Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Gweithdy | 10 x Gweithdai 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 1 | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 2 | 60% |
Asesiad Semester | Traethawd 1 Aseiniad: gwerthfawrogiad beirniadol o dair cerdd. (Bydd angen cytuno ar y tair cerdd gyda darlithydd y modiwl) | 40% |
Asesiad Semester | Traethawd 2 Traethawd 2 Er mwyn sicrhau cyfle i fyfyrwyr wneud cynnydd academaidd a gwella eu perfformiad, ceir elfen o asesu cynydddol, sef neilltuo 1 gweithdy dwyawr ar gyfer trafod syniadau myfyrwyr ar gyfer Traethawd 2. | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos dealltwriaeth o’r fframwaith theoretig rhyweddol a ffeminyddol ehangach.
Adnabod a thrafod y prif dueddiadau yng nghanu menywod Cymru 1400–1800 , ynghyd â’u hoblygiadau i ganu merched a’r canon llenyddol Cymraeg ehangach, h.y. canu caeth v. canu rhydd; proffesiynoldeb v. amaturiaeth.
Medru gosod rhai o feirdd benywaidd Cymru tan tua 1800 yn eu cyd-destun hanesyddol a llenyddol.
Pwyso a mesur cerddi’r beirdd yn feirniadol, gan roi sylw i ieithwedd, arddull, themâu a genres.
Medru adnabod dimensiwn cymharol themâu, genres, a thueddiadau cyffredinol beirdd benywaidd Cymru, Lloegr, Iwerddon a’r Alban.
Disgrifiad cryno
Canolbwyntir ar gyfnod allweddol yn hanes merched a barddoniaeth yng Nghymru; sef cyfnod o dwf graddol yn y nifer o ferched a farddonai yn y Gymraeg. Cynigir arolwg o dueddiadau cyffredinol yn y maes a rhoddir sylw manwl i farddoniaeth rhai o’r beirdd benywaidd ‘anghofiedig’ er mwyn cadarnhau’r tueddiadau a’r patrymau cyffredinol a amlinellir. Rhoddir sylw i ffactorau megis cefndir sosio-economaidd, y tyndra rhwng proffesiynoldeb ac amaturiaeth, ynghyd â dewis themâu, mesurau a genres y beirdd benywaidd. Darllenir detholiad o gerddi yn fanwl a, lle bo’n briodol, trafodir themâu a genres cytras ym marddoniaeth menywod yn Lloegr, Iwerddon a’r Alban.
Cynnwys
• Cyflwyniad i fframwaith astudiaethau rhywedd a ffeminyddiaeth (cyd-destun Ewropeaidd ac Eingl-Americanaidd; twf y ddisgyblaeth yng Nghymru a’i heffaith ar y canon llenyddol; lle’r modiwl hwn yn hanesyddiaeth y ddisgyblaeth; cyfiawnhau bodolaeth modiwl fel hwn fel rhan o’r ddadl dros brif-ffrydio astudiaethau rhywedd/ffeminyddiaeth).
• Cyfraniad merched i ddiwylliant a llenyddiaeth Cymru a dilysrwydd ‘traddodiad benywaidd’ fel cysyniad. Trafodir tueddiadau cyffredinol megis rhwystrau ar lwybr bardd benywaidd (disgwyliadau domestig, dosbarth sosio-economaidd, addysg a llythrennedd, y traddodiad barddol); y canu caeth a hyfforddiant amatur y bardd benywaidd; y canu rhydd a’r twf cyfochrog yn y nifer o feirdd benywaidd; pwysigrwydd cyfryngau diwylliant yn y naratif, sef llafaredd a throsglwyddo llafar, diwylliant llawysgrifol a diwylliant print.
Y canon llenyddol benywaidd: lleisiau, themâu a genres
• Gwenllian ferch Rhirid Flaidd a Gwerful Mechain (15g): trosglwyddo llafar a diwylliant llawysgrif; canu caeth a pherthynas menywod â chylchoedd barddol gwrywaidd; canu maswedd; y ddadl ynghylch merched.
• Alis ferch Gruffudd ab Ieuan a Catrin ferch Gruffudd ap Hywel (16g): canu achlysurol; priodas; canu defosiynol; Y Dwiygiad Protestannaidd.
• Siân Briwtwn (16g): cyfeillgarwch rhwng merched (darllenir testunau diweddarach gan ferched eraill hefyd).
• Catrin Owen ac Elen Gwdmon (17g): llais y ferch; cyngor mam; twf y canu rhydd a’i oblygiadau rhyddfreiniol a chreadigol i ferched.
• Angharad James (17g–18g) ac eraill: canu rhydd versus canu caeth; priodas; marwnadau mamau i’w plant. (Darllenir testunau eraill gan ferched ochr yn ochr â cherddi Angharad James).
• Marged Dafydd (18g): y mudiad hynafiaethol; marwnad; cyfeillgarwch rhwng merched.
• Merched a’r emyn (18g): Dorothy Jones, Ann Griffiths ac eraill: trosglwyddo llafar, lle menywod yn y traddodiad emynyddol; canu crefyddol fel cyfrwng rhyddfreiniol i ferched.
(Er mwyn sicrhau cyfle i fyfyrwyr wneud cynnydd academaidd a gwella eu perfformiad o’r naill asesiad i’r llall, neilltuir 1 gweithdy dwyawr ar gyfer trafod syniadau’r myfyrwyr gogyfer Traethawd 2.)
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Anogir myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn glir yn yr aseiniadau ysgrifenedig. Bydd darlithiau yn cynnwys elfen gref o drafod ond nid asesir trafodaethau grŵp yn ffurfiol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithlon a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl |
Datrys Problemau | Trwy ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, â chysyniadau deallusol sy’n codi o’r cyd-destun hanesyddol ac o destunau penodol. |
Gwaith Tim | Trwy gyfrannu at drafodaethau grŵp ynghylch y testunau. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu tiwtoriaid ar waith ysgrifenedig a chyfraniadau llafar; ymwneud â chymheiriaid yn ystod trafodaethau grŵp; datblygu sgiliau trefnu amser/gwaith; myfyrio ar sgiliau cyflwyno a gwaith ysgrifendig arall. Bydd modd i fyfyrwyr wella eu gallu i ddarllen a dehongli testunau hanesyddol. |
Rhifedd | Amherthnasol. |
Sgiliau pwnc penodol | Trwy feithrin gallu myfyrwyr i ddarllen a deall testunau mewn Cymraeg Canol a Chymraeg Modern Cynnar, a thrwy hynny ddysgu mwy am ddatblygiad yr iaith Gymraeg. |
Sgiliau ymchwil | Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer asesiadau ysgrifenedig (traethawd) a chyfraniadau i drafodaethau grŵp. Hefyd, trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol. |
Technoleg Gwybodaeth | At ddibenion ymchwil (aseiniadau a chyflwyniadau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y BwrddDu. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5