Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 20 x Darlithoedd 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd 1500 o eiriau | 40% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad ysgrifenedig | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 1500 o eiriau | 40% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
dangos dealltwriaeth o themâu ac o genres llenyddiaeth fodern a chyfoes y Gymraeg (barddoniaeth a rhyddiaith);
dangos dealltwriaeth o brif fudiadau llenyddol y cyfnod fel yr amlygant eu hunain yng ngwaith llenorion y cyfnod: Moderniaeth, Ôl-foderniaeth, Dadeni’r Gynghanedd, Ffeminyddiaeth;
medru trafod detholiad o destunau unigol yn feirniadol, ynghyd â’u gosod yng nghyd-destun canon yr awdur, ynghyd â’u cyd-destun hanesyddol a chymdeithasol priodol.
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl craidd hwn yn rhoi trosolwg beirniadol i fyfyrwyr o themâu ac o genres llenyddiaeth fodern a chyfoes y Gymraeg (barddoniaeth a rhyddiaith), yn ogystal â’u galluogi i werthfawrogi detholiad o destunau unigol yn feirniadol.
Nod
Mae’r modiwl craidd hwn yn rhoi trosolwg beirniadol i fyfyrwyr o themâu ac o genres llenyddiaeth fodern a chyfoes y Gymraeg, yn ogystal â’u galluogi i werthfawrogi detholiad o destunau unigol yn feirniadol.
Cynnwys
Wythnos 1
Canu telynegol
John Morris-Jones – ‘Cwyn y Gwynt’
Crwys – ‘Y Border Bach’
Iorwerth C. Peate – ‘Y Gegin Gynt yn yr Amgueddfa Werin’
Wythnos 2
Saunders Lewis, Monica
Wythnos 3
Canu myfyriol
R. Williams Parry, ‘Adref’
Gwyn Thomas – ‘Croesi Traeth’
Steve Eaves, ‘Y Canol Llonydd Distaw’
Wythnos 4
Kate Roberts, Ffair Gaeaf a Storïau Eraill
Wythnos 5
Canu gwleidyddol
Gwenallt, ‘Rhydcymerau’
I. D. Hooson, ‘Y Pabi Coch’
Iwan Llwyd, ‘Iawn, gei di ofyn cwestiwn personol’
Wythnos 6
T.H. Parry-Williams: Ysgrifau
Wythnos 7
Canu ysgafn
Geraint Løvgreen, ‘Y Diwrnod Cyntaf’
Twm Morys, ‘Y Gwyddel Gwyn a Du’
Grahame Davies, ‘DIY’
Wythnos 8
Islwyn Ffowc Elis, Marwydos
Wythnos 9
Canu lle
T. Gwynn Jones, ‘Ystrad Fflur’
T. H. Parry-Williams, ‘Tŷ’r Ysgol’
Iwan Llwyd, ‘Far Rockaway’
Wythnos 10
Robin Llywelyn, Seren Wen ar Gefndir Gwyn
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Anogir myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn eglur ac yn argyhoeddiadol yn yr aseiniadau ysgrifenedig. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithiol a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl. |
Datrys Problemau | Trwy ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, â chysyniadau deallusol sy’n codi o’r cyd-destun hanesyddol ac o destunau llenyddol penodol. |
Gwaith Tim | Trwy gyfrannu at drafodaethau grŵp ynghylch y testunau a’r cysyniadau allweddol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu twtoriaid ar waith ysgrifenedig a chyfraniadau llafar; ymwneud â chymheiriaid yn ystod trafodaethau grŵp; datblygu sgiliau trefnu amser/gwaith; myfyrio ar sgiliau cyflwyno a gwaith ysgrifenedig arall. Bydd modd i fyfyrwyr wella eu gallu i ddarllen a dehongli testunau hanesyddol. |
Rhifedd | amherthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Trwy feithrin gallu myfyrwyr i ddarllen a deall testunau, a thrwy hynny ddysgu mwy am ddatblygiad yr iaith Gymraeg a nodweddion generig y testunau a astudir. |
Sgiliau ymchwil | Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig (traethawd) a chyfraniadau i drafodaethau grŵp. Hefyd, trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau electronig a llyfryddol. |
Technoleg Gwybodaeth | At ddibenion ymchwil (aseiniad a thrafodaethau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y BwrddDu |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4