Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Gweithdy | 10 x Gweithdai 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Tasg aralleirio a gwerthfawrogi | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 3000 o eiriau | 60% |
Asesiad Semester | Tasg aralleirio a gwerthfawrogi 2000 o eiriau | 40% |
Asesiad Semester | Traethawd 3000 o eiriau | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Adnabod y testunau mwyaf perthnasol ar gyfer olrhain datblygiadau cynharaf y chwedl Arthuraidd.
2. Pwyso a mesur y dadleuon o blaid ac yn erbyn y gred fod Arthur yn berson hanesyddol o gig a gwaed.
3. Gwerthfawrogi o leiaf ddwy gerdd gynnar o safbwynt yr hyn a ddywedir ynddynt am y chwedl Arthuraidd, a dangos dealltwriaeth ohonynt.
4. Gwerthfawrogi’r testun rhyddiaith ‘Culhwch ac Olwen’ o safbwynt yr hyn a ddywedir ynddo am y chwedl Arthuraidd, a dangos dealltwriaeth ohono.
5. Olrhain trosglwyddiad ansefydlog a gwerthfawr y testunau a astudir drwy gyfrwng llawysgrifau cynnar.
6. Dangos dealltwriaeth o natur y delfryd arwrol yn yr Oesoedd Canol o safbwynt Cymreig.
Disgrifiad cryno
Yn sgil pwysigrwydd y ffynonellau hynny i ddiwylliant a hanes Cymru, diben y modiwl hwn yw cynnal y diddordeb yn y maes mewn cyd-destun academaidd Cymraeg. At hynny, mae astudiaeth o’r maes yn fodd hwylus o ymgyfarwyddo â nifer o wahanol feysydd eraill, megis hanesyddiaeth (Historia Brittonum), barddoniaeth gynnar (‘Preiddiau Annwfn’), chwedlau cynnar (‘Culhwch ac Olwen’) a bucheddau seintiau fel Cadog ac Illtud. Mae hefyd yn gyflwyniad defnyddiol i’r ddisgyblaeth o ddarllen testunau Cymraeg Canol.
Bwrir golwg yn y modiwl hwn ar y testunau cynharaf sy’n ymwneud â’r chwedl Arthuraidd. Beth sydd ar ôl i’w weld o Arthur ar ôl diosg coron aur y brenin poblogaidd, gwisg urddasol ymerawdwr y rhamantau Ffrengig a’r fantell ddychmygus a roddwyd iddo gan Sieffre o Fynwy? Mae’r ateb yn aml yn ansicr ond bob tro’n gyffrous ac amlweddog. A fu Arthur hanesyddol o gig a gwaed? Edrychir yn fanwl ar y ffynonellau a ystirir weithiau’n rhai hanesyddol.
Edrychir hefyd ar y ffynonellau mwy niferus sy’n creu darlun o Arthur fel arwr a phennaeth ar fintai o ryfelwyr. Astudir dwy gerdd, y naill o Lyfr Du Caerfyrddin, sef ‘Pa Ŵr yw’r Porthor’, a’r llall o Lyfr Taliesin, sef ‘Preiddiau Annwfn’. Astudir hefyd rannau o chwedl ‘Culhwch ac Olwen’ sy’n ymwneud ag Arthur a’i wŷr, yn enwedig Cai a Bedwyr. Bydd darllen yn ofalus a thrylwyr destunau Cymraeg Canol yn rhan allweddol o’r gwaith hwn.
Cynnwys
1. Y maes llafur: braslun o’r maes ac o’r ffynonellau perthnasol;
2. A oedd Arthur yn ddyn o gig a gwaed? Astudio’r ffynonellau;
3. Darllen ac astudio ‘Pa Ŵr yw’r Porthor’;
4. Darllen ac astudio ‘Pa Ŵr yw’r Porthor’;
5. Darllen ac astudio ‘Preiddiau Annwfn’;
6. Darllen ac astudio ‘Preiddiau Annwfn’;
7. Darllen ac astudio rhannau o chwedl ‘Culhwch ac Olwen’;
8. Darllen ac astudio rhannau o chwedl ‘Culhwch ac Olwen’;
9. Darllen ac astudio rhannau o chwedl ‘Culhwch ac Olwen’;
10. Darllen ac astudio rhannau o chwedl ‘Culhwch ac Olwen’.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Ceir yn y darlithoedd elfen o drafod a chyd-ddarllen, ac anogir y myfyrwyr i gyfathrebu’n effeithiol yn hyn o beth. At hynny, disgwylir i’r myfyrwyr gyfrathrebu’n effeithiol yn ysgrifenedig wrth lunio’r traethawd ac wrth gwblhau’r arholiad. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithlon a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl. |
Datrys Problemau | Datblygir drwy’r darlithoedd allu’r myfyrwyr i ddatrys problemau yn ymwneud â darllen yn fanwl destunau Cymraeg Canol. |
Gwaith Tim | Anogir y myfyrwyr i drafod a chyd-ddarllen yn y darlithoedd wrth astudio’r testunau. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Anogir y myfyrwyr i wella eu gallu i ddarllen a dehongli testunau Cymraeg Canol yn wythnosol. |
Rhifedd | Mae rhoi ystyriaeth i berthynas gwahanol destunau yn ôl y dyddiadau pan gawsant eu creu yn rhan o’r gwaith. |
Sgiliau pwnc penodol | Y gallu i ddarllen a deall testunau barddonol a rhyddiaith Cymraeg Canol, a thrwy hynny i ddysgu mwy am ddatblygiad yr iaith Gymraeg o’r Oesoedd Canol hyd heddiw. |
Sgiliau ymchwil | Asesir y gallu i ymchwilio’n annibynnol ac i bwyso a mesur testunau a gwybodaeth yn feirniadol yn Asesiad 1 a 2. |
Technoleg Gwybodaeth | Anogir y myfyrwyr i wneud defnydd o’r Bwrdd Du ac i ddod o hyd i ddelweddau o rai o’r ffynonellau perthnasol ar lein (er enghraifft, cerddi o Lyfr Du Caerfyrddin ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol). |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5