Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
CY11620
Teitl y Modiwl
Trafod y Byd Cyfoes trwy'r Gymraeg
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminar | 10 x Seminarau 1 Awr |
Gweithdy | 20 x Gweithdai 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar 5 munud | 20% |
Asesiad Semester | cyfrannu at ddosbarthiadau llafar ac ymarferol asesu parhaus | 10% |
Asesiad Semester | arwain trafodaeth mewn seminar un pwnc seminar fesul myfyriwr | 10% |
Asesiad Semester | asesiad gwrando a deall 20 munud | 20% |
Arholiad Semester | Arholiad llafar ar ddiwedd semester 1 | 40% |
Asesiad Ailsefyll | cyflwyniad llafar 5 munud | 20% |
Asesiad Ailsefyll | cyfrannu at y dosbarthiadau llafar ac ymarferol asesu parhaus | 10% |
Asesiad Ailsefyll | arwain trafodaeth mewn seminar un pwnc fesul myfyriwr | 10% |
Asesiad Ailsefyll | asesiad gwrando a deall 20 munud | 20% |
Arholiad Ailsefyll | Arholiad llafar 10 munud | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Trafod newyddion, materion cyfoes a diwylliannol yn ymwneud â Chymru a’r byd yn hyderus yn y Gymraeg.
deall a defnyddio ystod eang o eirfa briodol ac addas ar gyfer gwahanol feysydd cyfoes a diwylliannol, wrth siarad ac wrth wrando.
dangos dealltwriaeth o gyweiriau’r Gymraeg a’r modd y mae’r iaith yn gweithio mewn gwahanol gyfryngau print a digidol.
defnyddio cywair iaith priodol wrth gyfathrebu ar lafar.
Disgrifiad cryno
Modiwl ymarferol yw hwn a fydd yn cadarnhau ac yn atgyfnerthu sgiliau llafar myfyrwyr Ail Iaith er mwyn eu paratoi ar gyfer trafod ystod eang o bynciau ffurfiol ac anffurfiol yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg. Dysgir y derminoleg a’r eirfa gysyniadol sy’n angenrheidiol wrth astudio’r Dyniaethau yn y Brifysgol ac yn y gweithle Cymraeg ei iaith.
Rhoddir sylw i’r iaith lafar safonol a chanolbwyntir ar faterion cyfoes sy’n ymwneud â Chymru a’r byd cyfoes yn gyffredinol.
Rhoddir sylw i’r iaith lafar safonol a chanolbwyntir ar faterion cyfoes sy’n ymwneud â Chymru a’r byd cyfoes yn gyffredinol.
Nod
Rhesymeg y modiwl hwn yw cadarnhau ac yn atgyfnerthu sgiliau llafar myfyrwyr Ail Iaith er mwyn eu paratoi ar gyfer trafod ystod o bynciau ffurfiol ac anffurfiol yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cynnwys
Trafodir pynciau amrywiol ac iddynt ffocws ar ddiwylliant a’r dyniaethau mewn gweithdy wythnosol, e.e. tafodieithoedd Cymru; cyweiriau’r Gymraeg; nodweddion yr iaith lafar a’r iaith lenyddol; yr Eisteddfod; diwylliant poblogaidd a cherddorol Cymru; Llywodraeth Cymru a datganoli; byd natur a bywyd gwyllt; beirniadu llenyddiaeth.
Bydd Seminar wythnosol yn gyfle i ganolbwyntio ar drafod pynciau llosg a newyddion y dydd. Defnyddir adnoddau print ac electronig, e.e. erthyglau ar Golwg, Golwg360, Barn, Cymru Fyw, ac ati.
Cynhelir dau Weithdy wythnosol ychwanegol i ganolbwyntio ar sgiliau gwrando a chyflwyno.
Bydd Seminar wythnosol yn gyfle i ganolbwyntio ar drafod pynciau llosg a newyddion y dydd. Defnyddir adnoddau print ac electronig, e.e. erthyglau ar Golwg, Golwg360, Barn, Cymru Fyw, ac ati.
Cynhelir dau Weithdy wythnosol ychwanegol i ganolbwyntio ar sgiliau gwrando a chyflwyno.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Rhesymeg y modiwl yw galluogi myfyrwyr i’w mynegi eu hunain yn hyderus ar lafar mewn Cymraeg cyfoes. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Trwy ymgyfarwyddo â materion cyfoes a newyddion, a dysgu sut i addasu deunydd i’w gyflwyno i eraill ar lafar. Trwy fagu hyder i gyfathrebu ar lafar yn y Gymraeg. |
Datrys Problemau | Rhesymeg y modiwl yw trin a thrafod nodweddion llafar Cymraeg cyfoes. Bydd myfyrwyr yn wynebu heriau o safbwynt geirfa, cystrawen a mynegiant. |
Gwaith Tim | Bydd myfyrwyr yn cydweithio ag eraill yn y gweithdai a’r seminiarau, wrth baratoi cyflwyniad llafar, ac wrth arwain trafodaeth. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Trwy dderbyn ac ymateb i adborth gan staff dysgu mewn gweithdai a seminarau. |
Rhifedd | amherthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Dysgir am gyweiriau’r Gymraeg a chanolbwyntir yn y modiwl hwn ar deithi Cymraeg llafar safonol a’r modd y defnyddir hi. |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio adnoddau’r llyfrgell ac adnoddau arlein wrth fynd i’r afael â’r modiwl hwn. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio geirfa a straeon am ddigwyddiadau cyfoes arlein, e.e. Golwg360, Cymru Fyw, Twitter. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4