hwn ond cynhelir un ‘blas ar gyfieithu ar y pryd’ o’r Gymraeg i’r Saesneg. Rhagwelir y bydd 66%-75% o’r cyfieithiadau o’r Saesneg i’r Gymraeg a 25%-33% o’r Gymraeg i’r Saesneg er mwyn adlewyrchu anghenion a realiti’r sector.
Cynnwys
ii. Bydd 1 sesiwn 2 awr yn rhoi blas i’r myfyrwyr ar gyfieithu ar y pryd
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Trwy’r ymarferion cyfieithu bydd myfyrwyr yn arddangos eu sgiliau iaith a’u gallu i drosglwyddo ystyr o un iaith i’r llall yn gywir ac i safon uchel, a hynny ar amrywiol themâu, mewn amrywiol gyweiriau ac ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd. Bydd y sesiwn cyfieithu ar y pryd yn rhoi blas i’r myfyrwyr o gyfathrebu uniongyrchol â chynulleidfa. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Gofynnir i’r myfyrwyr ystyried eu gwaith a’i ddatblygu yn dilyn adborth a fydd yn rhoi cyfle iddynt ystyried datblygiad eu gyrfa. |
Datrys Problemau | Bydd y darnau prawf cyfieithu yn profi gallu myfyrwyr i ddethol terminoleg briodol ac i gyfieithu testunau yn gywir ac yn effeithiol. |
Gwaith Tim | Bydd y myfyrwyr yn cyfrannu at drafodaethau mewn seminarau a gweithdai, ac yn trafod adborth ar eu gwaith, ond ni fydd yr elfen hon yn cael eu hasesu’n ffurfiol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd myfyrwyr yn paratoi darnau cyfieithu unigol wrth fynd rhagddynt ac, ar sail adborth, yn adolygu eu gwaith ac yn mireinio eu sgiliau er mwyn gwella eu perfformiad. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygir sgiliau cyfieithu trwy gyfrwng cyfres o gyfieithiadau i’r Gymraeg ac i’r Saesneg ar amrywiol themâu ac mewn amrediad o gyweiriau gwahanol. |
Sgiliau ymchwil | Cyn gwneud penderfyniadau deallus ynghylch yr eirfa i’w defnyddio, bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ymchwilio i wahanol ffynonellau (geiriaduron, terminolegau), i darddiad geiriau ac i ddefnydd o eirfa benodol |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd yn rhaid i’r myfyrwyr gyflwyno gwaith yn electronig a defnyddio geiriaduron a therminolegau ac adnoddau cyfrifiadurol wrth baratoi’r cyfieithiadau. Bydd y sesiwn cyfieithu ar y pryd yn defnyddio technoleg briodol ar gyfer y gwaith, er na fydd y sesiwn flasu yn cael ei hasesu’n ffurfiol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7