Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Ymarferol | 10 x Sesiynau Ymarferol 2 Awr |
Darlith | 22 x Darlithoedd 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad ychwenegol | 60% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad Ysgrifenedig | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Ail cyflwyno tasgau ymarferol a methwyd, neu arall o werth cyfartal. | 40% |
Asesiad Semester | 2 tasg ymarferol pob un yn gynnwys cynllunio ac implemteiddio set o dudalennau we. | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Adeiladu safle wê syml gan ddefnyddio System Rheoli Cynnwys a thrwy ysgrifennu HTML, a rheoli arddull drwy defnyddion CSS.
Disgrifio pensaerniaeth y wê a'r gwahaniaeth rhwng prosesu ochr cleient ac ochr gweinydd.
Esbonio'r gwahaniaeth rhwng strwythr, arddull a chynnwys ddeunydd wê, a'r lles o wahaniaethu rhyngddyn nhw.
Ysgrifennu côd ochr cleient i ryngweithio, darllen a phrosesu cynnwys tudalen wê.
Cynllunio, gosod a gofyn basau data aml-tabl ac esbonio rhesymau am ddefnyddio bas data aml-tabl.
Cronfeydd data aml-bwrdd - Modelu perthnasau endid: endidau, priodoleddau, perthnasoedd, perthnasoedd llawer i lawer. Primary and foreign keys. Deillio set o dablau o fodel.
Cynnwys, cyflwyniad a strwythur. (X) HTML, CSS.
Dilysu, safonau gwe, HTML fel XML / SGML. Dogfennau fel coed. Rhyfeloedd porydd.
Sgriptio ochr cleient - prosesu ECMAScript (JavaScript) a ffurflenni HTML. The Document Object Model (Model Gwrthrych Dogfen).
Cymhariaeth ochr cleient a gweinydd. Gwaith ochr y gweinydd. Y protocol HTTP. Cyflwyniad i egwyddorion rhaglenni ar gyfer ochr y gweinydd.
Offer graffeg: Golygyddion Graffeg a meddalwedd Animeiddio.
Dyfodol y we: syndicat, chwilio. Gwe 2.0. Gwe 3.0. Y we semanteg, cymdeithasol, a symudol.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno technolegau craidd a phensaernïaeth y we. Ynddo, byddwn yn ymdrin â chyfathrebu; strwythur a chyflwyniad cynnwys; y model gweinydd cleient; ffeithiau sylfaenol cronfeydd data ar gyfer rhaglenni’r we. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddatblygu dealltwriaeth ddamcaniaethol ac ymarferol o'r we a chronfeydd data.
Nod
Mae dealltwriaeth o dechnoleg i'r we yn rhan allweddol yn y maes cyfrifiadureg a thechnoleg gwybodaeth cyfoes.
Cynnwys
2. Cyflwyniad cronfa ddata: Creu cronfa ddata, creu tablau, mewnosod data, dewis data.
3. Cronfa ddata syml sy'n cysylltu â WordPress ac OSCommerce (neu'n debyg).
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Cyfrwng cyfathrebu ydy'r wê. Ymdrinnir â llawer o nodweddion ar gyfer cyfathrebu effeithiol a phwysleisir defnydd da ohonynt |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd angen sgiliau rheoli amser er mwyn cyflawni'r gwaith cwrs. |
Datrys Problemau | Gellir llawer o agweddau yn y ffordd mae'r wê yn gweithio cael ei darparu mewn mwy nag yn ffordd, neu gellir bod yn gymhleth i ddatblygu. Bydd angen i fyfyrwyr gymhwyso gwybodaeth i atebion effeithiol |
Gwaith Tim | |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd angen dysgu manylder o dechnolegau o ffynonellau technegol proffesiynol; rhoddir arweiniad strategol mewn darlithoedd. Mae defnydd effeithiol o'r adnoddau hyn yn gofyn am strategaethau da o bori a darllen. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth fanwl o dechnolegau gwê ochr y cleient a byddant yn gwerthfawrogi offer cyfoes |
Sgiliau ymchwil | Bydd rhaid i'r myfyrwyr chwilio a defnyddio manylion technegol perthnasol drwy cyflawni gwaith ymarferol a aseswyd. |
Technoleg Gwybodaeth | Mae'r holl modiwl yn ymwneud â Thechnoleg Gwybodaeth. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4